Showing 59614 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Welsh
Print preview View:

42 results with digital objects Show results with digital objects

Papurau Frank Jones,

  • GB 0210 FRANES
  • fonds
  • 1932-1944 /

Papurau Frank Jones, Llanrwst, sir Gaernarfon,1932-1944, yn cynnwys llyfr nodiadau'n ymwneud â'r ymgyrch yn y 1930au i gael ffurflenni'r Dreth Incwm yn Gymraeg, a'i ddyddiadur, 17 Ionawr 1941-8 Medi 1942, yn mynegi ei argraffiadau o gyfnod rhyfel fel heddychwr a chenedlaetholwr; gohebiaeth,1936-1944, yn cynnwys ei gais, 1940, i gael ei gofrestru fel gwrthwynebydd cydwybodol ar sail bod yn genedlaetholwr o Gymro. = Papers of Frank Jones, Llanrwst, Caernarfonshire, 1932-1944, including a notebook relating to the campaign for Income Tax forms in Welsh in the 1930s, and his diary, 17 January 1941-8 September 1942, containing his impressions of war as a pacifist and nationalist; correspondence, 1936-1944, including his application, 1940, to be registered as a conscientious objector on the grounds of being a Welsh nationalist.

Jones, Frank, 1913-1970

Cyfrol yn cynnwys nodiadau yn ymwneud â'r ymgyrch yn ystod y 1930au i gael ffurflenni'r Dreth Incwm yn yr iaith ...,

Cyfrol yn cynnwys nodiadau yn ymwneud â'r ymgyrch yn ystod y 1930au i gael ffurflenni'r Dreth Incwm yn yr iaith Gymraeg; drafft o erthygl gan Frank Jones yn Saesneg dan y penawd 'Cymru am Byth' yn ymdrin â'r ymgyrch dros ffurflenni Treth Incwm Cymraeg, ynghyd â llythyr, 1939, oddi wrth J. P. Davies, Porthmadog, at Frank Jones yn rhoi ei sylwadau ar yr erthygl; drafft o anerchiad, c. 1942, yn Saesneg gan Frank Jones ar Blaid Genedlaethol Cymru a'i hamcanion; a thorion amrywiol o'r wasg.

Gohebiaeth a phapurau, 1940-1943, yn ymwneud â chais Frank Jones yn 1940, o flaen Tribiwnlys Gwrthwynebwyr Cydwybodol Gogledd Cymru, i ...,

Gohebiaeth a phapurau, 1940-1943, yn ymwneud â chais Frank Jones yn 1940, o flaen Tribiwnlys Gwrthwynebwyr Cydwybodol Gogledd Cymru, i gael ei gofrestru'n wrthwynebydd cydwybodol ar dir cenedlaetholdeb Cymreig ac â'i wrthwynebiad yn 1942 i wasanaethu yn y Gwarchodlu Cartref. Ymhlith y papurau ceir 5 llythyr, 1942, oddi wrth J. E. Jones at Frank Jones, copïau o lythyrau oddi wrth Frank Jones a chopi o'i ddatganiad i'r llys pan ymddangosodd gerbron Llys Ynadon St Helens, Rhagfyr 1942, am beidio ymuno â'r Gwarchodlu Cartref ym Mhorthmadog.

Gohebiaeth a phapurau, 1943-1944, yn ymwneud â'r achos llys yn erbyn Frank Jones yn Llandudno, Medi 1943, am anufuddhau i ...,

Gohebiaeth a phapurau, 1943-1944, yn ymwneud â'r achos llys yn erbyn Frank Jones yn Llandudno, Medi 1943, am anufuddhau i orchymyn i ymaelodi yn y Gwasanaeth Tân Cenedlaethol, pan wrthodwyd yr hawl iddo ddadlau ei achos yn Gymraeg. Ymysg y papurau ceir copïau o lythyrau oddi wrth Frank Jones, llythyrau ato oddi wrth J. P. Davies, Porthmadog (1), Syr Henry Morris-Jones, AS (1) a J. E. Jones (2), a drafft o ddatganiad Frank Jones i'r llys.

Papurau Gwyliau Cerdd Dant Cymru,

  • GB 0210 GWYDANCYM
  • fonds
  • 1953-1966 /

Papurau, 1953-1966, yn ymwneud â'r Gwyliau Cerdd Dant a gynhaliwyd yn Aberystwyth, 1954 a 1962, a Thregaron, 1966, yn cynnwys cofnodion y pwyllgorau, cyfrifon, gohebiaeth, deunydd cyhoeddusrwydd, ynghyd â rhaglenni a manylion am y cystadlaethau. = Papers, 1953-1966, relating to the Cerdd Dant Festivals held at Aberystwyth, 1954 and 1962, and Tregaron, 1966, including minutes of the committees, accounts, correspondence, publicity material, together with programmes and details of competitions.

Papurau yn ymwneud a'r Gwyliau Cerdd Dant Aberystwyth a'r Cylch, 1997 a 2003. Nid yw'r rhain wedi eu catalogio eto (Awst 2011).

Cymdeithas Cerdd Dant Cymru.

Papurau T. Wilson Evans,

  • GB 0210 TWILSO
  • fonds
  • [1972]-[2013] /

Llawysgrifau rhai o nofelau T. Wilson Evans, cerddi a anfonwyd i eisteddfodau, a dramâu ganddo, ynghyd ag astudiaeth o’r elfen seicolegol yn ei waith gan Bethan Wyn Owen. = Manuscripts of novels by T. Wilson Evans, poems sent to eisteddfodau, and plays by him, together with a study of the psychological element in his work by Bethan Wyn Owen.

Evans, T. Wilson.

Cyfansoddiadau,

Drama: 'Digon i'r dydd' gan 'Ceiliog y Rhedyn' a 'Cudd fy meiau ...' ar gyfer cystadleuaeth y fedal ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi 1976, ynghyd â sylwadau'r beirniad [T. Llew Jones].

Results 101 to 120 of 59614