Showing 45743 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales File Welsh
Print preview View:

36 results with digital objects Show results with digital objects

Anerchiadau

Ffeil yn cynnwys nifer o areithiau, y rhan fwyaf yn llaw Cynog Dafis ar gyfer achlysuron gan gynnwys cyfarfod Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (1973), Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Aberystwyth (2000), Merched y Wawr Llandysul (2000) Noson Wobrwyo Ysgol Aberaeron (2000) ac eraill.

Papurau a gohebiaeth Seneddol

Gohebiaeth, copiau Hansard ac ati yn ymwneud a gwaith Seneddol Cynog Dafis ar bynciau amrywiol gan gynnwys llygredd, lleihai traffig, tannwydd ffosil. Ffeil yn cynnwys nifer o lythyron yn ymwneud ag achosion unigolion a hawliau dynol.

Cyfrol yn cynnwys nodiadau yn ymwneud â'r ymgyrch yn ystod y 1930au i gael ffurflenni'r Dreth Incwm yn yr iaith ...,

Cyfrol yn cynnwys nodiadau yn ymwneud â'r ymgyrch yn ystod y 1930au i gael ffurflenni'r Dreth Incwm yn yr iaith Gymraeg; drafft o erthygl gan Frank Jones yn Saesneg dan y penawd 'Cymru am Byth' yn ymdrin â'r ymgyrch dros ffurflenni Treth Incwm Cymraeg, ynghyd â llythyr, 1939, oddi wrth J. P. Davies, Porthmadog, at Frank Jones yn rhoi ei sylwadau ar yr erthygl; drafft o anerchiad, c. 1942, yn Saesneg gan Frank Jones ar Blaid Genedlaethol Cymru a'i hamcanion; a thorion amrywiol o'r wasg.

Gohebiaeth a phapurau, 1940-1943, yn ymwneud â chais Frank Jones yn 1940, o flaen Tribiwnlys Gwrthwynebwyr Cydwybodol Gogledd Cymru, i ...,

Gohebiaeth a phapurau, 1940-1943, yn ymwneud â chais Frank Jones yn 1940, o flaen Tribiwnlys Gwrthwynebwyr Cydwybodol Gogledd Cymru, i gael ei gofrestru'n wrthwynebydd cydwybodol ar dir cenedlaetholdeb Cymreig ac â'i wrthwynebiad yn 1942 i wasanaethu yn y Gwarchodlu Cartref. Ymhlith y papurau ceir 5 llythyr, 1942, oddi wrth J. E. Jones at Frank Jones, copïau o lythyrau oddi wrth Frank Jones a chopi o'i ddatganiad i'r llys pan ymddangosodd gerbron Llys Ynadon St Helens, Rhagfyr 1942, am beidio ymuno â'r Gwarchodlu Cartref ym Mhorthmadog.

Gohebiaeth a phapurau, 1943-1944, yn ymwneud â'r achos llys yn erbyn Frank Jones yn Llandudno, Medi 1943, am anufuddhau i ...,

Gohebiaeth a phapurau, 1943-1944, yn ymwneud â'r achos llys yn erbyn Frank Jones yn Llandudno, Medi 1943, am anufuddhau i orchymyn i ymaelodi yn y Gwasanaeth Tân Cenedlaethol, pan wrthodwyd yr hawl iddo ddadlau ei achos yn Gymraeg. Ymysg y papurau ceir copïau o lythyrau oddi wrth Frank Jones, llythyrau ato oddi wrth J. P. Davies, Porthmadog (1), Syr Henry Morris-Jones, AS (1) a J. E. Jones (2), a drafft o ddatganiad Frank Jones i'r llys.

Account book of the schooner Hope

An account book, [1850]-1860, of the schooner 'Hope' of Aberystwyth, Cardiganshire, owned by Mary Williams (mother of the Rev. John Williams) and David Jenkins.
The volume contains accounts of cash laid out and received by the shiphusband and statements of account, 1853-1860 (ff. 12 verso-33). A copy of Reynolds' Original Birmingham Almanack for 1851 (1850) has been bound in at the end of the volume (ff. 134-141).

Results 41 to 60 of 45743