Showing 246 results

Archival description
Only top-level descriptions Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales file Welsh
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Owen Williams, Eglwysbach, cerddor,

  • NLW Misc. Records 405.
  • file
  • [1900x1977].

Geiriau (Cymraeg a Saesneg) a cherddoriaeth cân yn dwyn y teitl 'Nadolig? Pwy a wyr', ynghyd â sgript rhaglen ar fywyd Owen Williams, Eglwysbach, cerddor a chyfansoddwr. = Copy of the words (Welsh and English) and music of a song entitled 'Christmas maybe?'; and a copy of the script of a programme on the life of Owen Williams of Eglwysbach, musician, composer.

Papurau'n ymwneud â chapeli Patatagonia,

  • NLW Facs 1082.
  • file
  • 1981-1982.

Llungopïau o gofnodion Eglwysi Bethel, Cwmhyfryd, 1924-48, Seion, Esquel, 1904-82, a Moriah, Trelew, 1917-65, ynghyd ag englynion a gopïwyd oddi ar gerrig beddau yn Y Wladfa. Casglwyd y deunydd ynghyd gan y rhoddwr pan dreuliodd chwe mis yn weinidog ym Mhatagonia yn 1982 a cheir gohebiaeth yn ymwneud ag ariannu a threfnu’r daith.

Owen, Goronwy Prys.

Cyfrol o bregethau,

  • NLW ex 2809.
  • file
  • [1900].

Cyfrol fechan o bregethau gan awdur anhysbys.

Llythyron teipiedig gan Thomas Parry,

  • NLW ex 2666.
  • file
  • 1953.

Dau lythyr teipiedig yn cydnabod rhodd o ddau lyfr i'r Llyfrgell Genedlaethol gan Mr J. W. Jones, Blaenau Ffestiniog, wedi eu llofnodi gan Thomas Parry, y Llyfrgellydd.

Papurau cerddorol Haf Morris,

  • NLW ex 2853 (i) & (ii)
  • file
  • [1946]-[2005].

Llyfrau nodiadau Haf Morris (1933-2012) a'i mam Mrs Laura Morris, Eirianfa, Trawsfynydd, yn cynnwys gosodiadau cerdd dant niferus ar ffurf sol-ffa yn bennaf ar gyfer cystadlaethau mewn eisteddfodau, a gosodiadau cyntaf Haf Morris. Bu'r ddwy yn hyfforddi llu o blant ac ieuenctid yn ardaloedd Trawsfynydd ac Ynys Môn dros gyfnod maith mewn cerddoriaeth werin a cherdd dant.

Morris, Haf.

Sgwrs gyda Gwenlyn Parry,

  • NLW ex 2832.
  • file
  • [2013].

Adysgrif, [2013], o sgwrs rhwng Llyr Gwyndaf, mab y rhoddwr, a'r dramodydd Gwenlyn Parry, a gyflwynodd fel rhan o'i gwrs drama yn Ysgol Glantaf, Caerdydd, ar ffurf casét yn 1985.

Gwyndaf, Llyr.

Bydd yn Wrol,

  • NLW ex 2827.
  • file
  • 1996 /

Sgript a sgript camera (ail ddrafft) y ffilm 'Bydd yn Wrol' gan John Owen, 1996, wedi ei chynhyrchu gan Terry Dyddgen-Jones, cynhyrchiad HTV ar gyfer S4C, ac a enwebwyd ar gyfer gwobr y ffilm deledu orau yng Ngŵyl Prix Europa TV Festival ym Merlin.

Owen, John, 1952-

Llythyrau o'r Wladfa,

  • NLW ex 2696.
  • file
  • 1965-2010.

Papurau, 1965-2010, gan gynnwys casgliad o lythyrau a chardiau post o'r Wladfa, yn bennaf oddi wrth Mrs Elisa Dimol de Davies, Trelew, at y rhoddwr a'i deulu.

Llyfrau cerddoriaeth D. J. Griffiths,

  • NLW ex 2644.
  • file
  • [1926]-[1947] /

Tair llawysgrif gerddorol D. J. Griffiths, Crown Stores, Llandybie, yn cynnwys 'Tonau cynulleidfaol' a 'Tonau plant'. Ei enw gorseddol oedd 'Alawydd Tybie' ac roedd yn dad i'r rhoddwr T. Elwyn Griffiths. Cyfansoddwyd yr emyn-donau hyn rhwng 1926 a 1947 a nodir i rai ohonynt gael eu cyhoeddi yn Tywysydd y Plant.

Griffiths, D. J.

Papurau Ymgyrch Senedd i Gymru,

  • NLW ex 2607.
  • file
  • [1951]-[1956], 1984.

Papurau, [1951]-[1956], 1984, yn ymwneud â'r ymgyrch i gael Senedd i Gymru. = Papers, [1951]-[1956], 1984, relating to the Parliament for Wales campaign.

Darlithiau Meurig Owen, Lewisham,

  • NLW ex 2602.
  • file
  • [1993]-2006.

Darlithiau a draddodwyd gan Meurig Owen, gan gynnwys 'Anthropos', 1993; 'Nodiadau ar y cofebion yn Southwark i’r merthyr John Penri', 1994; 'Emynwyr Henaduriaeth Llundain', 2000; 'David Jones, (1895-1974), a Brockley artist and poet', Cymdeithas Hanes Lleol Lewisham, 2002; 'Yr achos yn Woolwich', 2006 a 'The Welsh church in Woolwich'; a 'Hanes Cymanfa’r Pasg, Henaduriaeth Llundain', 2006. = Lectures delivered by Meurig Owen, including Anthropos, 1993; notes on the memorials to the martyr John Penry in Southwark, 1994; Hymnists in the London presbytery, 2000; 'David Jones, (1895-1974), a Brockley artist and poet', Lewisham Local History Society, 2002; the cause in Woolwich and the Welsh church in Woolwich; and the history of the Easter singing festival in the London presbytery.

