Showing 43 results

Archival description
Cofnodion Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

Anfonebau; a chatalog sêl Tŷ Canol

Papurau, 1978-2001, yn ymwneud â materion ariannol, y rhan fwyaf yn anfonebau. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys mapiau (1979-1980); catalog sêl ar gyfer Tŷ Canol (1891); a thorion o’r wasg (1980-1981).

Nant Gwrtheyrn Welsh Language and Heritage Centre

Ffeiliau y Trysorydd

Cofnodion yn ymwneud â materion ariannol, 1979-1992, yn cynnwys manylion adroddiadau archwilwyr, (1981-1992); manylion incwm (1979-1981, 1986-1988); ffurflenni a phapurau treth a TAW (1986-1990); costau rhedeg a hyfforddiant y rhaglen cymuned MSC (Manpower Service Commission) (1986-1987); costau a llif arian (1986-1987; 1989-1990); ac adroddiadau ariannol y trysorydd (1986-1987).

Archebion; holiaduron; Grŵp Aelodau Nant Gwrtheyrn; Y Comisiwn Elusennau; EWROSGOL; cynlluniau adeilad; arwyddion; agoriad Caffi Meinir; Plas Pistyll

Gohebiaeth a phapurau yn ymwneud â materion amrywiol datblygu safle ac adeiladau Nant Gwrtheyrn, yn cynnwys archebion llety ([?1990]x[?1995]); holiaduron (1994); materion ariannol (1993-1994); Grŵp Aelodau Nant Gwrtheyrn (GANG) (1992); Y Comisiwn Elusennau (1993-1994); Pwyllgor Gwaith Ewrosgol (1990); werthiant Plas Pistyll (1993); Cofrestrau Cyfamodi (1988); Cynllun Adfer Tir (1991); cynlluniau adeilad (1981); Coed Cymru (1993); eiddo a dodrefn (1992-1993); arwyddion (1992); iechyd a diogelwch (1991); ac agoriad Caffi Meinir (1991-1993). Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys X2 print lliw o’r Nant, ([?1990]-[?1995]), a nifer o dorion o’r wasg (1972; 1976; 1993-1994).

Pryniant ac apêl Nant Gwrtheyrn; trefni digwyddiadau; cofnodion Cyfeillion y Nant; werthiant Craig y Nos; Plas Pistyll

Gohebiaeth a phapurau, 1978-1993, yn ymwneud â phryniant ac apêl Nant Gwrtheyrn, datblygu’r safle, a threfnu gweithgareddau (1978-1988); rhoddion (1980-1982); pwyllgor apêl (1986); ceisiadau grant (1988); cofnodion cyfeillion y Nant, (1984-1986); gwerthiant Craig y Nos (1988); a gwerthiant Plas Pistyll (1993). Yn ogystal, ceir copi o 'MA Language Studies' (1992); a ffurflenni gwirfoddolwyr (1980-1981).

Pryniant Nant Gwrtheyrn; rhoddion; nawdd; ac apêl ariannol

Gohebiaeth a phapurau, 1972-1981, parthed datblygiad Nant Gwrtheyrn a materion ariannol, yn cynnwys gohebiaeth yn ymwneud â phryniant Nant Gwrtheyrn, sefydlu Ymddiriedolaeth, a chynlluniau i ddatblygu’r safle (1972-1980); a gohebiaeth yn ymwneud â rhoddion, nawdd, a’r apêl i godi arian ar gyfer y datblygiad (1979-1981).

Nant Gwrtheyrn Welsh Language and Heritage Centre

Rhaglen Cymuned y Ganolfan Gwaith; swyddi; a trefni cyrsiau

Mae rhan fwyaf o’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth a phapurau, 1985-1987, yn ymwneud â rhaglen gwaith cymunedol y Canolfan Gwaith yn Nant Gwrtheyrn; a gohebiaeth a phapurau, 1987-1990, yn trafod trefnu cyrsiau amrywiol yn y Nant. Yn ogystal, ceir gohebiaeth a phapurau yn ymwneud â cheisiadau swydd (1989-1990); rhoddion a thaliadau (1982-1988); a chopïau o Gylchlythyr Trawsfynydd (1988).

Gweithgareddau staff; swyddi; amserlenni; hyforddiant staff; a pholisïau staff

Gohebiaeth a phapurau, 1986-2013, yn ymwneud â materion staff, yn cynnwys gweithgareddau staff (1993); ffurflenni oriau gwaith (1992-1993); disgrifiadau swydd (1991-1993); adroddiad y cyfarwyddwr (1987); hyfforddiant staff (1992); hysbysebu swyddi (2001-2007); a pholisïau staff (1997-2013). Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys disg hyblyg wedi ei theitlo ‘Disgrifiadau Swydd’ (1993).

Results 1 to 20 of 43