Dangos 3783 canlyniad

Disgrifiad archifol
ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

4 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

I Hela Cnau,

Drafft, 1974-1975, o nofel Marion Eames, I Hela Cnau (Llandysul, 1978), wedi ei ddiwygio'n sylweddol, yn cynnwys nodiadau, yn amlinellu'r cymeriadau, ac yn dwyn y teitl gwreiddiol Tir Nod. Gweler hefyd NLW MS 22499D. = A draft, 1974-1975, of I Hela Cnau (Llandysul, 1978) by Marion Eames, with extensive revision and notes and brief character outlines used in the compilation of the novel and bearing the original title Tir Nod. With NLW MS 22499D.

I Hela Cnau,

Drafft, 1974-1975, o nofel Marion Eames, I Hela Cnau (Llandysul, 1978), wedi ei ddiwygio'n sylweddol, yn cynnwys nodiadau ac yn amlinellu'r cymeriadau. Gweler hefyd NLW MS 22498D. = A draft, 1974-1975, of I Hela Cnau (Llandysul, 1978) by Marion Eames, with extensive revision and notes and brief character outlines used in the compilation of the novel. With NLW MS 22498D.

Dyddiadur,

Dyddiadur T. Llew Jones ar gyfer 1965, yn cynnwys cofnodion yn ymwneud â'i ddiddordebau a'i fywyd bob dydd. = Diary of T. Llew Jones for 1965, giving an account of his daily life and interests.
Cynhwysa'r gyfrol gyfeiriadau at Dafydd Jones (Isfoel) (ff. 15, 28), Alun Cilie (passim), John Alun Jones (passim), a Dic Jones (passim); hefyd at Gymdeithas Lyfrau Ceredigion (f. 36) ac at Ysgol Gynradd Coed-y-bryn, Llandysul (passim). = The volume contains references to Dafydd Jones (Isfoel) (ff. 15, 28), Alun Cilie (passim), John Alun Jones (passim), and Dic Jones (passim); also to Cymdeithas Lyfrau Ceredigion (the Ceredigion Book Society) (f. 36) and to Coed-y-bryn Primary School, Llandysul (passim).

Dyddiadur

Dyddiadur T. Llew Jones ar gyfer 1975, sy'n cynnwys cofnodion yn ymwneud â'i ddiddordebau a'i fywyd bob dydd. = Diary of T. Llew Jones for 1975, giving an account of his daily life and interests.
Cynhwysa'r gyfrol gyfeiriadau at Alun Cilie (passim), gan gynnwys ei gystudd olaf a'i farwolaeth (ff. 10-19) ac englynion er cof amdano (ff. 18 verso-19, 67), ac at Ysgol Gynradd Coed-y-bryn, Llandysul (passim). = The volume contains references to Alun Cilie (passim), including his last illness and death (ff. 10-19) and englynion in memoriam (ff. 18 verso-19, 67); and to Coed-y-bryn Primary School, Llandysul (passim).

Dyddiadur

Dyddiadur T. Llew Jones ar gyfer 1978, sy'n cynnwys cofnodion yn ymwneud â'i ddiddordebau a'i fywyd bob dydd; ceir hefyd englyn ganddo (f. 27 verso). = Diary of T. Llew Jones, for 1978, giving an account of his daily life and interests, and also an englyn by the author (f. 27 verso).
Cynhwysa'r gyfrol gyfeiriadau at Dic Jones (passim), John Alun Jones (ff. 7, 22, 25-6, 45-7 verso, 52 verso-3), a phriodas Tydfor Jones (ff. 11 verso-14 verso); hefyd at lyfr canmlwyddiant Ysgol Gynradd Tregroes, Ceredigion (ff. 18 verso-43 verso passim). = The volume contains references to Dic Jones (passim), John Alun Jones (ff. 7, 22, 25-6, 45-7 verso, 52 verso-3) and Tydfor Jones's marriage (ff. 11 verso-14 verso); also to the centenary book of Tregroes Primary School, Ceredigion (ff. 18 verso-43 verso passim).

