Llythyr oddi wrth William Lewis, Cyf, yng Nghaerdydd,
- 121.
- File
- 1928, Hyd. 10.
Part of Papurau Kate Roberts
Amgau cyfrifon hyd at 30 Medi a thâl am £5 13 8c am Deian a Loli. Saesneg/English.
20 results with digital objects Show results with digital objects
Llythyr oddi wrth William Lewis, Cyf, yng Nghaerdydd,
Part of Papurau Kate Roberts
Amgau cyfrifon hyd at 30 Medi a thâl am £5 13 8c am Deian a Loli. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth William Lewis, Cyf, yng Nghaerdydd,
Part of Papurau Kate Roberts
Awgrymu beth a ddylid ei wneud gyda gweddill yr argraffiad o Deian a Loli. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth Hughes A'i Fab, yn Wrecsam,
Part of Papurau Kate Roberts
Gwrthod cais KR i dalu breindal iddi ar y gwerthiant wedi'r ddwy fil gyntaf. Maent yn addo talu decpunt iddi os argreffir y llyfr ganddynt ar ôl gwerthu'r ddwy fil o gopïau sydd ganddi wedi eu hargraffu'n ddalennau.
Llythyr oddi wrth T. Botting, Clerc i'r Llywodraethwyr, Ysgol Sirol Aberdâr,
Part of Papurau Kate Roberts
Derbyniwyd ymddiswyddiad KR gyda gofid. Gwnaeth waith ardderchog yn yr ysgol yn ystod yr un mlynedd ar ddeg blaenorol. Sylweddolent ei phwysigrwydd fel llenor yng Nghymru a'i bod yn un o'r athrawon Cymraeg mwyaf blaengar. Dymunant yn dda iddi yn ei bywyd priodasol. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth [E.] Prosser Rhys, yn Aberystwyth,
Part of Papurau Kate Roberts
Cydnabod cydymdeimlad ar farwolaeth Bertha. Profiad nad â'n angof iddo oedd gwylio wrth wely'r un fach anymwybodol drwy'r nos ddwy noswaith olaf ei bywyd. Gall ddeall teimlad KR a hithau ar fin priodi. Hoffai eu gweld yn ymgartrefu yn Aberystwyth ond nid oes yno waith i Morris T. Williams ar y pryd. Nid yw'n dymuno bywyd hapus iddi - ni all artist fyw bywyd hapus. Hydera y caiff fywyd dwfn, llawn. Mae yn ei rhybuddio i beidio â disgwyl gormod oddi wrth y bywyd priodasol. Mae Morris T. Williams yn un o ragorolion y ddaear ac y mae ynddo ddefnydd artist mawr.
Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,
Part of Papurau Kate Roberts
Mae'n llawen iawn o glywed mai yng Nghaerdydd y bwriadant fyw ar ôl priodi, yn Rhiwbeina. Y mae wedi ymddiswyddo o fod yn arholwr y Bwrdd Addysg Canol yr haf dilynol er mwyn bod yn rhydd i waith arall. Tybed a hoffai KR y gwaith? Fe gymer ryw fis llawn i'w wneud ac ni ddaw tâl hyd y Nadolig dilynol. Gellid ysgrifennu at glerc y Bwrdd Canol yn dangos diddordeb.
Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,
Part of Papurau Kate Roberts
Diolch am awgrymiadau ar sut i wella dialog pennod o'i nofel [Monica]. Rhaid ei bod mewn ffwdan yn ffarwelio ag ysgol a gwaith. Mae'n hyderu'n fawr na chollir yr awdur straeon byrion wrth iddi briodi.
Llythyr oddi wrth Betty [Eynon Davies], Llundain SE23,
Part of Papurau Kate Roberts
Awgrymu y caiff KR fwy o amser i lenydda ar ôl iddi briodi. Mae ei chartref a'r dodrefn yn swnio'n ddelfrydol. Sôn am y profiad o rannu fflat gyda'i chwaer, Hilda. Disgrifiad o'i fflat newydd. Mae hi'n amlinellu ei chostau. Mae llawer o arian yn ddyledus iddi am storïau sydd wedi eu derbyn ond heb eu cyhoeddi eto. Amgau rhai o'i storïau. Mae ganddi dair drama yn ei meddwl. Cynnig llety iddi yn Llundain, ond dim ond lle i un sydd yno. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth 'Winnie', [Winifred Rees], ym Mhontyberem,
Part of Papurau Kate Roberts
Llongyfarch KR ar ei phriodas a'i cheryddu am wneud hynny mor gyfrinachol. Diolch iddi am lythyr caredig. Bydd eu cyfeillgarwch yn parhau er na fydd hynny yn ddyddiol bellach. Ni fydd modd llenwi ei lle yn Aberdâr. Gwahodd KR a Morris T. Williams ati i gael te ac i ymweld â Phenderyn. Diolch am sanau. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth G. W. Francis ("Y Brodyr Francis"), yn Nantlle,
Part of Papurau Kate Roberts
Amgau dau gopi o soned "Un Stori Fwyn" ar achlysur priodas Kate Roberts a Morris T. Williams. Dau gopi o'r soned.