Owen, Meurig, 1919-

Pregethau,

  • NLW MS 23885B.
  • file
  • [18 gan., canol]-1807 /

Llyfr nodiadau yn cynnwys dwy bregeth ar gyfer y Pasg, [18 gan., canol]. Mae arnodiadau, mewn llaw ddiweddarach, yn dangos eu bod wedi eu pregethu yn Llanegryn, sir Feirionnydd, ar amryw o achlysuron rhwng 1791 a 1807. = A notebook containing two Easter sermons, [mid 18 cent.], in Welsh. Annotations, in a later hand, indicate that they were preached at Llanegryn, Merionethshire, on various occasions between 1791 and 1807.
Mae tair gweddi y tu mewn i'r cloriau, yn ôl pob tebyg yn llaw Robert Morgan, curad Llangelynnin, sir Feirionnydd. = Inside the covers are three prayers, apparently in the hand of Robert Morgan, curate of Llangelynnin, Merionethshire.

Morgan, Robert, fl. 1778-1784.

Pregeth o Lyfr Exodus,

  • NLW MS 23793C.
  • file
  • [?1772] /

Cyfrol yn cynnwys pregeth ar Exodus 20.7, [?1772], yn llaw y Parch. Robert Bulkeley, curad Llandyfrydog a Llandrygarn gyda Bodwrog, a churad parhaol Bodewryd, sir Fôn. = A volume containing a sermon on Exodus 20.7, [?1772], in the hand of the Rev. Robert Bulkeley, curate of Llandyfrydog and Llandrygarn with Bodwrog and perpetual curate of Bodewryd, Anglesey.
Traddodwyd y bregeth ym Modedern, Llandrygarn gyda Bodwrog a Llanfechell, sir Fôn, rhwng 1772 a 1785 (rhestrwyd y lleoliadau ar y clawr blaen a t. 27). Ychwanegwyd dalennau rhyddion at y gyfrol cyn iddi gyrraedd LlGC (ff. 4a, 12a, 22a). = The sermon was preached at Bodedern, Llandrygarn with Bodwrog and Llanfechell, Anglesey, between 1772 and 1785 (locations listed on front cover and p. 27). Leaves formerly loose within the volume have been tipped in prior to their donation to NLW (ff. 4a, 12a, 22a).

Bulkeley, Robert, 1736-1792.

Llyfr tonau,

  • NLW MS 16387iA.
  • file
  • [19 gan., hanner cyntaf].

Llyfr tonau, [19 gan., hanner cyntaf], yn cynnwys emyn-donau ac ychydig anthemau, rhai yn cynnwys y geiriau Cymraeg. Ceir hefyd hyfforddiant ar ddysgu cerddoriaeth (tudalen rwymo) a mynegai i'r tonau (f. 134). = A tune book, [19 cent., first half], containing hymn tunes and a few anthems, some with the Welsh words. Instruction on the theory of music (fly leaf) and an index to tunes (f. 134) are also included.

Llyfr tonau,

  • NLW MS 16204A.
  • file
  • [19 gan., hanner cyntaf].

Llyfr tonau, [19 gan., hanner cyntaf], yn cynnwys salm-donau, anthemau ac emynau, y mwyafrif heb eu priodoli. Ymddengys iddynt gael eu canu yng ngwasanaethau'r eglwys yn Llanfair Dyffryn Clwyd, sir Ddinbych (nodyn y tu mewn i'r clawr blaen). = Tune book, [19 cent., first half], containing mainly unattributed psalm tunes, anthems and hymn tunes, apparently sung at church services in Llanfair Dyffryn Clwyd, Denbighshire (note inside front cover).

Cofnodion Cymdeithas Nyrs Cylch Llanrhystyd a Llangwyryfon,

  • NLW MS 16661B.
  • file
  • 1937-1948.

Llyfr cofnodion Cymdeithas Nyrs Cylch Llanrhystud a Llangwyryfon (Llanrhystud, Llangwyryfon a Llanon o 1945), sir Aberteifi, yn cynnwys cofnodion, Ionawr 1937-Rhagfyr 1948 (tu mewn i'r clawr blaen a ff. 1-73). = Minute book of the Llanrhystud and Llangwyryfon District Nursing Association (Llanrhystud, Llangwyryfon and Llanon from 1945), Cardiganshire, containing minutes, January 1937-December 1948 (inside front cover and ff. 1-73).
Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys ambell eitem ychwanegol (Saesneg a Chymraeg), [1937]-1947, yn cynnwys torion papur newydd, llythyr, rheolau printiedig y Gymdeithas a chyfriflen ar gyfer 1946-47 (ff. 13, 31 verso, 44, 46, 53, 58a, 68a-b, 74-77). = The volume also contains a few further items (English and Welsh), [1937]-1947, including newspaper cuttings, a letter, printed rules of the Association, and a Statement of Accounts for 1946-47 (ff. 13, 31 verso, 44, 46, 53, 58a, 68a-b, 74-77).

Cymdeithas Nyrs Cylch Llanrhystyd a Llangwyryfon.

Results 81 to 100 of 246