Dangos 142 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Pennar Davies,
Rhagolwg argraffu Gweld:

Adroddiadau a llyfrau ysgol,

Adroddiadau, 1923-1928, a gyflwynwyd iddo tra'n ddisgybl yn Ysgol Sir Aberpennar, ynghyd â llyfrau nodiadau ysgol yn cynnwys geirfa Gymraeg a nodiadau ar Shakespeare. Ceir hefyd gardiau aelodaeth cymdeithasau yr oedd yn aelod ohonynt ym Mhrifysgol Caerdydd, 1929-1934.

Gradd Doethur mewn Diwinyddiaeth er anrhydedd,

Llyfryn yn cynnwys cyflwyniad y Parchedig Dr Gwilym H. Jones adeg ei anrhydeddu â'r radd gan Brifysgol Cymru yn 1987, ynghyd â thorion o'r wasg amdano, 1977-1983. Hefyd ceir llyfryn pan y'i derbyniwyd yn Gymrawd ym Mhrifysgol Caerdydd yn 1986.

Tystlythyrau,

Tyslythyrau, 1934-1946, oddi wrth y Prifysgolion a fynychodd, ynghyd â llythyrau oddi wrth yr Athro Gwyn Jones yn ymwneud â swydd yn Adran Saesneg Prifysgol Aberystwyth, 1945-1946.

Papurau a grynhowyd,

Papurau a grynhowyd ganddo, 1924-[1970], gan gynwys Deiseb ar ddysgu'r Gymraeg yn Ysgolion Cymoedd Rhondda a chyfrol deipysgrif yn cynnwys cerddi R. Williams Parry.

Deiseb y Gymraeg yn y Rhondda,

Papurau, 1924-1926, a gasglwyd gan y Parch. Fred Jones, Tal-y-bont (aelod o'r pwyllgor), yn ymwneud â'r Ddeiseb ar ddysgu'r Gymraeg yn Ysgolion Cymoedd Rhondda i Bwyllgor Addysg Rhondda, gan gynnwys torion o'r wasg.

'Saunders Lewis: Ewropead',

Ysgrif Catherine Daniel mewn llawysgrif [a gyhoeddwyd yn Saunders Lewis : ei feddwl a'i waith (Dinbych, 1950) ac a olygwyd gan Pennar Davies].

Daniel, Catherine.

Graddio,

Taflen ei seremoni graddio yn BA gydag Anrhydedd yn y Dosbarth Cyntaf mewn Lladin, 1932, ynghyd â rhestri o'r rhai fu'n llwyddiannus yn arholiadau Prifysgol Cymru, 1932-1934.

Dyddiadur,

Dyddiadur poced yn cyfeirio at ei fywyd diwylliannol yn Rhydychen, 1934-1935.

Papurau amrywiol,

Papurau, [1933]-[1936], yn ymwneud â'i gyfnod yn y coleg, gan gynnwys Rules and other information respecting members of Balliol College (1933), a llythyrau at ei rieni, 1934-1935.

Traethawd BLitt,

Traethawd 'John Bale and his dramatic works' - 'Life and work' (cyfrol 1) a 'Works' (cyfrol 2). [Cyhoeddwyd ei lyfryddiaeth A Bibliography of John Bale yn Transactions of the Oxford Bibliographical Society yn 1940].

Prifysgol Iâl,

Papurau, 1936-1944, yn ymwneud â'i gyfnod yn astuduio yn yr Unol Daleithiau, gan gynnwys ei draethodau coleg a'r un a gyflwynodd ar gyfer ei ddoethuriaeth, dyddiaduron ac adroddiadau .

Traethodau,

Nifer o draethodau a ysgrifennodd fel myfyriwr yn y Brifysgol, 1936-1938, gan gynnwys 'Henry Vaughan and the Welsh mind'; 'Puritan and Cavalier sentiment in the broadside ballads';'The theory of satire in the age of Dryden'; 'Donne as apoet of love'; 'Specimens of the English translations of the Bible up to the authorized version'; 'Fiction in the Bible: Judith, Tobit and Esther' ; a 'Burton’s prose style'. Nododd ei fod yn fyfyriwr yn y ‘Graduate School’ ar y mwyafrif ohonynt.

Canlyniadau 41 i 60 o 142