Dangos 173 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Papurau D. Tecwyn Lloyd, ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

Llythyrau oddi wrth Syr Idris Bell,

Mae'r llythyrau'n ymwneud yn bennaf â swyddogaeth D. Tecwyn Lloyd fel cyfieithydd i Idris Bell [cyhoeddwyd y gwaith fel Trwy diroedd y dwyrain yn 1946 sy'n disgrifio ymweliad â'r Aifft].

Bell, H. Idris (Harold Idris), Sir, b. 1879.

Llythyrau K-O,

Ymhlith y gohebwyr mae Saunders Lewis (8); Gareth Miles (2); Derec Llwyd Morgan (5); Dyfnallt Morgan (3); Prys Morgan (1); T. J. Morgan (2); W. Rhys Nicholas (4); Dyddgu Owen (1); Gerallt Lloyd Owen (1); ynghyd â chopi o dystysgrif marwolaeth ei dad John Lloyd, 1979.

Lewis, Saunders, 1893-1985

Llythyrau W,

Ymhlith y gohebwyr mae Harri Webb (1); D. J. Williams (3); Glanmor Williams (1); J. E. Caerwyn Williams (3); R. Bryn Williams (3); a T. H. Parry-Williams (12).

Webb, Harri, 1920-

Llythyrau amrywiol,

Ymhlith y gohebwyr mae E. Tegla Davies (1); G. G. Evans (1); Meredydd Evans (2); Maurice [James] (1); Thomas Jones (1); 'Llwyd o'r Bryn' (1); Iorwerth Peate (1); Melville Richards (1); Nansi Richards (1); a Goronwy Roberts (2).

Davies, E. Tegla (Edward Tegla), 1880-1967.

Llythyrau J-M,

Llythyrau, [1937]-[1965]. Ymhlith y gohebwyr mae Bobi Jones (5), Gildas [Jaffrennou] (17), Bedwyr L[ewis] Jones (4), David Jenkins, J. R. Jones (2), Gwenallt Jones (3), Thomas Jones (2), Gwyn [Erfyl] (3), A. O. H. Jarman (2), Selwyn Jones (3), Gwenan Jones, John [Gwilym Jones], Saunders Lewis, Roland Mathias (3), a Dyfnalt [Morgan].

Jones, Bobi, 1929-2017

Llythyrau A-J,

Llythyrau, [1978]-1992. Ymhlith y gohebwyr mae Geraint Talfan Davies, Aled [Lloyd Davies] (2), Rhian Davies (4), W. Beynon Davies, Islwyn [Ffowc Elis], Hywel [Teifi Edwards] (3), R. Alun Evans, Eirwen Gwynn (3), [Meredydd Evans] (4), [R.] Geraint [Gruffydd], [J.] Gwyn [Griffiths], Robin Gwyndaf, Bobi Jones, Gwerfyl Pierce Jones (2), Bedwyr L[ewis] Jones (3), Nesta [Wyn Jones] (7), Gildas Jaffrennou (2) a Branwen [Jarvis].

Davies, Geraint Talfan.

Dyddiadur,

Yn cynnwys sylwadau achlysurol rhwng 1 Ionawr 1949 a 23 Rhagfyr 1958 mewn llyfr nodiadau gan gynnwys ei gyfnod yn astudio yn Yr Eidal, 1951-1952.

Dyddiadur,

Yn cynnwys sylwadau achlysurol rhwng 11 Medi 1963 a 13 Gorffennaf 1968 mewn llyfr cofnodion gan gynnwys copi o raglen y ddrama 'Y Cythreuliaid' a droswyd ganddo, 1965.

Hanes teulu,

Ymchwil achyddol 'Llinach Llwydiaid Defeity', ynghyd â llythyrau oddi wrth berthnasau yn yr Unol Daleithiau, ac oddi wrth Nesta Wyn Jones; llungopi o ewyllys Siôn Llwyd, Cwmpenanner, 1690, ac adysgrif ohoni; astudiaeth 'Dyriau Diwiol o waith Sion Llwyd (bu f: 1696) Tymawr, Cwmpennanner'; llyfr rhifyddeg ei dad John Lloyd, 1911-1912, a'i dystysgrif priodas, 1913; ynghyd â cherdd goffa brintiedig i Maggie Lloyd [modryb Tecwyn Lloyd], [1906].

Jones, Nesta Wyn.

John Lloyd 1886-1970,

Teyrnged brintiedig y Parch. Robin Williams i dad D. Tecwyn Lloyd (Llandysul, 1970), ynghyd â thaflen ei angladd, 1 Mehefin 1970. Ceir hefyd anerchiad John Lloyd, 'Y Beibl yng ngolau beirniadaeth ddiweddar', ar gyfer cyfarfod misol yn Nwyrain Meirionnydd, mewn llyfr nodiadau, [1927]-[1928], yn llaw ei fab. Ychwanegwyd nodyn cefndirol ganddo yn 1976. Ceir hefyd goeden deulu Teulu Lloydiaid Penybryn yn cynnwys pedair cenhedlaeth o deulu John a Winifred Lloyd.

Williams, Robin, 1923-

'Taith i'r Eidal',

Llyfr nodiadau'n croniclo'i daith i'r Eidal, 26 Awst-23 Medi 1948, a llythyr, 1952, oddi wrth T[h]om[as] [Jones], ynghyd â chopi teipysgrif 'Taith i'r Eidal'.

Jones, Thomas, 1910-1972.

Canlyniadau 1 i 20 o 173