Dangos 29 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Harri Gwynn, ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Llythyrau A-D,

Llythyrau, [1948]-[1964], gan gynnwys rhai oddi wrth Teleri [Bevan] (2), John Cale (3), Joseph P. Clancy, W. Emrys Cleaver, Alun [Talfan Davies] (13), Aneirin [Talfan Davies] (2), Cassie [Davies], E. Tegla Davies, Pennar Davies ac W. Anthony Davies (4).

Bevan, Teleri, 1931-

Llythyrau J-N,

Llythyrau, [1948]-[1983], gan gynnwys rhai oddi wrth Bedwyr Lewis Jones, Bobi Jones (2), Dafydd Glyn Jones, E. D. Jones, F. Wynn Jones, Glyn Jones, Gwilym R. Jones, J. E. Jones, John Gwilym Jones (2), Kitty Idwal Jones, Henry Lewis, [D.] Tec[wyn] Lloyd (8), Alan Llwyd (2), Tom Macdonald, Awen Mona, Prys Morgan, T. J. Morgan, James Nicholas (3), a W. Rhys Nicholas.

Jones, Bedwyr Lewis

Llythyrau O-W,

Llythyrau, [1938]-[1980]. Ymhlith y gohebwyr mae Jack Oliver, Dyddgu [Owen], Dyfnallt [Owen], Thomas Parry (2), Iorwerth Peate, Caradog [Prichard], D. Hughes Parry, y Cyrnol R. C. Ruck (5), E. Prosser Rhys, Gwyn Thomas, T. Glyn Thomas, Gildas Tibbott, Huw [Wheldon] (2), D. J. Williams (2), Emlyn Williams, G. Brynallt Williams, J. E. Caerwyn Williams, Jac L. Williams, John Lazarus Williams, John Roberts Williams (6) a T. H. Parry-Williams. Ceir copi o Trysorfa'r Plant, Hydref 1961, yn cynnwys cerdd Harri Gwynn 'I'r Tractor', gyda llythyr Griffith Owen, 1961.

Oliver, Jac, 1904-1984.

'Llythyrau eraill',

Llythyrau, [1952]-[1984], yn ymateb i adolygiadau gan Harri Gwynn o weithiau'r gohebwyr, yn Y Cymro yn bennaf. Ymlith y gohebwyr mae Bryan [Martin Davies], Jane [Edwards], Islwyn Ffowc [Elis], Hywel H[arries], Beti Hughes, Isfoel, Bedwyr [Lewis Jones], Bobi [Jones], englyn gan Derwyn [Jones], [R.] Gerallt Jones, Gwilym R. [Jones], J. E. [Jones], John Roderick Rees, Ernest Roberts, Kate Roberts, Selyf [Roberts], Gwilym R. Tilsley, a D. J. Williams (2).

Davies, Bryan Martin

Llythyrau: 1986,

Llythyrau, 1986, oddi wrth unigolion yn ymddiheuro na fedrent fynychu'r Cyfarfod Teyrnged i Harri Gwynn, yn eu plith ceir llythyrau oddi wrth Bedwyr [Lewis Jones], Islwyn Ffowc [Elis] ac R. S. Thomas.

Jones, Bedwyr Lewis

Personalia,

Llyfr adroddiadau Harri Gwynn Jones tra'n ddisgybl yn Ysgol Sir y Bermo, 1924-1930, yn cynnwys tystysgrifau addysg, 1928 a 1930, a thystlythyrau, 1936-1948. Ceir hefyd ei gardiau aelodaeth i wahanol gymdeithasau yn y Brifysgol ym Mangor, 1934-1940; tystysgrifau am ennill mewn eisteddfodau i fyfyrwyr, 1931-1932, 1934, a'i bryddest fuddugol 'Y Wledd yng Ngwalas', Caerdydd, 1932; rhestr o'r myfyrwyr a ddewiswyd i fynychu cynhadledd ryngwladol yn Ffrainc yn 1935 gan gynnwys Harri Gwynn; gwahanlithoedd o'i erthygl 'The Llandudno copper mines in the eighteenth century', Bulletin of the Board of Celtic Studies, Tachwedd 1939; Journal of the Royal Society of Arts, Tachwedd 1939, yn cynnwys ei ddarlith 'The Charcoal-Iron Industry'; a 'Pwy ydoedd "Shon Gwialan"?', [Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 1940].

Gwerin,

Papurau, 1936-1966, yn ymwneud â'r mudiad Gwerin, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Goronwy Roberts, y llywydd, Walter Dowding ac Ernest Evans, a llythyrau diweddarach oddi wrth Goronwy Roberts; 'Gwerin. Braslun o'r polisi'; llyfr cofnodion y Pwyllgor Cyffredinol, 1936-1937; a thorion o'r wasg, 1936-1937. Harri Gwynn oedd Ysgrifennydd y mudiad hwn.

