Diolch am dâl am ysgrifennu cân goffa i David, brawd KR. Rhoi llais i hiraeth y teulu oedd ei ddymuniad, nid oedd yn disgwyl tâl. Mae'n amgau amrywiad ar y pennill olaf gan hyderu nad yw hi'n rhy hwyr o safbwynt yr argraffwyr. Mae'n falch o ddeall bod KR yn hapus yn Aberdâr. Cynhwysir englyn i KR ganddo ar gefn y llythyr. Cedwir fersiwn argraffedig o'r gerdd goffa yn Adran y Darluniau a'r Mapiau, cyfrol ffotograffau rhif 600. Cyhoeddwyd llun o'r gerdd ac ymdriniaeth â'r cefndir yn Dafydd Ifans, "Kate Roberts - Bardd?", Barddas 111/112 (Gorffennaf/Awst 1986), tt 17-18.
Gwelodd hanes marwolaeth David, brawd KR, yn Y Genedl. Mae'n cydymdeimlo â'r teulu yn eu colled. Llongyfarch KR hefyd ar ei dyrchafiad [sef ei phenodi ar staff Ysgol Sir y Merched, Aberdâr].
Ysgrifennu atynt i'w hysbysu am farwolaeth Hughie, eu mab. Yr oeddent yn gyfeillion agos. Byddent yn sôn am Gymru yn aml. Yr oedd yn hoff iawn o ganu penillion. Mae'n tybio bod yr awdurdodau wedi dychwelyd ei gasgliad o osodiadau. Cywydd March y Mieri o waith Glyn Davies oedd ei hoff ddarn. Ni feddyliodd neb ei fod ar fin marw pan y dechreuodd y dwymyn. Yr oedd yn falch iawn fod Miss Evans wedi medru dod i'r angladd. Cynhaliwyd cwrdd coffa iddo hefyd - un o'r cyfarfodydd dwysaf y bu ynddo erioed. Cyhoeddwyd y llythyr hwn yn Y Dydd (30 Tachwedd 1917), t 5.
Wedi derbyn llythyr a'r taffi'n ddiogel. Bu marwolaeth Hughie [Hugh Edward Evans, Rhyd-y-main] yn ergyd i bawb. Ysgrifennodd at y rhieni ac i'r Seren [29 Rhagfyr 1917] amdano. Ysgrifennodd englynion coffa amdano. [Fe'u cyhoeddwyd yn Dysgedydd y Plant (Mawrth 1918), tt 68-9 fel rhan o erthygl G. Pari Huws ar Hugh Edward Evans]. Bu cyfeillion yn twtio ei fedd a bwriedir tynnu llun y bedd ar ôl gosod croes yn ei lle. Collodd gyfaill agos ym marwolaeth Hughie. Os caiff ddychwelyd adref yn ddiogel mae'n bwriadu ymweld â rhieni Hughie. Bu mewn ysbyty yn dioddef o ddisentri a malaria. Saesneg/English.
Atgofion am y chweched dosbarth. Bydd KR yn siwr o ymgartrefu yn Aberdâr cyn bo hir. Cydymdeimlo â hi yn gorfod paratoi gwersi daearyddiaeth. Mynegi'r awydd i ysgrifennu gwaith creadigol. Disgrifio ei hamgylchiadau gwaith yn yr ysgol. Mae'n amgau rysáit ar gyfer plorynnod. Hanes cyrchoedd awyr ar Lundain. Saesneg/English.
Ymddiheuro am ysgrifennu mewn pensel. Caiff feirniadaeth ar ei chân y tro nesaf. Mae ganddo gopïau o Cynfeirdd Lleyn ac yn eu gwerthu am 6/6 y copi. Fe'u cafodd hwy am bedwar swllt yr un ac y mae'n barod i'w gwerthu i KR neu eu disgyblion am y pris hwnnw. Mae ef yn gwella'n dda. Mae salwch mawr yn y dref - 200 yn sâl y diwrnod cynt a llawer yn marw. Gofyn i KR frasgyfieithu nodiadau Llydaweg iddo. Ar gefn y llythyr ceir cerdd gân KR ynglyn â marwolaeth ei brawd, David, yn y Rhyfel Mawr: "Atgof am Ddei". Ychwanegwyd pennill gan 'Tryfanwy'. Gw. Dafydd Ifans, art.cit.
Diolch i KR am y fraint o gael darllen ei stori. Mae'n gweld ei bod wedi cymryd lle go amlwg yn Y Darian ac ym mywyd cyhoeddus Aberdâr. Testun da ar gyfer erthygl fyddai ynganiad cywir rhai geiriau Cymraeg. Ffurfiwyd cylch yn ddiweddar yn Ystalyfera i astudio barddoniaeth Gymraeg. Buwyd yn astudio "Madog", T Gwynn Jones a chywydd "Yr Eira" Dafydd ap Gwilym. Y tro nesaf byddant yn trafod cywydd "Y Niwl". Rhaid i bob un gyfansoddi englyn bob wythnos er mwyn cyfarwyddo â'r cynganeddion. Dyfynna nifer o englynion. Nodyn ar John Hugh y Rhyddfrydwr. Anghyflawn.
