Dangos 59614 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

42 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Llungopi o erthygl 'Retirement after fifty-three years' service', yn ymwneud â David Thomas, The Ocean and National Magazine, Mawrth 1933 ...,

Llungopi o erthygl 'Retirement after fifty-three years' service', yn ymwneud â David Thomas, The Ocean and National Magazine, Mawrth 1933. A photocopy of an article 'Retirement after fifty-three years', relating to David Thomas, The Ocean and National Magazine, March 1933.

Gweithgor yr Is-Banel,

Agendau a chofnodion cyfarfodydd yr Is-Banel, ynghyd â gohebiaeth gysylltiedig ac yn bennaf cynnyrch diweddar y prosiect, yn cynnwys copïau o destun yr Atlas gyda nodiadau, problemau, cwestiynau, cywiriadau, diweddariadau, penderfyniadau ac amgymhellion ynglŷn â chynnwys ac arddull yr Atlas, a manylion gwaith y Gweithgor, yn arbennig o ran cyfieithiadau, orgraff a materion yn gysylltiedig â ffurfiau enwau lleoedd, arweddion ffisegol, termau daearyddol, a llif gwaith y prosiect, gyda phwylais ar gyfraniadau at destun yr Atlas gan aelodau'r Gweithgor a olygwyd gan yr Is-Banel.

Drafft o gynnwys testunol yr Atlas (tudalennau 1-29),

Ffeil bocs yn cynnwys y darn cyntaf o ddrafft deipysgrif o'r Atlas, gyda chywiriadau mewn llawysgrifen at sylw staff olygyddol ac argraffwyr, yn cynnwys nodiadau, enwau lleoedd, termau daearyddol, tablau a mynegeion, wedi'u trefnu yn ôl eu lleoliad yn yr Atlas fesul tudalen; nid yw'r ddrafft yn cynnwys y testun yn llawn, nac yn cynnwys mapiau, lluniau, siartiau na diagramau.

Cyfansoddiadau cerddorol David Hughes ('Cristiolus Môn'),

  • NLW ex 2439.
  • ffeil
  • 1838-1866.

Llyfrau tonau David Hughes, ysgolfeistr a cherddor, a anwyd yn Llangristiolus, Môn, yn cynnwys emyn-donau, salm-donau ac anthemau ganddo, ynghyd â llythyr o werthfawrogiad, 1866, o Efrog Newydd, yn gofyn iddo anfon 'dwsin neu ddau ddwsin' o’i gyhoeddiad Yr Atthraw Cerddorol (1951). = Tune-books of David Hughes, scoolmaster and musician, born in Llangristiolus, Anglesea, containing hymn-tunes, psalm tunes and anthems by him, together with a letter of appreciation, 1866, from New York, asking for further copies of his publication Yr Atthraw Cerddorol (1951).

Hughes, David, 1810-1881.

Sgriptiau D. J. Williams,

  • NLW ex 2451.
  • ffeil
  • 1936, 1939.

Copïau teipysgrif o dair sgript sef 'Shemi Wâd' (sgwrs gan Bili John a D. J. Williams), 1936, 'Storïau'r Môr' (gan dri hen forwr o Abergwaun), 1936, a 'Dychangerddi Letys Het' (D. J. Williams a Bili John), [fe'i cyhoeddwyd yn y County Echo yn 1939]; cawsant eu recordio yn Stiwdio'r BBC yn Abertawe.

Williams, D. J. (David John), 1885-1970.

Y Trwynau Coch,

  • NLW ex 2617.
  • ffeil
  • [1978].

Papurau, [1978], yn ymwneud a'r grŵp pop Cymraeg, Y Trwynau Coch, gan gynnwys cytundeb, 1978, rhwng Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a'r grŵp i berfformio yng nghlwb nos Tito's yng Nghaerdydd a'r amodau, ac ychydig o dorion o'r Cymro yn ymwneud â'r grŵp.

Trwynau Coch (Musical group).

Teulu 'Dewi Haran',

  • NLW ex 2418.
  • ffeil
  • 1839-[1954].

Coeden deulu gan David Evans ('Dewi Haran', 1812-1885) yn olrhain disgynyddion Thomas Phillip (g. 1536), ynghyd â medal arian a gyflwynwyd iddo yn 1849 gan Dafydd Hopkins am y gerdd orau i gŵn hela Llanharan. Ceir cerdd brintiedig In Memoriam. Beth am y bedd? gan Dewi Wyn o Essyllt (cyflwynedig i Dewi Haran ar farwolaeth ei briod yn 1878) a Posi ar fedd 'Dewi Haran' gan Glanffrwd, [1885].

Evans, David, Dewi Haran, 1812-1885.

Atgofion Capten,

  • NLW ex 2486.
  • ffeil
  • 1935-1936.

Atgofion y Capten llong R. E. Jones, y Felinheli, 1935-1936.

Bardd y tri enw eto,

  • NLW ex 2485.
  • ffeil
  • [1886]-[1923].

Teyrnged, [1886]-[1923], gan 'Deiniolfryn' i'r bardd 'Afaon Peris' a fu'n rhan o'r 'cload allan' yn Chwarel Donorwig yn Llanberis, 1885-86.

Hughes, William John, Deiniolfryn.

Synnwyr a hiwmor

  • NLW ex 2457.
  • Ffeil
  • 2003.

Gwaith y rhoddwr, nith T. Gwynn Jones, mewn teipysgrif, a ysgrifennodd ar gais ei phlant ac sy’n cynnwys atgofion am y llenor, ynghyd â choeden deulu sy'n dangos y berthynas rhyngddynt.

Jones, Eirlys.

Cerdd gan Waldo Williams,

  • NLW MS 23897B.
  • ffeil
  • 1955-1956.

Copi o E. Llwyd Williams a Waldo Williams, Cerddi'r Plant, 2il arg. (Aberystwyth, 1955), yn cynnwys cerdd ddi-deitl, 6 Mai 1956, gan Waldo Williams, yn llaw yr awdur, wedi ei gyflwyno i Enid Jones (t. 2). Cyhoeddwyd a thrafodwyd y gerdd yn erthygl ei mam Anna Wyn Jones, 'Waldo', yn Waldo: Cyfrol Deyrnged i Waldo Williams, gol. gan James Nicholas (Llandysul, 1977), tt. 37-49 (t. 45). = A copy of E. Llwyd Williams and Waldo Williams, Cerddi'r Plant, 2nd edn (Aberystwyth, 1955), containing an untitled autograph poem, 6 May 1956, by Waldo Williams, dedicated to Enid Jones (p. 2). The poem is published and discussed in her mother Anna Wyn Jones's article 'Waldo', in Waldo: Cyfrol Deyrnged i Waldo Williams, ed. by James Nicholas (Llandysul, 1977), pp. 37-49 (p. 45).

Williams, Waldo, 1904-1971

Brad

  • NLW ex 2795.
  • Ffeil
  • [1958]

Proflenni gali o ddrama Saunders Lewis gyda nodiadau, a nodyn yn llaw'r dramodydd yn gofyn am broflen ychwanegol.

Lewis, Saunders, 1893-1985

Llŷn ac America,

  • NLW ex 2778.
  • ffeil
  • 2011 /

Traethawd gan W. Arvon Roberts ar ymfudo o Lŷn i'r Amerig, 2011.

Roberts, W. Arvon.

Canlyniadau 161 i 180 o 59614