Showing 2492 results

Archival description
Papurau Kate Roberts
Advanced search options
Print preview View:

20 results with digital objects Show results with digital objects

Llythyr oddi wrth 'Dei' [Dafydd Elis], Morpeth,

Mae diwrnod o wyliau ganddo o'r ysgol. Ceir gwyliau achlysurol ar yr esgus lleiaf yno. Mae llawer o ryddid i'r athrawon wneud fel y mynnont yn ei ysgol. Cafodd ei gyflogi am dymor ar gyflog o £40. Addawodd y prifathro geisio codi ei gyflog ac addawodd yntau aros ychydig yn rhagor yno. Mae wedi gwrthod swydd mewn ysgol breifat yn Llundain. Ni allai ddychmygu ei hun yn rhoi plant yn eu gwelyau. Mae arholiadau ar fynd yn yr ysgol. Rhydd enghreifftiau o atebion doniol a dderbyniwyd yn yr arholiadau. Cyhoeddwyd y llythyr hwn yn David Jenkins, op.cit., t 165.

Llythyr oddi wrth Bessie Griffiths, yn Ystalyfera,

Tywydd gwael. Roedd hi'n nawfed yn ei dosbarth yn ôl ei hadroddiad ysgol. Mae'r geidiau yn bwriadu gwerthu baneri ar gyfer gwlad Belg. Casglwyd pymtheg punt wrth werthu rhosynnau. Nid oes cymaint o bobl wedi mynd ar wyliau ag sy'n arferol. Mae un o'r cynddisgyblion, Trevor Nicholas, yn farw. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Dafydd Elis, yng Nghorwen,

Yr oedd KR yn iawn i agor y parsel. Nid oes awydd gwaith arno. Bwriada fwynhau ei hunan tra ei fod adref o'r Coleg. Mae am anfon cerdyn ati pan fyddant yn barod. Achosodd y cardiau hwyl fawr tua'r Coleg. [Ceir hanes y cardiau Nadolig hyn mewn erthygl a gyhoeddwyd gyntaf gan KR yn Taliesin, cyf. 11 (1965), tt 15-27. Ailgyhoeddwyd yr erthygl yn David Jenkins (gol.), Erthyglau ac Ysgrifau Llenyddol Kate Roberts (Abertawe, 1978), tt 155-67 yn dwyn y teitl "David Ellis: Bardd a Gollwyd". Buasai KR a Dafydd Ellis yn gyfrifol am anfon hanesion Coleg y Gogledd i'r Brython ar gais Ifor Williams. "Penderfynasom ofyn am anrheg gan gwmni'r Brython ar ddiwedd y chwarter cyntaf, chwarter Nadolig 1912, sef ychydig o gardiau Nadolig preifat Cymraeg ... bu cwmni'r Brython yn ddigon caredig i roi inni ddwsin. Yr oedd yn beth mawr inni yn 1912 gael cardiau a'n henwau ni ein hunain wedi eu hargraffu arnynt. Anfonwyd samplau inni i'r Coleg, ond daeth y parsel wedi i David Ellis fyned adref ar y gwyliau, a minnau'n aros ymlaen i wneud ymarfer dysgu yn un o ysgolion Bangor. Agorais y parsel a gwneud fy newisiad fy hun, a'i anfon ymlaen iddo yntau wedyn." (David Jenkins, op.cit., tt 158-9).

Llythyr oddi wrth E. LL. Griffith, yn Rhosgadfan,

Ni bu'n hwylus iawn. Ateb ymholiad KR ynglyn â llestri cymun. Rhai aluminium a brynwyd ganddynt hwy. Maent yn ysgafn ac yn dal yn dda iawn. Fe'u prynwyd oddi wrth y Parch David O'Brian Owen. Da ganddo glywed bod KR yn gweithio'n galed. Mae'r rhyfel wedi codi o'r bêl droed a rhedegfeydd ceffylau a'u cyffelyb.

Llythyr oddi wrth O. T. [?Hughes], ym Mala,

Ymddiheuro am fod cyhyd yn ysgrifennu. Bu ei dad yn sâl iawn yn Lerpwl. Mae'n mwynhau bod yn Y Bala. E. LL. [?E Llywelyn Lewis] yw ei gydletywr. Mae'n bwriadu mynd i Gonwy wythnos i'r Sul nesaf. Mae'n pregethu ym Moriah, Caernarfon, y Sul dilynol ac yn teimlo'n bwysig iawn.

Llythyr oddi wrth Evan [Roberts], brawd Kate Roberts, yn Rhosgadfan,

Mae eu brawd Dafydd wedi mynd i Salonica er dydd Mawrth a'u rhieni yn ddigalon iawn o'r herwydd. Mae eu tad yn mynd i Lerpwl gan iddo gael gwaith yn y Canada Dock. Mae'n rhewi ac eira yn lluwchio. Hanes dal dau fochyn a oedd wedi dianc yn y lluwch. Hanes am ddyn a gafodd ffit ac a fu farw yn yr eira. Penillion i Will. Jones Ty'n-llwyn wrth wynebu gorfod mynd i'r Fyddin yn Wrecsam.

Llythyr oddi wrth Kate [Roberts] at H[ughie] E. Williams, yn Ffrainc,

Llythyr a ddychwelwyd "Present Location Uncertain". Ni fu yn Llanberis yn ystod gwyliau'r Nadolig. Cafodd annwyd wrth deithio adre ar hyd reilffordd y Cambrian. Posibilrwydd ei bod am symud o Ystalyfera i ysgol ym Merthyr Tudful. Mae'n ddigalon oherwydd bod ei brawd ieuengaf sy'n ddeunaw oed ar ei ffordd i Salonica ac nid yw yn gryf iawn. Mae ei brawd arall adref ar ôl cael shrapnel yn ei ysgyfaint. Bydd yn meddwl llawer amdano yn yr oerni.

Llythyr oddi wrth O. T. [?Hughes],

Bu'n pregethu ym Mhant-glas ger Y Bala a chael llythyr oddi wrth KR ar ôl dychwelyd. Rhewodd Llyn Tegid ac y mae ugeiniau o bobl yn sglefrio arno. Aeth gwr y gwesty lleol yn ei gar ar yr iâ. Aeth y car i waelod y llyn ond achubwyd ef. Nid yw wedi cael galwad eto. Mae'n bwriadu aros yno am flwyddyn arall "nes el heibio'r rhyfel".

Llythyr oddi wrth David [Gwenallt Jones], ym Mhontardawe,

Cydymdeimlad ar farwolaeth David, brawd Kate Roberts. Penillion o waith ei dad ar yr achlysur hwnnw. Mae'n ddrwg ganddo fod KR yn gadael Ystalyfera. Mae'n nodi ei ddyled iddi ynglyn ag astudio'r Gymraeg. Dymuno'n dda iddi yn ei swydd newydd. Gofyn iddi ysgrifennu hen amser gorberffaith "myned" gan nad yw'n cael ei gynnwys yn y llyfr gramadeg. Cyhoeddwyd llun o'r llythyr hwn yn y gyfrol Bro a Bywyd - Kate Roberts (gol Derec Llwyd Morgan ([Caerdydd], 1981), t 24.

Results 21 to 40 of 2492