Ni ddaeth Kate Roberts i'w weld tra bu'n wael. Yr oedd wedi bwriadu anfon gair ati i'r dosbarth nos Lun ei fod yn ei wely'n sâl. Mae'n cynnwys englyn i "Fardd yr Haf". Cynhwysir hefyd ddarn o gywydd yn ei chyfarch hi.
Hyderu ei bod yn well. Cafodd KR ganlyniadau daearyddiaeth ardderchog. Bron nad yw yn edifar iddi gyflogi athrawes ddaearyddiaeth. Mae'n trefnu cyfarfod i'r staff am 6 pm y prynhawn Llun dilynol. Mae'n hyderu y gall KR fod yno. Saesneg/English.
Da ganddo ddeall i KR hoffi'r Litani fach. Mae'n amgau copi a ddefnyddir ganddynt yn Eglwys St Ioan, Waunfawr. Mae'n credu y gweddïr hwynt o'r galon gan y gynulleidfa bob nos Sul.
Dymuno Nadolig Llawen. Diolch iddi am lythyr Cymraeg ac am yr ymenyn. Mae'n dysgu Cymraeg yn Aberdâr. Miss [Kate] Roberts o Rosgadfan yw ei hathrawes. Mae Aberdâr yn dref braf ac Aberdaron yn annwyl iddi. Ar gefn y llythyr yn llaw KR ceir: "Miss Clayton, Girls County School, Aberdare".
Mae'n amgau lluniau a ddaeth i'w meddiant yng nghanol eiddo personol ei mab. Bu farw yn Rhagfyr 1918 ond newydd dderbyn ei eiddo yn ôl y maent. Bu farw o'r ffliw a pneumonia. Hon oedd yr ail brofedigaeth iddynt mewn chwe mis. Bu farw mab iau yng Nghairo ym Mai 1918. Mae'n cydymdeimlo â Mrs Roberts yn ei cholled hithau. Saesneg/English.
Newyddion am Cae'r Gors a'r ardal. Cyrhaeddodd hanner dwsin o luniau o fedd David ym Malta. Adroddir hanes sut y bu i fachgen dynnu'r lluniau a llunio llythyr ym Mai 1918. Gyda'r lluniau daeth llythyr oddi wrth fam y bachgen [gweler rhif 48 uchod] yn dweud iddi golli dau fab yn y rhyfel - un ym Malta pan oedd ar gychwyn adre a'r llall yng Nghairo. Dim ond wythnos yn ôl y cafodd yr eiddo personol yn ôl oddi wrth y Swyddfa Ryfel. Bu farw'r bachgen cyn anfon y lluniau. Mae'n amgau y ddau lythyr gan bod ei fam yn gofyn i KR i ateb y wraig a'u hanfonodd.
Mae'n sylwi, o'i llythyr, fod KR yn gorweithio. Ni ddylai fod wedi addo ysgrifennu colofn fisol i Tegla [Davies]. Gwell fyddai iddi ysgrifennu ychydig pan ddôi'r awen. Sôn am ddigwyddiad rhyfedd tra'n pregethu yn Falmouth Road. Rhaid mai math o freuddwyd neu weledigaeth oedd y cwbl. Cafodd brofiadau tebyg. Y mae fel petai yn rhodio mewn gwlad hud a lledrith. Bu'n pregethu yn Nhrawsfynydd dros y Nadolig.
Lleisio'r mwynhad a gaiff o ddarllen straeon byrion KR. Mae'r diweddaraf, "Newid Byd", yn profi ei bod yn tyfu'n gyflym yn feistres ar y ffurf. Mae'r elfen foesol yn ei gwaith yn mynd yn llai a chelfyddyd a sylwgarwch a hoffter at fywyd fel y mae yn ennill eu lle. Mae hyn yn profi ei bod yn artist mewn difrif. Ei hannog i anfon stori i'r Llenor nesaf. Pe bai ef yn olygydd Y Llenor byddai stori o'i gwaith ymhob rhifyn a llyfr ohonynt o fewn dim.
Diolch i KR am lythyr a thaffi. Mae'n drist o glywed bod KR wedi gadael Bethania, [Aberdâr]. Ceisio dirnad ei rhesymau dros adael y capel. Mae'n ceisio esbonio'r gwahaniaeth rhwng crefydd gyfundrefnol a chrefydd yr ysbryd. Saesneg/English.
Mae'n diolch i KR am ei hadolygiad, nid am ei bod yn canmol ond am ei bod yn deall. Gofyn iddi anfon stori neu rywbeth arall i'r Llenor. Byddai cael cyfraniad ganddi yn help i hybu'r cylchgrawn yn ei ddyddiau cynnar.