Dyddiadur

Dyddiadur T. Llew Jones ar gyfer 1979, sy'n cynnwys cofnodion yn ymwneud â'i ddiddordebau a'i fywyd bob dydd, gan gynnwys hanes damwain ffordd a ddigwyddodd i'r awdur a'r anafiadau gafwyd (ff. 17-27 verso, 37 verso, 53 verso), ynghyd â thorion papur newydd perthnasol (ff. 17, 27 verso). = Diary of T. Llew Jones for 1979, giving an account of his daily life and interests, including an account of a road accident suffered by him and the injuries sustained (ff. 17-27 verso, 37 verso, 53 verso), together with related press cuttings (ff. 17, 27 verso).
Cynhwysa'r gyfrol gyfeiriadau at John Alun Jones (passim), Dic Jones (passim), a dyddiaduron Joseph Jenkins (ff. 16, 38-44). = The volume contains references to John Alun Jones (passim), Dic Jones (passim), and the diaries of Joseph Jenkins (f. 16, 38-44).

Dyddiadur

Dyddiadur T. Llew Jones ar gyfer 1981, sy'n cynnwys cofnodion yn ymwneud â'i ddiddordebau a'i fywyd bob dydd, gan gynnwys crynodeb o ddigwyddiadau ar gyfer 1980 (ff. 1 verso-7 verso), ac englynion gan yr awdur (f. 25) a Dic Jones (f. 67). = Diary of T. Llew Jones for 1981, giving an account of his daily life and interests, including a summary of events for 1980 (ff. 1 verso-7 verso), and englynion by the author (f. 25) and Dic Jones (f. 67).
Cynhwysa'r gyfrol gyfeiriadau at Dic Jones (passim), John Alun Jones (passim), llyfr yn seiliedig ar ddyddiaduron Joseph Jenkins (ff. 14, 26-37 verso passim, 60 verso), marwolaeth B. T. Hopkins (ff. 14-16, 21, 77 verso), dathliadau canmlwyddiant geni Dafydd Jones (Isfoel) (ff. 24, 45 verso-46, 51 verso-58), darlithoedd ar Dewi Emrys (ff. 40, 42, 45 verso-47 verso, 70-73 verso, 82 verso-83 verso), ac ympryd Gwynfor Evans (f. 3 verso); ceir hefyd gyfeiriadau at yr ymgyrch losgi tai haf (ff. 3 verso-4, 19 verso, 41, 72), a'r tywydd gwael ym mis Rhagfyr (ff. 105 verso-111 verso). = The volume includes references to Dic Jones (passim), John Alun Jones (passim), a book based on the diaries of Joseph Jenkins (ff. 14, 26-37 verso passim, 60 verso), the death of B. T. Hopkins (ff. 14-16, 21, 77 verso), centenary celebrations of the birth of Dafydd Jones (Isfoel) (ff. 24, 45 verso-46, 51 verso-58), lectures on Dewi Emrys (ff. 40, 42, 45 verso-47 verso, 70-73 verso, 82 verso-83 verso), and Gwynfor Evans's fasting protest (f. 3 verso); also included are references to the holiday homes arson campaign (ff. 3 verso-4, 19 verso, 41, 72), and the poor weather in December (ff. 105 verso-111 verso).

