Dangos 1033 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Ebrill 1987 a Medi 1987; agenda a nodiadau’r Cadeirydd, Medi 1987; adroddiad blynyddol y Ganolfan 1986-1987 (1987); adroddiad ariannol 1986-1987 (1987); a nodiadau ar newid i Ordinant Gweinyddol 11 Cyngor Prifysgol Cymru (1987). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1987), yn cynnwys llythyrau oddi wrth R. Geraint Gruffydd; M.A.R. Kemp; T.R. Stevens; a John D. Phillips.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, agenda, a nodiadau’r Cadeirydd, Medi 1988; adroddiad blynyddol y Ganolfan 1987-1988 (1988); adroddiad ariannol 1987-1988 (1988); a manylion ysgoloriaeth goffa Y Foneddiges Amy Parry-Williams [1989]. Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1987-1989), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Gareth Wyn Evans; John Rhys; R. Geraint Gruffydd; Gareth Owen; David Dykes; J.G. Rees; D. Simon Evans; ac M.A.R. Kemp.

Pryniant Plas Pistyll a'r datblygiad arfaethedig; cynlluniau busnes Plas Pistyll; cofnodion cyfarfod Gweithgor Plas Pistyll; codi arian; achos llys HTV

Gohebiaeth a chofnodion cyfarfod yn trafod gwerthu Plas Pistyll, 1987-1992, yn cynnwys trafod datblygu Plas Pistyll (1989); Cynlluniau Busnes Plas Pistyll, (1989-1991); cynlluniau adeilad a disgrifiad sêl (1989); cynnig adnewyddu (1989); cofnodion y Gyfarfod Gweithgor Plas Pistyll (1990); materion ariannol (1991-1992); codi arian (1990-1993); copi Adroddiad Nant Gwrtheyrn Plas Pistyll (1987-1992), ac ymgyfreitha cysylltiedig. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys gohebiaeth a phapurau yn ymwneud â’r achos HTV (1992-1995).

Amrywiol

Papurau amrywiol, gan gynnwys erthyglau ganddi: 'Anfarwoldeb Sian Owen' [a gyhoeddwyd yn Seren Menai, cyfnodolyn Y Coleg Normal, Bangor]; ‘O’r crochan berw’, Seren Cymru, 1987; ynghyd ag englyn gan Robin [Llwyd] ab Owain iddi, un o'i myfyrwyr; teyrnged gan Meic Stephens i Rhiannon Davies Jones a gyhoeddwyd ym mhapur newydd yr i, 29 Hydref 2014; a chopi o deyrnged [Eurfryn Davies a draddododd yn ei hangladd (gw. NLW ex 2979)].

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Agenda a chofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Medi 1989; chofnodion cyfarfod Medi 1988 a Medi 1989; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 1988-1989 (1989); adroddiad ariannol y Ganolfan, 1988-1989 (1989); nodiadau’r Cadeirydd, Medi 1987; cofnodion cyfarfod Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol Prifysgol Cymru (1989), a chofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Staffio Prifysgol Cymru (1989). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1987-1989), yn cynnwys llythyrau oddi wrth M. A. R. Kemp; N. T. Hardyman; Gareth Wyn Evans; R. Geraint Gruffydd; a Bedwyr Lewis Jones.

Dyfodol Dyddiol #3,

Cyhoeddwyd / ysgrifennu gan Gorwel Roberts o Benrhyndeudraeth (aelod o fand Bob Delyn a'r Ebillion) a daeth allan adeg Eisteddfod Porthmadog yn 1987. Cynnwys cyfweliad gyda Pat a Dave Datblygu, Dic Ben o 'Elfis Presli' ac erthygl yn erbyn creulondeb i anifeiliaid.

'Enwau Lleoedd'

Gohebiaeth a phapurau, 1987, yn ymwneud â pedwerydd Fforwm y Ganolfan, ‘Enwau Lleoedd’, yn cynnwys rhaglen; crynodebau; a llythyrau, yn trafod trefnu'r Fforwm, oddi wrth R. Geraint Gruffydd; Gwynedd Pierce; Oliver Padel; Margaret Gelling; G. G. Evans; Morfydd E. Owen; Bedwyr Lewis Jones; a Kenneth Cameron.

Canlyniadau 621 i 640 o 1033