Showing 1284 results

Archival description
File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Barddoniaeth

Dilyniant o gerddi mewn cynghanedd gyflawn: ‘Ffiniau’; casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn: ‘Llwybrau’; englyn unodl union: ‘Darlun’; telyneg: ‘Copa’; cywydd teyrnged 18 llinell; soned: ‘Llidiart’; filanél: ‘Tywyllwch’; casgliad o chwe cherdd, yn addas ar gyfer yr arddegau: agored; a cherdd dddychan: ‘Gwleidydd'.

Cyfansoddiadau cerddorol

Pedair cân i gyfeiliant piano i lais isel (Tlws y cerddor ); emyn-dôn i eiriau Tecwyn Owen; cyfansoddiad ar gyfer ensemble jazz neu blues (GNC/1a); darn ar gyfer ensemble taro (3-6 offeryn); darn i ddeuawd offerynnol; darn ar gyfer côr ieuenctid SATB; a chasgliad o ddarnau mewn unrhyw gyfrwng (i ddisgyblion 16 ac o dan 19 oed).

Llythyrau, [1965]-[1993]

Llythyrau, [1965]-[1993], yn ei longyfrach ar y ddoethuriaeth er anrhydedd a ddyfarnwyd iddo yn 1993 ar achlysur canmlwyddiant y Brifysgol, llwyddiant y gyfres 'Lleifior', ynghyd â llungopi o lythyr a anfonodd at Angharad Tomos yn 1989 ar grefft y nofel.

Papurau amrywiol

Llythyr printiedig, 1954, wrth iddo ffarwelio â’r eglwys yn Llanfair Caereinion, sgwrs am ‘Tegla’ ar gyfer Rhwng Gŵyl a Gwaith, 1980, ynghyd â manylion am ei yrfa a’i gyhoeddiadau, [1983] a llungopi o bapur bro Nene, Ebrill 2000, yn cofnodi 'Cinio llenyddol efo Islwyn Ffowc Elis'.

Llongyfarchiadau, 1951

Llythyrau a thelegramau'n ei longyfarch ar ennill y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst, 1951, ynghyd â'r dystysgrif a dderbyniodd oddi wrth Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol.

Torion

Torion yn ymwneud â’i lwyddiannau llenyddol, yn arbennig ennill y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn 1951; adolygiadau o’i nofel Marged; ei erthyglau i’r Western Mail; a theyrngedau iddo.

Papurau amrywiol

Papurau amrywiol, gan gynnwys ei ddogfen awdurdodi adeg Yr Arwisgo, 1969, fel newyddiadurwr i’r BBC; rhaglenni cymdeithasau y bu’n eu hannerch am farddoni yn 1957, a Chymdeithas Gymreig Sir Gaerloyw, 1982; ynghyd â thaflen ei angladd ar 14 Ebrill 1988; llythyrau cydymdeimlad i'w deulu; sgript (camera) ‘T. Glynne Davies’ sef teyrnged Vaughan Hughes iddo; llythyr, 1990, [at ei weddw], yn ymwneud â sefydlu Ysgoloriaeth Newyddiaduraeth T. Glynne Davies ym Mhrifysgol Caerdydd; sgript 'Teyrnged T. Glynne' gydag aelodau o'r teulu yn cymryd rhan; a llungopi o erthygl amdano 'From reporter to bard', Cambrian News, 2010 .

Results 61 to 80 of 1284