Deunydd printiedig amrywiol gan gynnwys rhaglen Prawf terfynol cystadleuaeth ddrama Aelwydydd Ceredigion, 1944, NI oedd cynhyrchydd drama Aelwyd yr Urdd Aberystwyth (160); Peace News, Rhagfyr 1946, a anfonwyd at NI gan George M. Ll. Davies (161); llyfryn The 30th Annual World Radio Message of the Youth of Wales gyda llofnod Gwilym Davies (162); rhaglen Cymdeithas Taliesin, Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, 1979-80, yn cyfeirio at ddarlith NI ar 'ail-fyw Ddoe'; rhaglen Llynfi Valley Social Amenities Association Presentation third annual social evening, Neuadd y Dref, Maesteg, Mai 1980, yn cynnwys manylion bywgraffyddol am NI (165); taflen angladd Aneirin Talfan Davies, 1980 (166); rhaglen Cymdeithas Cymmrodorion Llandysul, 1981-82, lle traddodwyd darlith ar 'Iolo Morganwg' gan NI (168); rhaglen goffa Eisteddfod Ryngwladol yr Onllwyn, Mai 1982, yr oedd NI yn un o'r llywyddion (169); drama NI Cwpaned (Llandysul, 1982) (170); rhaglen cyflwyno Gwobr Goffa Griffith Jones, 1984, NI oedd y beirniad (172); rhaglen Cylch Llenyddol Pen Ucha Clwyd, 1984-85, gyda 'Norah Isaac yn rhoi'r Gogs yn eu lle' (174); rhaglen Dedwydd Briodas, heb ddyddiad, NI oedd y cynhyrchydd (177).