Llythyr oddi wrth Alice J. Prothero, ym Mhontypridd,
Part of Papurau Kate Roberts
Diolch am gyfarchion Nadolig ac anrheg o bersawr. Syndod oedd clywed ei bod wedi priodi. Bydd yn gweld ei heisiau yn yr ysgol yn fawr iawn. Dymuno priodas dda iddi. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth M. S. Cooke, Thornhill, Dumfries-shire,
Part of Papurau Kate Roberts
Diolch am yr anrheg cwbl annisgwyl. Fel arall y dylai pethau fod. Dymuno'n dda i KR yn ei bywyd priodasol. Roedd dull y briodas yn swnio'n addas iawn. Bu'n sâl ac nid yw cyfeiriad KR ganddi. Ysgrifennodd yr arwerthwr o Gaerdydd i ddweud iddo lwyddo i brynu un ryg i KR am £5. Mae am anfon y llythyr at Morris T. Williams yn y Western Mail. Mae criw swnllyd o neiaint a nithoedd o'i chwmpas. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth Sal, yn Aberdâr,
Part of Papurau Kate Roberts
Hanes arwerthiant y teulu Davies. Roedd Tabitha Davies yn awyddus iawn i gael rhywbeth. Methodd â mynychu'r arwerthiant oherwydd yr ysgol. Aeth y dreser a'r cwpwrdd cornel yn ddrud ond y gweddill am ychydig iawn. Da o beth na fedrai Miss Moses weld pwy oedd yn trafod ei phethau. Mae sefyllfa pethau yn Aberdâr ac yn enwedig yng Nghwmaman ymhell o fod yn galonogol. Diolch am gydymdeimlad KR i'w brawd a'i deulu, cawsant golled fawr. Dywedodd Mabel fod Miss Moses am iddi hi a'i theulu eistedd yng nghôr Miss Moses yn y capel. Bu hi [Sal] yn eistedd yno erioed. Nid yw yn bwriadu caniatáu iddi tra bydd [Sal] ym Methania.
Llythyr oddi wrth Harri [?Cadwaladr], yn Bath, at ei chwaer, mam Kate Roberts,
Part of Papurau Kate Roberts
Da clywed bod Evan yn well. Tywydd oer ac eira. Yr oedd wedi rhyfeddu o glywed bod KR wedi priodi. Gwyddai ei wraig, Jane, ei bod yn canlyn.
Llythyr oddi wrth DIC [Richard Roberts, brawd Kate Roberts], yn Rhosgadfan,
Part of Papurau Kate Roberts
Mae'n anfon rhan o hanes y chwarelwr ac yn addo anfon mwy o wybodaeth. Sôn am y pynciau a drafodir yn y caban. Dweud pryd y bydd corn y gwaith yn seinio.
Part of Papurau Kate Roberts
Cerdyn post yn dangos Lôn Isa, Rhiwbeina, Caerdydd yn dwyn y geiriau canlynol yn llaw Kate Roberts: "Dyma lun y stryd wedi ei dynnu o'r pen arall. Mae ein ty ni ar y dde rwan ond fedrwch chi mo'i weld o, o achos y goeden yna. Mae'r motor car yna wyf fi wedi ei farcio gyferbyn a'n giat ni.".
Llythyr oddi wrth W. Rees Williams, yn Aberdâr,
Part of Papurau Kate Roberts
Llongyfarch Kate Roberts ar ei phriodas. Trefnu dosbarth Cymraeg i ddechrau ar 21 Ionawr yn Aberdâr.
Llythyr oddi wrth D. J. [Williams] a Siân [Williams], yn Abergwaun,
Part of Papurau Kate Roberts
Cyfarchion i Kate Roberts a Morris T. Williams yn dilyn eu priodas. Sylwi bod KR wedi mynd yn "ucheldrem ofnadw" yn ei beirniadaethau diweddar. Mae'n bwriadu troi ei gasgliad o straeon byrion yn sbils ar gyfer basâr y Blaid ar ôl gweld ei sylwadau yn Y Faner. Mae'n cytuno â KR ynglyn â'r broblem o gael nofel fawr yng Nghymru. Y Blaid a llywodraeth Gymreig yw'r unig obaith i ddiogelu anhepgorion bywyd yn ddi-os.
Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,
Part of Papurau Kate Roberts
Mae'n bwriadu ei chyfarch o hyn ymlaen wrth ei henw llenyddol - Kate Roberts. Trafod llythyr y bwriedir ei gyhoeddi yn Y Ddraig Goch oddi wrth Mai Roberts. Annog KR i geisio am swydd is-arholwr gyda'r Bwrdd Addysg. Dywedodd cyfaill o fardd wrtho am KR: "Wel, pe na bai gennyf wraig fy hun, fe'i carwn innau hi". Cafodd fwynhad o ddarllen ei hysgrif yn Y Llenor ["Y Nofel Gymraeg", Y Llenor, cyf VIII (1928), tt 211-16]. Anfon cyfarchion blwyddyn newydd dda at fam Kate Roberts.
Llythyr oddi wrth Doris [ ], yn Plymouth,
Part of Papurau Kate Roberts
Llongyfarch Kate Roberts ar ei phriodas. Nid yw wedi clywed ganddi ers amser hir. Dealla i ddodrefn KR gael ei saernïo'n bwrpasol iddi. Sôn am ei merch, Rosemary gan hyderu y caiff KR faban. Anfon dysgl pyrex iddi yn anrheg ac yn ei hannog i wneud pwdin reis i'w gwr. Saesneg/English.