Showing 669 results

Archival description
Only top-level descriptions Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Welsh
Print preview View:

3 results with digital objects Show results with digital objects

'Cân y caniadau',

  • NLW ex 2130.
  • file
  • [1960] /

Llawysgrif holograff o 'Cân y Caniadau' sef 'trosiad telynegol' gan Cynan a gyflwynodd i Olwen Caradoc Evans ym mis Ebrill 1960.

Cynan, 1895-1970.

Llythyr milwr o'r Rhyfel Byd Cyntaf,

  • NLW ex 2666.
  • file
  • 1916.

Llythyr dyddiedig 16 Hydref 1916, wedi ei ysgrifennu gan y milwr Richard Jones o ffosydd y Somme yn Ffrainc at ei chwaer a'i gŵr ym Mrithdir, Dolgellau.

Rhyfel Pen Llŷn,

  • NLW ex 2779.
  • file
  • 2011 /

Sgript gomedi gan Harri Parri a berfformiwyd gan Gwmni Theatr Seilo yn Theatr Seilo, Caernarfon, Mawrth 22-24, 2011, ynghyd â rhaglen.

Parri, Harri.

Taflen gwasanaeth coffa,

  • NLW ex 2503.
  • file
  • 1920.

Taflen gwasanaeth a gynhaliwyd i ddadorchuddio cofeb yng Nghapel Charing Cross Road, Llundain, 6 Rhagfyr 1920, i goffáu deunaw o filwyr a gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Y Prif Weinidog David Lloyd George a wahoddwyd i ddadorchuddio'r gofeb.

Llyfrau lloffion Llanowain,

  • NLW ex 2478.
  • file
  • 1927-1994 /

Tri o lyfrau lloffion a gedwid gan y diweddar O. Trevor Roberts (y llenor 'Llanowain'), Rhuthun, a fu'n byw yn Lerpwl, yn cynnwys llythyrau, ffotograffau, torion o'r wasg ac adolygiadau o'i gyhoeddiadau, ynghyd â llyfr nodiadu yn cynnwys rhai cerddi a anfonodd i eisteddfodau.

Roberts, Owen Trevor.

Cerdd gan Niclas y Glais,

  • NLW Facs 1046.
  • file
  • 2011 /

Llungopi o benillion gan T. E. Nicholas ('Niclas y Glais', 1879-1971) i William Lewis, ffermwr cefnog a diacon yng nghapel y Glais. Mae'n bosib iddo ei ysgrifennu yn ystod ei gyfnod fel gweinidog yn y Glais rhwng 1904 1 1914.

Nicholas, T. E. (Thomas Evan)

Papurau'n ymwneud â T. Gwynn Jones,

  • NLW ex 2437.
  • File
  • [1958]-[1971].

Taflen gwasanaeth dadorchuddio carreg goffa T. Gwynn Jones, 25 Hydref 1958, a dathlu ei ganmlwyddiant, 9 Hydref 1971, yn Betws yn Rhos, ynghyd â llungopïau o lythyrau oddi wrth y llenor.

Hanes eglwysi'r Bedyddwyr yn Ynys Môn,

  • NLW ex 2427.
  • file
  • 2005.

Hanes Eglwys Bethel (B), Rhosybol, 1841-2002, Eglwys Sardis, Dulas, (dathlu canmlwyddiant a hanner, 1983) gan y rhoddwr; ac Eglwys Bethania, Llaneilian (allan o'r Greal).

Papurau Mrs Morfudd Hughes Ellis, Caernarfon, a'i thad, R. E. Hughes,

  • NLW Misc. Records 521.
  • file
  • 1887-1913.

A small bundle of papers and a few volumes which belonged to the late Mrs. Morfudd Hughes Ellis and her father, R. E. Hughes. They include four essays, 1887-1892, submitted for competition at Salem (C.M.) Chapel, Pwllheli; notebook of the "Blue Ribbon Army" of Engedi (C.M.) Chapel, Caernarfon, 1882, as well as papers read to the literary society at Engedi; a volume containing an index, A-G, of articles contained in Welsh periodicals of the period 1890-1913; notebook of the hospitality committee of the monthly meeting held at Engedi, 12 December 1913; food ration books from the First World War period; hymn-tunes composed by R. E. Hughes; sermon notes etc.

Papurau'r Parch. J. Caradog Williams,

  • NLW Misc. Records 411.
  • file
  • 1932-1975.

Papurau'r Parch. J. Caradog Williams yn ymwneud yn bennaf â'i waith fel gweinidog gyda'r Annibynwyr, gan gynnwys dau lythyr, 1942-1944, oddi wrth carcharor rhyfel yn yr Almaen. = Miscellaneous papers relating mainly to the donor's work as a Congregational Minister, including two letters, 1942-1944, from a prisoner of war in Germany.

Cangen Rhondda Fach o Undeb Dirwestol Merched y De,

  • NLW Misc. Records 395.
  • file
  • 1926-1940.

Llyfr nodiadau yn cynnwys cyfrifon yn ymwneud â changen Rhondda Fach o Undeb Dirwestol Merched y De. = Notebook containing some accounts relating to Rhondda Fach branch of Undeb Dirwestol Merched y De.

Untitled

'Helynt y Goleuad',

  • Mân Adnau 1620.
  • file
  • 1913-1918.

Llythyrau a phapurau eraill, 1913-1918, sy'n cynnwys rhai'n ymwneud â'r anghydfod rhwng E. W. Evans a Chyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd ynglŷn â phryniant a chyhoeddi'r Goleuad.

Emyn-donau Gwynfryn Ystwyth Jones,

  • NLW ex 2852.
  • file
  • [1972] /

Emyn-donau 'Cwm Rheidol' a 'Bronystwyth' gan Gwynfryn Y. Jones, organydd yn Eglwys Sant Paul, Aberystwyth, ynghyd â llythyr, 1972, ato gan Dyfnallt Morgan a drosodd eiriau gwreiddiol Morswyn o'r Gymraeg i'r Saesneg iddo ('Rock of Ages').

Jones, Gwynfryn Ystwyth.

Results 621 to 640 of 669