Dyddiadur

Dyddiadur T. Llew Jones ar gyfer 1984, sy'n cynnwys cofnodion yn ymwneud â'i ddiddordebau a'i fywyd bob dydd, yn ogystal â barddoniaeth ganddo (ff. 129 verso, 152 verso, 180 verso, 181). = Diary of T. Llew Jones for 1984, giving an account of his daily life and interests, together with poetry by the author (ff. 129 verso, 152 verso, 180 verso, 181).
Cynhwysa'r gyfrol gyfeiriadau at Dic Jones (passim), penddelw o'r awdur a gerfiwyd gan John Meirion Morris (ff. 72, 148, 149 verso, 166, 167 verso, 174), Coron yr Eisteddfod Genedlaethol a enillwyd gan John Roderick Rees (f. 110 verso), John Alun Jones (passim), gweddw Tydfor Jones (ff. 129 verso, 150, 181 verso), a marwolaeth Gerallt Jones (ff. 115 verso-117, 130, 135); ceir hefyd gyfeiriadau at llosgi dau dŷ haf ger Llangrannog (ff. 28, 35), yr haf poeth a'r sychdwr (ff. 89-108, 116 verso-124 verso, 141), a Streic y Glöwyr (1984-1985) (ff. 36-183 verso passim). = The volume includes references to Dic Jones (passim), a sculpted head of the author made by John Meirion Morris (ff. 72, 148, 149 verso, 166, 167 verso, 174), the National Eisteddfod Crown won by John Roderick Rees (f. 110 verso), John Alun Jones (passim), the widow of Tydfor Jones (ff. 129 verso, 150, 181 verso) and the death of Gerallt Jones (ff. 115 verso-117, 130, 135); also included are references to the burning of two holiday homes near Llangrannog (ff. 28, 35), the drought and dry summer (ff. 89-108, 116 verso-124 verso, 141) and the Coal Strike of 1984-1985 (ff. 36-183 verso passim).

Dyddiadur

Dyddiadur T. Llew Jones ar gyfer 1988, sy'n cynnwys cofnodion yn ymwneud â'i ddiddordebau a'i fywyd bob dydd. = Diary of T. Llew Jones for 1988, giving an account of his daily life and interests.
Cynhwysa'r gyfrol gyfeiriadau at Dic Jones (passim), R. S. Thomas (ff. 38 verso, 53 verso, 56 verso), Dafydd Elis-Thomas (ff. 38 verso, 53 verso), a marwolaeth Cassie Davies (f. 36 verso), yn ogystal â nodiadau'n ymwneud â Waldo Williams (f. 106 verso); ceir hefyd gyfeiriadau at lyfrau a llawysgrifau a ganfyddwyd yn Gellifaharen, Llandysul (ff. 64 verso-65, 74, 79 verso), a charreg ogam a siambr gladdu yng Nghapel Mair, Llangeler (ff. 59, 60 verso-61, 72 verso). = The volume includes references to Dic Jones (passim), R. S. Thomas (ff. 38 verso, 53 verso, 56 verso), Dafydd Elis-Thomas (ff. 38 verso, 53 verso), and the death of Cassie Davies (f. 36 verso), together with notes relating to Waldo Williams (f. 106 verso); also included are references to books and manuscripts discovered at Gellifaharen, Llandysul (ff. 64 verso-65, 74, 79 verso), and an ogam stone and burial chamber at Capel Mair, Llangeler (ff. 59, 60 verso-61, 72 verso).

Dyddiadur

Dyddiadur T. Llew Jones ar gyfer 1989, sy'n cynnwys cofnodion yn ymwneud â'i ddiddordebau a'i fywyd bob dydd, ynghyd â barddoniaeth ganddo (ff. 140 verso, 164). = Diary of T. Llew Jones for 1989, giving an account of his daily life and interests, together with poetry by him (ff. 140 verso, 164).
Cynhwysa'r gyfrol gyfeiriadau at Dic Jones (passim), Gwilym Prys Prys-Davies (f. 55 verso), rhaglenni teledu a gynhyrchwyd gan Carol Byrne Jones (passim), Caneuon y Misoedd gan Mansel Thomas (ff. 53 verso, 57), y llofruddiaeth a gyflawnwyd gan Clive Roberts (ff. 33 verso, 35 verso), a chystudd a marwolaeth Roy Stephens (ff. 65 verso, 66 verso, 155-157 verso, 162, 166 verso-167); ceir hefyd gyfeiriadau at arferion cefn gwlad ardal Llandeilo, gan gynnwys traddodiadau'n ymwneud â'r fedwen (f. 133), ffotograff o Bwlchmelyn, Pentre-cwrt, lle ganed T. Llew Jones (f. 81 verso), a charreg ogam a siambr gladdu yng Nghapel Mair, Llangeler (ff. 27 recto-verso, 82, 85). = The volume includes references to Dic Jones (passim), Gwilym Prys Prys-Davies (f. 55 verso), television programmes produced by Carol Byrne Jones (passim), Caneuon y Misoedd by Mansel Thomas (ff. 53 verso, 57), the murder committed by Clive Roberts (ff. 33 verso, 35 verso), and the illness and death of Roy Stephens (ff. 65 verso, 66 verso, 155-157 verso, 162, 166 verso-167); also included are references to folk customs of the Llandeilo district, including traditions involving the birch tree (f. 133), a photograph of Bwlchmelyn, Pentre-cwrt, birthplace of T. Llew Jones (f. 81 verso) and the ogam stone and burial chamber at Capel Mair, Llangeler (ff. 27 recto-verso, 82, 85).

