Showing 65 results

Archival description
Papurau Gwenlyn Parry
Print preview View:

Manolis,

Sgript anghyflawn o'r ddrama Manolis, [1988?], a ysgrifennwyd yn wreiddiol gan Rhydderch Jones ond a addaswyd ar gyfer y teledu gan Gwenlyn Parry a John Hefin. Ceir hefyd amlinelliad o gynnwys y ddrama a disgrifiad o'r prif gymeriadau.

Jones, Rhydderch, d. 1987

Pentip RFC,

Drafftiau teipysgrif o'r ddrama Pentip RFC (pennod 1), 1989, gan Gwenlyn Parry a Dewi Pws Morris; ynghyd â chrynodebau o benodau 1 a 2, nodiadau llawysgrif yn ymwneud â'r ddrama, a sylwadau Ifan Roberts o S4C ar y bennod gyntaf.

Pws, Dewi.

Ffoi,

Sgriptiau o gyfres ddrama Gwenlyn Parry, Ffoi (penodau 1-2), 1990; ynghyd â llyfr nodiadau, crynodeb o bennod 3, amlinelliad o'r gyfres a disgrifiadau o'r cymeriadau.

Dilyn y Ddraig: y Cartref,

Sgript o'r ddrama Dilyn y Ddraig: y Cartref, 1989, a chopi o'r cyfieithiad Saesneg, Dragon Trail: the Home; ynghyd â drafftiau cynnar o'r ddrama, yn dwyn y teitl gwreiddiol Dirwasgiad a Throthwy Rhyfel.

Mwy Na Phapur Newydd,

Drafftiau o'r ddrama Mwy Na Phapur Newydd, pennod 7 (cyfres 2), [1990], a ysgrifennwyd gan Gwenlyn Parry; ynghyd â chyfarwyddiadau i ysgrifenwyr cyfresi 1 a 2, yn cynnwys amlinelliad o gynnwys bob pennod a disgrifiadau o rai o'r prif gymeriadau.

Un Nos Ola Leuad,

Papurau, [1966]-1991, yn ymwneud ag addasiad teledu Gwenlyn Parry ac Endaf Emlyn o nofel Caradog Prichard, Un Nos Ola Leuad, yn cynnwys sgript radio llawysgrif Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard, [1966x1980]; copi o rai o bryddestau Caradog Prichard, [1989]; awgrymiadau gan Endaf Emlyn a Gwenlyn Parry ar gyfer yr addasiad, 1989; drafftiau, [1989]-1990; copi o'r drafft terfynol, 1990; amserlen ffilmio, 1990; a deunydd cyhoeddusrwydd, 1991.

Emlyn, Endaf, 1944-

Awgrymiadau Endaf Emlyn,

Awgrymiadau Endaf Emlyn, ar ffurf sgript, ar gyfer addasiad teledu o Un Nos Ola Leuad, ynghyd â dau lythyr ganddo at Gwenlyn Parry yn amlinellu ei syniadau, 1989.

Drafftiau,

Drafftiau teipysgrif o addasiad teledu Gwenlyn Parry ac Endaf Emlyn o Un Nos Ola Leuad, [1989]-1990.

Salvador,

Sgript gamera y BBC ar gyfer y ddrama Salvador, [1966x1990], a seiliwyd ar ddrama wreiddiol Huw Lloyd Edwards.

Tresarn,

Sgript llawysgrif o bennod 20 o'r gyfres ddrama Tresarn, 1972, gan Huw Lloyd Edwards.

Edwards, Huw Lloyd, 1916-1975.

Papurau amrywiol,

Papurau amrywiol yn ymwneud â gwaith Gwenlyn Parry, 1968-[1991], yn cynnwys rhageiriau, 1968-1979; nodiadau a phapurau rhydd, [1970]-[1991]; erthyglau, 1978-[1982]; syniadau ar gyfer gweithiau newydd, [1985]-[1991]; sgript cyfweliad gyda Gwenlyn Parry, [1987x1991]; sgript hunan-gofiannol, [1989x1991]; adroddiad ar ffilmiau tramor, [1990x1991]; a phapurau'n ymwneud â'r Capel, [1970]-[1991].

Mwy Na Phapur Newydd,

Drafftiau o'r ddrama Mwy Na Phapur Newydd, 1989-1990, yn cynnwys drafft gyntaf pennod 1 (cyfres 1) gan Siôn Eirian, 1989; trydydd drafft pennod 2 (cyfres 2) gan Wil Roberts, 1990; ac amlinelliad o gynnwys pennod 5 (cyfres 2), 1990.

Erthyglau,

Erthyglau amrywiol yn ymwneud â gwaith Gwenlyn Parry, 1978-[1982], gan gynnwys erthygl John Roberts, 'Gwenlyn, Pozzo a Lucky', 1978; drafft o erthygl gan John Hefin yn trafod Gwenlyn Parry a sefydlu Pobol y Cwm, [1982]; ac erthyglau wedi eu casglu yn trafod y theatr yn gyffredinol.

Results 21 to 40 of 65