Showing 96 results

Archival description
Papurau Mathonwy Hughes
Print preview View:

Papurau pobl eraill

Enghreifftiau o waith creadigol Mair Hughes, gwraig Mathonwy Hughes, Eurion John a Gruffudd Parry, ynghyd â'r meddyg teulu Dr Gwilym Pari Hughes, [1975]-1983.

Gwilym Pari Huws

Teipysgrifau o englynion a chywyddau gan Gwilym Pari Huws a gyhoeddwyd yn ei gyfrol Awen y meddyg (Gwasg Gwynedd, 1983).

Ysgrifau

Ysgrifau yn llaw Mathonwy Hughes, [1985]-[1990]: 'Synhwyro', 'Cyflymder' (anghyflawn), 'Mentro meddwl', 'Hanfod bod a byw', 'Y ffactor tywyll', 'Deddfau sy'n dal', 'Gwadu’r hil', 'Dameg y chwynyn' 'Y goleuni mewnol', 'Methiant addysg', 'Y gobaith olaf', 'Methiant crefydd', 'Synhwyro. Y glust', 'Elwgarwch' a 'Methiant gwleidyddiaeth'.

Torion papur newydd

Mae'r gyfres yn cynnwys erthyglau a cherddi wedi eu torri o bapurau newydd a chylchgronau amrywiol,a gasglwyd gan Mathonwy Hughes, [?1921]-1992, y rhan fwyaf yn ymwneud ag ef, ei deulu a'i gyfeillion.

Papurau'n ymwneud â Chapel Tan'rallt, Llanllyfni

Mae'r gyfres yn cynnwys Adroddiadau Blynyddol, 1942, 1975 ac 1977, Capel Tan'rallt, Llanllyfni, Sir Gaernarfon, sef y capel a fynychwyd gan deulu Mathonwy Hughes, ynghyd â dwy gyfrol yn cynnwys gwaith gan ddisgyblion Ysgol Sul yr un capel, 1865 a 1979.

'Y Pris'

Mae'r ffeil yn cynnwys drafftiau o'i nofel anghyhoeddedig, 'Y Pris', [?1982]-[1984].

Beirniadaethau

Mae'r gyfres yn cynnwys llawysgrifau o waith Mathonwy Hughes fel beirniad, ynghyd â beirniadaethau ar ei waith ef, [?1966]-1991.

Deunydd ar gyfer ymrysonau

Mae'r gyfres yn cynnwys tasgau a osodwyd gan Mathonwy Hughes ar gyfer Ymryson y Beirdd, ynghyd â chynigion mewn ymrysonau eraill, gan gynnwys timau roedd ef yn aelod ohonynt[?1960]-[?1989].

Cylchgronau

Mae'r ffeil yn cynnwys rhifynnau o gylchgronau a gyhoeddwyd gan Mudiad Addysg Y Gweithwyr, gan gynnwys erthyglau am Mathonwy Hughes.

Llythyrau personol

Mae'r gyfres yn cynnwys llythyrau personol, [?1903]-1992, a llythyrau yn llongyfarch Mathonwy Hughes ar ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr, 1956.

Pen blwydd yn 90 oed

Mae'r gyfres yn cynnwys cyfarchion a theyrngedau i Mathonwy Hughes ar ei ben blwydd yn 90, a phapurau'n ymwneud â noson deyrnged iddo a gynhaliwyd i ddathlu'r achlysur, 1991.

Results 21 to 40 of 96