Showing 1033 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales File Welsh
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Amrywiol

Papurau amrywiol gan gynnwys llyfr nodiadau 'Nodiadau a dyfyniadau. Llên a barddoniaeth', 1930 a llyfrau nodiadau amrywiol; llyfr torion o'r Faner, 1970, am 'Stori Oberammergau' gan Gwilym R. Jones; taflen dathlu chwarter can mlwyddiant Ysgol Twm o’r Nant yn Ninbych yn 1985 yn cynnwys cerdd ganddo: ‘I ddathlu pen-blwydd Ysgol Twm o’r Nant’; a thaflen ‘Teyrnged i Gwilym R.’ a drefnwyd gan Yr Academi Gymreig yn 1983.

Anfonebau; a chatalog sêl Tŷ Canol

Papurau, 1978-2001, yn ymwneud â materion ariannol, y rhan fwyaf yn anfonebau. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys mapiau (1979-1980); catalog sêl ar gyfer Tŷ Canol (1891); a thorion o’r wasg (1980-1981).

Nant Gwrtheyrn Welsh Language and Heritage Centre

Gweithgareddau staff; swyddi; amserlenni; hyforddiant staff; a pholisïau staff

Gohebiaeth a phapurau, 1986-2013, yn ymwneud â materion staff, yn cynnwys gweithgareddau staff (1993); ffurflenni oriau gwaith (1992-1993); disgrifiadau swydd (1991-1993); adroddiad y cyfarwyddwr (1987); hyfforddiant staff (1992); hysbysebu swyddi (2001-2007); a pholisïau staff (1997-2013). Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys disg hyblyg wedi ei theitlo ‘Disgrifiadau Swydd’ (1993).

Datblygu cyfleusterau anabl; arwyddion; cerbydau; diwrnodau agored; Ymgyrch Marchnata Dwyfor; diogelwch tân; ail-adeiladu Trem-y-Môr; y Pwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg; ymweliadau dyddiol

Gohebiaeth, 1986-1994, parthed nifer o faterion gweinyddol yn ymwneud â datblygu safle Nant Gwrtheyrn, yn cynnwys cyfleusterau anabl; arwyddion; cerbydau; diwrnodau agored; Ymgyrch Marchnata Dwyfor; diogelwch tân, ail-adeiladu Trem-y-Môr; cyflenwad dŵr, hyfforddiant staff; y Pwyllgor Datblygu Addysg Cymraeg; ac ymweliadau dyddiol. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys nifer o dorion a chopïau o’r wasg (1988-1990).

Holiaduron; datganiadau i'r wasg; yswiriant; rhoddion; Plas Pistyll

Papurau amrywiol, 1988-1992, yn cynnwys holiaduron wedi ei chwblhau, datganiadau i’r wasg, ac anfonebau; a gohebiaeth a phapurau yn ymwneud ag yswiriant ceir, rhoddion, a nawdd. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys gohebiaeth a phapurau yn ymwneud â prynu a gwerthu Plas Pistyll (1989-1992), a chopi o Adroddiad y Bartneriaeth Addysg Busnes Gwynedd (1991).

Gwaith cynnal a chadw; llif arian; cyflog a swyddi; digwyddiadau; yr ŵyl ieithoedd EWROSGOL Cymru; sêl Plas Pistyll; achos HTV yn erbyn cyfreithwyr Hugh James

Gohebiaeth a phapurau, 1990-97, yn ymwneud â materion gweinyddol amrywiol, yn cynnwys grantiau, llif arian a chyfrifon, cyflog a swyddi, digwyddiadau; marchnata; a gwaith cynnal a chadw. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys papurau a gohebiaeth yn ymwneud â Gŵyl ieithoedd Ewrosgol Cymru (1991); sêl Plas Pistyll (1995-1996); achos HTV yn erbyn cyfreithwyr Hugh James (1996-1997); copi o Adroddiad Bwrdd yr Iaith Gymraeg (1995), a copi o Cynllun Strategol Nant Gwrtheyrn (1997).

Prynu Plas Pistyll; achos llys HTV, yn cynnwys datganiadau tyst a'r manylion achos

Gohebiaeth a phapurau, 1978-1995, yn ymwneud â phrynu Plas Pistyll a’r achos enllib yn erbyn HTV, yn cynnwys copïau o ddatganiadau cyfrif (1989-1992); copi o drawsgludiad Plas Pistyll (1989); datganiadau tyst (1995); manylion achos (1989-1995); manylion achos a’r canlyniad (1992-1995); a dogfennaeth yn ymwneud â phrynu Plas Pistyll, y trawsgludiad, a’r Cynllun Busnes (1978-1992).

Results 41 to 60 of 1033