Dyddiadur

Dyddiadur T. Llew Jones ar gyfer 1993, sy'n cynnwys cofnodion yn ymwneud â'i ddiddordebau a'i fywyd bob dydd, yn ogystal ag englyn ganddo (f. 75). = Diary of T. Llew Jones for 1993, giving an account of his daily life and interests, together with an englyn (f. 75).
Cynhwysa'r gyfrol gyfeiriadau at Dic Jones (ff. 6 verso, 15 verso-16, 57 verso-78 verso passim, 96 verso), Carol Byrne Jones (ff. 40 verso, 51-52, 77 verso, 82, 101 verso, 106 verso), addasiad ffilm a chyfieithiad i'r Saesneg o Tân ar y Comin (ff. 60-69, 81-96, 101 verso, 103 verso), a chyhoeddi barddoniaeth Tydfor Jones (ff. 2 verso, 5-17 passim, 23-24, 31, 37 verso, 41 recto-verso, 54 verso). = The volume includes references to Dic Jones (ff. 6 verso, 15 verso-16, 57 verso-78 verso passim, 96 verso), Carol Byrne Jones (ff. 40 verso, 51-52, 77 verso, 82, 101 verso, 106 verso), a film adaptation and translation into English of Tân ar y Comin (ff. 60-69, 81-96, 101 verso, 103 verso), and the publication of Tydfor Jones's poetry (ff. 2 verso, 5-17 passim, 23-24, 31, 37 verso, 41 recto-verso, 54 verso).

Dyddiadur

Dyddiadur T. Llew Jones ar gyfer Ionawr a Mawrth-Rhagfyr 1994, sy'n cynnwys cofnodion yn ymwneud â'i ddiddordebau a'i fywyd bob dydd. = Diary of T. Llew Jones for January and March-December 1994, giving an account of his daily life and interests.
Cynhwysa'r gyfrol gyfeiriadau at Dic Jones (ff. 5 verso, 59 verso, 74 verso, 85 verso, 116, 123 verso-124, 127, 135 verso), Carol Byrne Jones (ff. 67, 85 verso, 188), ac at addasiad ffilm o Tân ar y Comin (ff. 1-3 verso, 85 verso, 183, 186-9). = The volume includes references to Dic Jones (ff. 5 verso, 59 verso, 74 verso, 85 verso, 116, 123 verso-124, 127, 135 verso), Carol Byrne Jones (ff. 67, 85 verso, 188), and to a film adaptation of Tân ar y Comin (ff. 1-3 verso, 85 verso, 183, 186-189).

Llythyrau A-D,

Llythyrau, [1948]-[1964], gan gynnwys rhai oddi wrth Teleri [Bevan] (2), John Cale (3), Joseph P. Clancy, W. Emrys Cleaver, Alun [Talfan Davies] (13), Aneirin [Talfan Davies] (2), Cassie [Davies], E. Tegla Davies, Pennar Davies ac W. Anthony Davies (4).

Bevan, Teleri, 1931-

'Gwaith cynnar Harri Gwynn',

Ei delyneg 'Pont y Pentre' [un o'i gerddi cyntaf] a enillodd y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Fach yng Nghorwen yn 1929 [a gyhoeddwyd yn Cymru'r Plant, Awst 1929], a'r dystysgrif a gyflwynwyd iddo; papur arholiad yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Ysgol Sir Abermaw, 1929; a phryddest 'Castell Elen', Eisteddfod Dolyddelen [Dolwyddelan], 1929.

Canlyniadau 161 i 180 o 3783