Showing 2413 results

Archival description
Papurau Kate Roberts File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

20 results with digital objects Show results with digital objects

Llythyr oddi wrth Derec [Llwyd Morgan], yn Llanfairpwll,

Drwg ganddo oedd clywed gan John Emyr ar y ffôn fod KR yn yr ysbyty eto. Ni all ddod i'w gweld hyd ddechrau Gorffennaf gan fod raid iddo fynd i'r De. Mae ei fam yn gwella ar ôl derbyn triniaeth. Daeth Y Byw sy'n Cysgu yn fyw iawn yr wythnos ddiwethaf pan ddiflannodd gweinidog Niwbwrch gyda gwraig un o'i flaenoriaid. Dywed un beirniad llenyddol o Ganada fod bywyd yn efelychu llenyddiaeth. Mae arholiadau pen tymor gan Elin. Mae'n casáu gwyddoniaeth. Mae Jane [Edwards] yn dysgu dros dro mewn ysgol yn y sir. Ni hoffai fynd yn ôl yn athrawes lawn-amser.

Llythyr oddi wrth Olwen [Samuel], yng Nglynebwy,

Mwynhaodd fod yng nghwmni KR a diolch iddi am y te croeso. Adroddodd yr hanes wrth Enid a Thomas [Parry] a John Gwilym Jones. Bu'n cael bwyd hefyd gyda Mrs Teleri [Jones] a fu yng ngafael herwgipwyr [yn Ne America].

Llythyr oddi wrth Cynwil [Williams], yng Nghaerdydd,

Diolch am ddeunydd gwerthfawr ar Evan Roberts. Bu'r merched yn Ninbych [yn yr Wyl Gerdd Dant]. Mae'n darlithio pob nos Lun yn Ysgol y Gadlys, Aberdâr ar ddiwinyddiaeth. Gofyn am enghraifft o'i gwaith mewn llawysgrifen ar gyfer arwerthiant yng nghapel Heol-y-crwys. Mae'n bwriadu gofyn i Gwilym R. [Jones] a Mathonwy [Hughes] am gerddi hefyd.

Llythyr oddi wrth Olwen [Samuel], yng Nglynebwy,

Ni all fyth ad-dalu i KR am gyfoethogi ei bywyd ar hyd y blynyddoedd. Pleser pur oedd cael ymweld â hi. Cafodd boen difrifol yn ei phen-glin. Bu'n ciniawa gyda ffrindiau yn Nhrefynwy a Brynbuga. Mae wedi prynu cyfrol deyrnged John Gwilym Jones a phennod T[homas] Parry yw un o'r pethau clyfra a ddarllenodd ganddo erioed.

Llythyr oddi wrth Winifred [Rees], yn Aberdâr,

Tybed a gafodd KR gynhorthwy yn lle'r ddwy wraig a'i gadawodd yn Rhagfyr? Nid yw ei thrafferthion hi yn ddim o gymharu â rhai KR. Bu'n aros gyda Bessie a'i theulu am ddwy noson dros y Nadolig. Cafodd y ffliw wrth ddychwelyd adref. Bu'n ddiwrnod braf a darganfu dri saffrwm yn yr ardd. Cafodd lyfrau sain a daeth dyn o Ferthyr i ddangos sut i ddefnyddio'r offer.

Llythyr oddi wrth Olwen [Samuel], yng Nglynebwy,

Sôn am ei phrysurdeb dros y Nadolig. Mae'n bwriadu mynd i'r Fenni i brynu anrheg gydag arian Nadolig KR. Aethant i'r capel ar y Rhigos a bu raid iddi ganu'r organ gan nad oedd yno neb i wneud hynny. Bu dyn yn sefyllian y tu allan i'r ty dros y Nadolig. Galwyd yr heddlu. Darganfuwyd mai truan wedi ysgaru oedd ef yn gobeithio cael gweld ei ferch fach ar y stryd.

Llythyr oddi wrth Olwen [Samuel], [Glynebwy],

Parhau'r llythyr am fod ffrind wedi postio'r llythyr cyntaf. Llwyddiant wrth ddysgu Cymraeg yn yr ardal. Gwnaeth stori o waith José Alvarez argraff ddofn arni yn y rhifyn diweddaraf o Taliesin. Fe ffôniodd Arianwen [Evans] o'r Swistir ddwywaith yn ddiweddar. Mae gweithiwr yn trwsio'r feranda o flaen y ty ar ôl cael ei niweidio gan yr eira cynnar.

Llythyr oddi wrth Apo[lonia Evans], ym Mhen-y-groes,

Dyna'r Nadolig heibio unwaith eto. Cawsant dwrci a phwdin ond un digon gwael oedd y pwdin i gymharu â'r un yr arferai hi ei wneud gartref. Teimlai'n hiraethus a bu yn ei hystafell ar ôl cinio. Hoffai fod yn nes at KR er mwyn cael sgwrs am yr hen amser. Byddant ill dwy yn 90 oed nesaf. Bu amryw o Rosgadfan yn rhoi tro amdani ond anodd yw teithio heb gar. Mae'n methu peidio â meddwl am Min Awel [ei hen gartref] ond yn ceisio peidio.

Llythyr oddi wrth Enid [Parry], ym Mangor,

Da clywed oddi wrth Olwen [Samuel] bod KR yn gwella. Bu feirws cas iawn o gwmpas Bangor a bu hithau dan y ffliw. Mae [Thomas Parry] ei gwr yn cadw'n dda iawn. Addo ymweld â KR pan fydd y tywydd yn well a'r dydd yn hwy.

Llythyr oddi wrth Olwen [Samuel], yng Nglynebwy,

Bwriada ffônio'r ysbyty neu at Enid [Parry] i holi hynt KR. Bu yn Y Fenni yn cael gwers yrru. Bydd ei phrawf gyrru ar Chwefror 12. Nid yw wedi meistroli Rheolau'r Ffordd Fawr eto. Bu Arianwen [Evans] yn sâl gyda'r ffliw hefyd.

Llythyr oddi wrth Cynwil [Williams], yng Nghaerdydd,

Cafodd adroddiadau gwell am KR yr wythnos honno. Gwyr ei bod yn cael pob gofal. Gwerthwyd dwy lawysgrif KR yn arwerthiant Capel y Crwys am £8 yr un. Bu farw Gwyn, mab R. E. Jones Llanrwst yn 40 oed. Gedy weddw ifanc a merch fach bedair oed ar ei ôl. Mae Cynwil Williams yn mynd i wlad Groeg am wythnos i arwain 43 o bobl yno.

Llythyr oddi wrth Winifred [Rees], yn Aberdâr,

Cafodd lythyr oddi wrth [Catrin Williams] nith KR yn dweud bod KR yn well. Derbyniodd doriad papur newydd sy'n sôn bod straeon KR i'w cyfieithu i'r iaith Fwlgareg. Dywedodd optegydd wrthi fod ganddi gataract yn tyfu dros y ddau lygad. Mae'n cael pleser mawr o'r llyfrau sain. Saesneg/English.

Results 2401 to 2413 of 2413