Showing 65 results

Archival description
Papurau Gwenlyn Parry
Print preview View:

The Young Mr Burton,

Copi o stori yn seiliedig ar hanes Richard Burton yn fachgen ifanc yn dwyn y teitl The Young Mr Burton, [1975x1990].

Gohebiaeth,

Gohebiaeth, 1962-1989, yn cynnwys yn bennaf llythyron at Gwenlyn Parry yn trafod ei fywyd a'i waith. Ymysg y gohebwyr mae John Wain, Saunders Lewis, Bobi Jones, Islwyn Ffowc Elis, a J. Ellis Williams. Ceir llythyron hefyd gan ei gyhoeddwyr yn trafod materion ariannol; llythyr o Dŷ'r Cyffredin yn beirniadu rhaglenni teledu Cymraeg; a llythyron o Swyddfa'r Arglwydd Siambrlen yn ymwneud â'r dramâu Y Ddraenen Fach a Poen yn y Bol.

Rhageiriau,

Rhageiriau, 1968-1980, gan gynnwys rhagair Gwenlyn Parry ar gyfer Tŷ ar y Tywod, 1968; rhageiriau Gwenlyn Parry a Rhydderch Jones ar gyfer un o gyhoeddiadau Rhydderch Jones, [1975x1980]; a rhageiriau Gwenlyn Parry a Saunders Lewis ar gyfer Y Tŵr, 1979.

Pryddestau Caradog Prichard,

Copi o rai o bryddestau Caradog Prichard, [1989], a ddefnyddiwyd gan Gwenlyn Parry ac Endaf Emlyn tra'n ysgrifennu'r addasiad teledu o Un Nos Ola Leuad.

Prichard, Caradog, 1904-1980

Results 61 to 65 of 65