Showing 811 results

Archival description
Papurau Gwenith Gwyn,
Print preview View:

Papurau Gwenith Gwyn,

  • GB 0210 GWENITH
  • fonds
  • 1750-1947 (crynhowyd [diwedd y 19eg ganrif]-1947) /

Papurau o eiddo, ac yn ymwneud â William Rhys Jones ('Gwenith Gwyn'), 1750-1947, y cyfan bron yn ei law ei hun, yn cynnwys: nodiadau ar hanes lleol yng Nghymru, enwau lleoedd, llên gwerin, a hynafiaethau (yn cynnwys cryn deunydd, ar ffurf nodiadau, traethodau, anerchiadau, adysgrifiadau, a thorion o'r wasg, ar gymeriadau, traddodiadau, a chymdeithasau hanesyddol, llenyddol a diwydiannol Dyffryn Ceiriog, Morgannwg, Maldwyn, Ceredigion ac Arfon); deunydd crefyddol (pregethau a nodiadau pregethau, traethodau ac anerchiadau ar yr Eglwys Gristnogol ac ar wahanol agweddau ar ei gweinidogaeth; papurau'n delio ag enwad y Bedyddwyr yng Nghymru, yn enwedig ym Morgannwg; nodiadau ar destunau Beiblaidd; nodiadau, anerchiadau coffa, a deunydd bywgraffiadol ar amrywiol gymeriadau crefyddol, Cymry yn bennaf; a geiriadur o dermau Beiblaidd a ddefnyddiwyd yng nghapeli Anghydffurfiol Cymru); cyfansoddiadau llenyddol (yn cynnwys barddoniaeth, storiâu byrion, nofelau, a dramâu, mewn drafft ac yn orffenedig; a darlithoedd, nodiadau a thraethodau ar bynciau llenyddol, hanesyddol, gwleidyddol, a chymdeithasegol); nodiadau ar anthropoleg, ethnoleg, pensaernïaeth a daeareg, yn cynnwys geiriadur Cymraeg-Saesneg o dermau daearegol; y diwydiant llechi yng Nghymru; deunydd ar ramadeg a statws gwleidyddol yr iaith Gymraeg; nodiadau ar wahanol ieithoedd estron a thafodieithoedd, yn cynnwys iaith y Beibl; deunydd bywgraffyddol yn ymwneud â Gwenith Gwyn a'i wraig, 1885-1937; catalog o lyfrau yn ei lyfrgell; torion o'r wasg,1922-1928; a llyfrau lloffion, yn ogystal ag erthygl papur newydd amdano gan y Parch. W. J. Rhys, Abertawe,1947); ei gopïau o weithiau printiedig, 1750-[20fed ganrif]; a deunydd, printiedig neu fel arall, a ysgrifennwyd gan bobl heblaw Gwenith Gwyn = Papers of and relating to William Rhys Jones ('Gwenith Gwyn'), 1750-1947, nearly all of which are in his own hand, comprising: notes on Welsh local history, place-names, folk culture, and antiquities (including considerable material, in the form of notes, essays, addresses, transcripts, and press cuttings, on the personalities, traditions, and historical, literary and industrial associations of Dyffryn Ceiriog, Glamorgan, Maldwyn, Ceredigion and Arfon); religious material (sermons and sermon notes, essays and addresses on the Christian Church and on various aspects of its ministry; papers dealing with the Baptist denomination in Wales, particularly in Glamorgan; notes on Biblical texts; notes, in memoriam addresses, and biographical material on various religious personalities, mainly Welsh; and a dictionary of Biblical terms used in Nonconformist chapels in Wales); literary compositions (comprising poetry, short stories, novels, and plays, in both draft and final form; and lectures, notes, and essays on literary, historical, political, and sociological topics); notes on anthropology, ethnology, architecture and geology, including an English-Welsh dictionary of geological terms; the Welsh quarrying industry; material on the grammar and political status of the Welsh language; notes on various foreign languages and dialects, including Biblical tongues; biographical material relating to both Gwenith Gwyn and his wife (including bills and receipts; diaries for 1923, 1936, and 1937; letters received, 1885-1937; a catalogue of books in his library; press cuttings, 1922-1928; and scrap-books, as well as a newspaper article about him by Rev. W. J. Rhys, Swansea, 1947); his copies of printed works, 1750-[20th cent.]; and material, printed or otherwise, written by persons other than Gwenith Gwyn.

Casgliad bychan o bapurau ychwanegol gan gynnwys llyfrau nodiadau. Nid yw'r rhain wedi eu catalogio eto.

Jones, William Rhys, 1868-1937

Llyfr nodiadau ac iddo deitl 'Y Gymraeg', yn cynnwys a ganlyn.

Llyfr nodiadau ac iddo deitl 'Y Gymraeg', yn cynnwys a ganlyn:. A 'Anhawsterau y Gymraeg'. B 'Caru Mamiaith'. '... Yr unig genedl nad yw yn siarad ei hiaith ei hun ar ei haelwyd yn y Barri yw cenedl y Cymry'. C 'Tystiolaeth Hen Lenorion Cymru i'r elyniaeth i'r Iaith Gymraeg'. Ch 'Y Parch Thomas Richards Llan Grallo a'r Gymraeg'. D 'The Welsh Language in Glamorgan in 1648'. Dd 'Y Gymraeg ym Morgannwg yn 1823'. E 'The factors in the life of the Principality which work for or against the preservation of the language'. F 'Sowldiwrs yr Odyn Galch'. Ff 'Y Golomen ymhlith y Brain'. G 'Gwaradwyddo ein hunain heb eisiau'. Ng 'Lle iaith a gwladgarwch ym Mywyd y Gair Ymgnawdoledig'. H Amryw o sylwadau ar y Gymraeg a'r Wyddeleg. I 'Awgrymiadau ynglyn a'r Gymraeg a'r Ysgol Sul'. L 'Adroddiad y Pwyllgor Adrannol ar Y Gymraeg mewn Addysg a Bywyd yn ei Berthynas a'r Ysgol Sul' (Anerchiad, Y Barri, Tach. 1927). Ll 'Yr Adroddiad a'r Cymdeithasau Cymraeg'.

Llyfr nodiadau yn cynnwys.

Llyfr nodiadau yn cynnwys:. A 'Geiriau a Thermau Cymraeg y cyfeirir atynt yn Llyfr Barnes - Notes on Ancient Britain and the Britons'. B Nodiadau ar Y Fanaweg, ynghyd â geirfa.

Canu Gwerin.

Oni nodir yn wahanol, y mae'r eitemau a ganlyn (100-105a) yn llawysgrifen Gwenith Gwyn, ond yr awduron yn anhysbys.

Dalen, yn cynnwys yr emyn.

Dalen, yn cynnwys yr emyn:. Mi gefais newydd hyfryd. Wrth chwilio yn y Gair. Fod ffynnon wedi'i hagor. Yn ystlys bachgen Mair ... Ar waelod y dud. ceir y geiriau 'Priodolir i awdur "Y mae trysorau gras". Ar y cefn ceir 'Hen Emynau an-argraffedig'.

Results 1 to 20 of 811