Showing 238 results

Archival description
Papurau Norah Isaac,
Print preview View:

'Priodas waed'

Sgript 'Priodas waed', cyfieithiad o ddrama Federico Garcia Lorca, a gyflwynwyd gan Gwmni Coleg y Drindod, Caerfyrddin yn [Eisteddfod Genedlaethol Y Drenewydd, 1965], ynghyd â manylion am y cynhyrchiad o [Raglen y Dydd]. [Troswyd y ddrama i'r Gymraeg gan John Davies a John Rowlands a'i golygu gan Gareth Alban Davies].

['Yr ogof']

Sgript ['Yr ogof' cyfieithiad Alwena Owen o ddrama Jean Anouilh 'La grotte' a berfformiwyd gan Gwmni Coleg y Drindod yn 1968].

'Iolo'

Y sgript wreiddiol 'Iolo neu Galon wrth Galon' a berfformiwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Myrddin 1974 ac a gyhoeddwyd fel Iolo yn 1975, ynghyd â sgript 'Iolo Morgannwg' ar gyfer y teledu, 1978, gyda llythyrau oddi wrth Ifor Rees, cynhyrchydd gyda'r BBC. Ceir hefyd sgript 'Iolo' wedi'i diwygio. Mae'n bosib mai sgript ar gyfer perfformiad Cwmni Iolo, 1992, i ddathlu daucanmlwyddiant Gorsedd y Beirdd yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin, ydoedd.

Rees, Ifor

Lleisiau Llên

Sgript 'copi'r Cwmni', 1975, rhaglen, 1975, a dau ffotograff, ynghyd â rhaglen Gŵyl Bro'r Preseli, 1976, pan berfformiwyd cyflwyniad llafar 'Gwyn eu byd ...' gan Gwmni Lleisiau Llên.

'Buchedd Dewi'

Sgript 'Buchedd Dewi' gan Moelwyn Merchant gyda chyfieithiad Norah Isaac a chyfarwyddiadau llwyfan wedi'u hychwanegu ganddi. Fe'i perfformiwyd ar Ddydd Gŵyl Dewi 1976 yn Eglwys Llanddewi Brefi. Ceir hefyd nodiadau am wisgoedd y cymeriadau.

Merchant, W. Moelwyn (William Moelwyn), 1913-

'Corlannu pobl'

Sgript 'Corlannu pobl' yn cynnwys y diwygiadau i'r testun a gyhoeddwyd fel Corlannu pobl. Cyflwyniad dramatig i ddathlu tri chanmlwyddiant geni Griffith Jones Llanddowror, ynghyd â thalfyriad o'r sgript a ddangoswyd ar S4C yn 1983, a thaflen o syniadau am Griffith Jones gan Muriel Bowen Evans ar gyfer athrawon (yn y gyfres 'O bant i bentan', 1983).

Evans, Muriel Bowen

'Gwaed yr Uchelwyr'

Sgript 'Gwaed yr Uchelwyr' gan Saunders Lewis a berfformiwyd gan Gwmni Cofio, 1985, yn Theatr Halliwell, Coleg y Drindod, Caerfyrddin, ynghyd â rhaglen, ac adolygiad, 1985, o bapur bro Y Gambo.

Papurau eraill

Papurau amrywiol, 1886-2003, yn ymwneud â gyrfa a diddordebau Norah Isaac. Ceir enghreifftiau o gerddi a ysgrifennwyd ganddi ac amdani; papurau a grynhowyd ganddi; a phapurau yn ymwneud â'i chyfnod fel darlithydd yn Y Barri; ynghyd â thaflen ei hangladd.

Deunydd printiedig

Eitemau printiedig, 1886-[1983], gan gynnwys cerdd goffa Myfyr Emlyn, 1886, i'r Parch. R. Hughes (1820-1885), Bethania, Maesteg; rhaglen, 1949, ar gyfer perfformiad Aelwyd yr Urdd, Aberystwyth, o 'Amser' (cyfieithiad Elsbeth Evans o J. B. Priestley, 'Time and the Conways') pan fu Norah Isaac yn actio rhan Eirian; y cylchgrawn Llwyfan, Gwanwyn 1969, yn cynnwys erthygl 'Y ddrama yn y Coleg Addysg' ganddi; rhaglen cyflwyniad teyrnged Theatr yr Ymylon i Saunders Lewis yn bedwar ugain oed yn [1973]; taflen angladd Aneurin Jenkins-Jones, 1981; a rhaglen gwasanaeth angladd Carwyn James, 1983.

Thomas, B. (Benjamin), Myfyr Emlyn, 1836-1893

Gwyliau tramor

Papurau amrywiol yn ymwneud â theithiau Norah Isaac i Israel yn 1984 ac 1986, gan gynnwys ei hargraffiadau a cherdyn yn dangos Gweddi'r Arglwydd yn Gymraeg ar Fur Eglwys Pater Noster yn Jerwsalem, a manylion am y bererindod i Dwrci 1985.

