Showing 70 results

Archival description
Papurau R. Tudur Jones
Print preview View:

Papurau R. Tudur Jones

  • GB 0210 RTUDES
  • Fonds
  • 1870-2000

Papurau personol y Parchedig Ddr. Robert Tudur Jones (1921-1998). Rhoddwyd y papurau’n rhodd i’r Llyfrgell gan y teulu yn Ebrill 2015, gan rannu archif RTJ rhwng y Llyfrgell Genedlaethol ag Archifdy Prifysgol Bangor. Mae mwyafrif y papurau yn Gymraeg, oni nodir yn wahanol.

Jones, R. Tudur (Robert Tudur)

Deunydd o ddiddordeb hanesyddol yn ymwneud â’r enwad a’r coleg, 1870-1978

Deunydd o ddiddordeb hanesyddol yn ymwneud â’r enwad a’r coleg, 1870-1978, a gasglwyd gan RTJ ym Mala-Bangor. Mae’r casgliad yn cynnwys englyn yn llaw Hwfa Môn, 1904; 2 lythyr oddi wrth y Parch. Idris Davies, Y Gelli, at y Prifathro John Morgan Jones, 1939; 3 llythyr, 1952-1954, oddi wrth Thomas Richards at y Parch. D. Morlais Jones, Tal-y-bont, Ceredigion yn ymwneud â dathlu 150 mlwyddiant capel Bethel (A), Tal-y-bont; llythyr J.D. Vernon Lewis at y Parch. Rhys Harries, Llandeilo, 1964 yn trafod ei emyn ‘Gwawr wedi hirnos’; llyfr nodiadau yn rhoi hanes capel Chwarelgoch, Tregarth, Bangor, 1978.

Dyddiaduron

Dyddiaduron, 1944-1998 (A1-30), dyddiaduron apwyntiadau, 1949-1998 (A31), Blwyddiaduron (neu Suliaduron), 1942-2000 (A32) RTJ a Dyddiaduron anhysbys, 1898-1916 (A33).

Personalia RTJ, 1932-1992

Personalia RTJ, 1932-1992, yn cynnwys amlinelliadau gyrfa, adroddiad ysgol, torion papurau newydd, cytundebau, trwydded yrru a phasport, a rhestr 23 tt. o bapurau RTJ yn Archifdy Prifysgol Bangor, 2008.

Gohebwyr eraill

Llythyrau at R. Tudur Jones gan ohebwyr eraill, 1938-1994, ynghyd â rhai papurau perthnasol, wedi eu trefnu’n ffeiliau, yn ôl blynyddoedd.

Gohebiaeth

Gohebiaeth rhwng R. Tudur Jones a Gwenllian Edwards (Gwenllian Jones wedi iddynt briodi ar 19 Ebrill 1948), 1942-1980, wedi eu trefnu yn ôl blynyddoedd, ac yn cynnwys llythyrau oddi wrth y naill at y llall.

Dyddiadur 1944-1948

[Cofnodion 27 Mai-9 Medi 1944, 16 Chwefror 1945-10 Mawrth 1945, 10-11 Hydref 1945, 18-19 Ionawr 1946, 14 Ionawr -14 Chwefror 1947, 12-27 Gorffennaf 1948].

Results 1 to 20 of 70