Roberts, Goronwy, 1913-1981

Teyrngedau,

Torion o'r wasg, 1985-1986, 1992, yn cynnwys teyrngedau a luniwyd gan gyfeillion Harri Gwynn. Ceir torion hefyd yn ymwneud â'r digwyddiad a drefnwyd i'w goffáu gan yr Academi Gymreig a rhaglen y diwrnod, 11 Hydref 1986, ynghyd â llungopi o'r Ddinas, Awst 1955, yn cynnwys portread ohono a chopi o Yr Ŵyl, 1992 (Cylchgrawn Croeso i Brifwyl Aberystwyth, Ceredigion), yn cynnwys erthygl 'Rhyw, sgandal a sbeit' yn ymwneud â helynt Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth 1952.

'Hanes Harri Gwynn',

Papurau, [1939]-[1985], gan gynnwys tocyn yn hysbysebu darlith Harri Gwynn 'The Charcoal-Iron Industry', Llundain 1939; 'Braslun o yrfa Harri Gwynn' a gyflwynodd i Bwyllgor Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1955; copi o erthygl Gwynn ap Gwilym 'Barddoniaeth Harri Gwynn', Barddas, Awst 1985; ynghyd â llungopïau o gatalog Llyfrgell Prifysgol Bangor yn rhestru'r papurau a gyflwynodd yn deillio o'i waith ymchwil ar John Kelsall, a llyfryddiaeth a baratowyd gan [Dr Eirwen Gwynn].

'Gwaith cynnar Harri Gwynn',

Ei delyneg 'Pont y Pentre' [un o'i gerddi cyntaf] a enillodd y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Fach yng Nghorwen yn 1929 [a gyhoeddwyd yn Cymru'r Plant, Awst 1929], a'r dystysgrif a gyflwynwyd iddo; papur arholiad yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Ysgol Sir Abermaw, 1929; a phryddest 'Castell Elen', Eisteddfod Dolyddelen [Dolwyddelan], 1929.

Cerddi diweddarach,

Llyfr nodiadau, 1931-1933, yn cynnwys ei gerddi a ddaeth i'r brig yn Eisteddfod Myfyrwyr Bangor 1931, a cherddi eraill; 'English poems', 1932-1936, mewn llawysgrif a theipysgrif; soned anfuddugol 'Yr Hengwrt', Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau 1949; a 'Dail a Phren (Myfyrdod Hydref)', 1979.

'Cerddi Saesneg',

Cerddi teipysgrif yn bennaf, gan gynnwys 'Yearning', ei gyfieithiad o soned R. Williams Parry ['Mae Hiraeth yn y Môr'].

'Cerddi Cymraeg',

Cerddi gan gynnwys drafftiau o'r rhai a gyhoeddwyd yn Barddoniaeth Harri Gwynn yn 1954.

'O Sanctaidd Swynwyr',

Copi printiedig o'i gyfaddasiad o 'Blest Pair of Sirens', geiriau gan C. Hubert H. Parry, ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1955, gyda llythyr, 1955, oddi wrth Novello & Company, yn ymwneud â'r amodau a chytundeb, 1956, ynghyd â chopi o'r fersiwn gwreiddiol, 1951.

Cyfieithiadau,

Rhestr o'r caneuon a gyfieithiwyd ganddo o'r Saesneg i'r Gymraeg ar gyfer y gyfres radio 'Cocacabana', 1963, a phapurau'n ymwneud ag ymweliad beirdd o Hwngari â Chymru a drefnwyd gan yr Academi Gymreig yn 1980, gan gynnwys llungopïau o gyfieithiadau o'u gwaith o Modern Hungarian Poetry. Ceir copi hefyd o Dock Leaves, Gaeaf 1952, yn cynnwys cyfieithiad Cyrnol R. C. Ruck 'The Creature'.

'Y Creadur' yn Saesneg,

Cyfieithiad y Cyrnol R. C. Ruck o bryddest Harri Gwynn 'Y Creadur' i'r Saesneg, [1952], a gyhoeddwyd yn Dock Leaves, Gaeaf 1952 (drafft a fersiwn diwygiedig). [Ceir cyfieithiad Robert Minhinnick ohoni yn The Bloodaxe Book of Modern Welsh Poetry : 20th-century Welsh-language poetry in translation (Tarset, 2003)]. Ymhlith y cerddi eraill mae 'Gwalia' a gyfansoddodd yn arbennig yn 1937 i Eirwen Gwynn. Ceir hefyd ei bryddest anfuddugol 'O'r Dwyrain', Eisteddfod Genedlaethol Pen-y-bont ar Ogwr 1948, a'i bryddest radio 'Yr Ysgall a'r Drain', 1952 [a gyhoeddwyd yn Barddoniaeth Harri Gwynn yn 1954], ynghyd ag argraffiad arbennig o ddyfyniad o'i gerdd 'Pont', Eisteddfod Genedlaethol Y Rhyl a'r Cyffiniau 1985.

Ruck, R. C. (Richard Conyers), 1887-1973

Canlyniadau 1 i 20 o 29