Papurau wedi'u crynhoi

Ymhlith y papurau ceir llythyr, 1909, oddi wrth Cybi at 'Mr [O. M.] Edwards'; enghreifftiau o waith cwrs ei myfyrwyr drama gan gynnwys cyfieithiad Robert Wynne, 1951, o ddrama Saunders Lewis 'Amlyn ag Amig' i'r Saesneg gyda'r teitl 'The Christmas Candle' [fe'i darlledwyd gan y BBC yn 1948 a 1950]; drama am Ellis Wynne gan Janet B. Thomas; 'Ysgol Sir Tregaron a'r ddrama' gan Eirlys Morgan; 'Golygfa o fywyd Richard Wilson' gan ?; stori 'The adventures of Arabella Penn. "The ivory doll"' gan Tudur Watkins, 1954; 'By the waters of the Towy' gan Richard Vaughan, [1973]; llyfryddiaeth 'Wil Hopcyn and the Maid of Cefn Ydfa' gan Brinli [Brinley Richards], 1978; 'Marwnad Saunders Lewis' gan Alan Llwyd, [1985], mewn teipysgrif; a llungopi o bapur arholiad Cymraeg ar gyfer ysgoloriaeth y Frenhines, Coleg Hyfforddi Caerfyrddin, Mawrth 1849.

Cybi, 1871-1956

Papurau amrywiol

Papurau amrywiol, 1927-2003, gan gynnwys tystysgrif Norah Isaac am ennill yr ail wobr am adrodd 'Y Crythor Dall' gan [Syr John Morris-Jones] yn Eisteddfod Genedlaethol Caergybi 1927; papur arholiad llenyddiaeth Gymraeg Norah Isaac yn dwyn stamp Eisteddfod Genedlaethol Treorci 1928; ei nodiadau, 1945, ar gyfer y Pwyllgor Ymgynghorol ar Addysg yng Nghaerdydd; atgynhyrchiad o [Idris Ll. Foster, Y Gymraeg yn yr Ysgolion Gramadeg (Undeb Cymru Fydd, 1952), gyda sylwadau wedi'u hychwanegu gan Norah Isaac; llungopi o adolygiad, [1950x1958], o 'Hamlet yn Gymraeg - a gan ferched yn unig. Campwaith yn y Barri' ac o adolygiad Mati Rees o Norah Isaac, Crwydro Gorff a Meddwl [Abertawe, 1980]; llyfr nodiadau'n cynnwys sgwrs Norah Isaac ar gyfer rhaglen 'Wythnos i'w chofio', 1976; a thaflen angladd Norah Isaac, 11 Awst 2003.

Cerddi gan Norah Isaac

Cerddi, 1932-1991, yn cynnwys 'Y Blacowt' mewn tafodiaith a llyfr ysgrifennu Norah Isaac pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Blaenllynfi, gan gynnwys cerdd 'Y claf wrth yr oenig', 1933, 'Unigedd', 1932, a soned 'Gwersyll yr Urdd, Llangrannog', 1934; emyn Gŵyl Ddewi; cerdd 'To my music teacher in the twenties', 1976; cerdd rydd ganddi ar achlysur gweinyddu'r cymun olaf yn Eglwys Noddfa (1897-1991), Caerau, Maesteg, Rhagfyr 1991; ynghyd â chyfieithiad o'r emyn 'Arglwydd gad im dawel orffwys' i'r Saesneg.

Coleg Y Barri

Papurau'n ymwneud â chyfnod Norah Isaac fel darlithydd yn Y Barri yn cynnwys rhaglen gwaith llafar y myfyrwyr, 1950, yn seiliedig ar nofelau a barddoniaeth T. Rowland Hughes; taflenni a baratowyd ganddi, [1952]-[1954], yn cynnwys sgyrsiau ac yn ymwneud â gwaith llenorion; anerchiad coffa Syr Ben Bowen Thomas, 1956, i Ellen Evan, Prifathrawes Coleg Y Barri, 1923-1953 (printiedig); llyfr yn cynnwys ymarferion ail iaith gan Norah Isaac ar gyfer dysgwyr a luniodd tra yn Y Barri; 'Miss Isaac-yn cofio'r cychwyn cynnar' yn Addysg Gymraeg yn y Barri [1992]; a llun o feim myfyrwyr y coleg yn Llundain, [1956].

Thomas, Ben Bowen, 1899-1977

Ifan ab Owen Edwards

Rhannau mewn teipysgrif, gydag ychwanegiadau mewn llawysgrif, gan Norah Isaac o'i phortread o Syr Ifan ab Owen Edwards, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn 1972. Nid yw'r tudalennau yn dilyn. Ceir hefyd sgript deledu ar gyfer plant, 1958, ar 'O.M.', pan gafwyd cyfraniad gan Norah Isaac i'r rhaglen.

Cerddi am Norah Isaac

Llungopi o gerdd 'Nora' gan Gwenallt a gyflwynwyd i Norah Isaac wedi iddi actio mewn drama gan J. B. Priestly yn 1949; 'Yr olygfa fawr' gan Brinley Richards, 1979, wedi iddo weld y pwythau a gafodd yn dilyn ei llawdriniaeth yn Ysbyty Westminster, 1978; 'Wynebau' gan T. Glynne [Davies], 1981; englynion 'Merch y Llwybrau', [1985] gan [J.] Eirian Davies ; ffotograff o boster E. Meirion Roberts, [1987], yn cynnwys englyn T. H. Parry-Williams iddi; 'Cywydd i gyfarch Norah Isaac' (printiedig) gan T. Gwynn Jones, 1989; a 'Cyfarchion penblwydd i Norah Isaac', papur bro Cwlwm, Rhagfyr 1994.

'Llyfr drama NI'

Deialogau ac ymarferion a luniwyd gan Norah Isaac a llawysgrif cyfrol arfaethedig o sgyrsiau ar gyfer plant 'Sut hwyl a da boch chi', [1980].

Results 221 to 238 of 238