Showing 70 results

Archival description
Papurau R. Tudur Jones
Print preview View:

Deunydd o ddiddordeb hanesyddol yn ymwneud â’r enwad a’r coleg, 1870-1978

Deunydd o ddiddordeb hanesyddol yn ymwneud â’r enwad a’r coleg, 1870-1978, a gasglwyd gan RTJ ym Mala-Bangor. Mae’r casgliad yn cynnwys englyn yn llaw Hwfa Môn, 1904; 2 lythyr oddi wrth y Parch. Idris Davies, Y Gelli, at y Prifathro John Morgan Jones, 1939; 3 llythyr, 1952-1954, oddi wrth Thomas Richards at y Parch. D. Morlais Jones, Tal-y-bont, Ceredigion yn ymwneud â dathlu 150 mlwyddiant capel Bethel (A), Tal-y-bont; llythyr J.D. Vernon Lewis at y Parch. Rhys Harries, Llandeilo, 1964 yn trafod ei emyn ‘Gwawr wedi hirnos’; llyfr nodiadau yn rhoi hanes capel Chwarelgoch, Tregarth, Bangor, 1978.

Nodiadau yn llaw RTJ, 1954-1980au

Amryfal nodiadau yn llaw RTJ, 1954-1980au, yn cynnwys deunydd ar gyfer anerchiadau, lloffion o lyfrau, cofnodion o bregethau a sgyrsiau, ac un llyfr nodiadau o loffion llyfau.

Coleg Bala-Bangor, 1951-1986

Papurau’n ymwneud â Choleg Bala-Bangor, 1951-1986, yn cynnwys: pum ‘Deeds of Trust’ yn ymwneud â chyflogaeth RTJ, 1951-1981; rhestrau enwau myfyrwyr noddedig y Coleg, 1973-1976 a 1985/6; a llyfr cyfrifon RTJ yn nodi gwariant, 1965-1967.

Results 41 to 60 of 70