Llyfr nodiadau yn cynnwys cyfrifon yn ymwneud â changen Rhondda Fach o Undeb Dirwestol Merched y De. = Notebook containing some accounts relating to Rhondda Fach branch of Undeb Dirwestol Merched y De.
Englynion gan David Griffith ('Clwydfardd'); cyfarch ?yn llaw'r Parch J. R. Jones ('Kilsby'). = Two 'englynion' by David Griffith (Clwydfardd), and a greeting, ?in the hand of the Rev. J. R. Jones ('Kilsby').
Casgliad o bapurau Llyfni Huws, yn ymwneud â'r delyn a chanu penillion, sef llythyrau oddi wrth O. M. Edwards, ac 'Eifion Wyn'; darlith deipiedig a draddodwyd yn Tylorstown ; llythyr teipiedig yn dwyn y teitl "Adloniant Hen Delynor"; llun 'Dewi Havhesp'; a thorion o'r Cymro yn cynnwys lllythyrau gan Llyfni Huws ar y delyn a cherdd dant.
Englynion gan 'Hydd Cyfeiliog' (David John Rees, ?1882-1969) a ysgrifennwyd mae'n debyg ar gyfer cystadleuaeth i gyfansoddi casgliad o ddeuddeg englyn nas cyhoeddwyd o'r blaen yn Eisteddfod Aberhosan, 19 Ionawr 1933, ynghyd â nodyn bywgraffyddol amdano.
Papurau, 1965-2010, gan gynnwys casgliad o lythyrau a chardiau post o'r Wladfa, yn bennaf oddi wrth Mrs Elisa Dimol de Davies, Trelew, at y rhoddwr a'i deulu.
Papurau Cymdeithas Gymraeg y Geltaidd ('Y Geltaidd'), Prifysgol Cymru Aberystwyth, 1980-1995, gan gynnwys gohebiaeth, tocynnau a rhestri aelodaeth a llyfr cofnodion cyfarfodydd.
Teipysgif o draethawd gan Thomas Williams, Tal-y-bont, Sir Frycheiniog, 1959, yn olrhain hanes y pentref, wedi ei gyflwyno ar gyfer cystaleuaeth mewn eisteddfod yn y pentref ym 1881, ynghyd â chyfrol yn olrhain hanes ei deulu gan Thomas Williams. Cedwir y fersiwn gwreiddiol o'r traethawd yn y Llyfrgell (NLW MS 16675).
Cyfrol yn cynnwys cyflwyniad o farddoniaeth a rhyddiaith yn portreadu stori'r Ffydd yng Nghymru gan 'Cefni' a gyflwynwyd i gystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Môn a gynhaliwyd yn Llangefni, 1957.