Dangos 246 canlyniad

Disgrifiad archifol
Disgrifiadau lefel uchaf yn unig ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

An Gwari-Nadelik,

  • NLW ex 2910.
  • ffeil
  • 2015/

Copi drafft, 2015, o 'An Gwari-Nadelik' ('Y Gêm Nadolig'), libretto mewn Cernyweg gan 'Bardh Gwerin' (Tim Saunders). = Draft copy, 2015, of 'An Gwari-Nadelik' ('Y Gêm Nadolig'), the libretto in Cornish by 'Bardh Gwerin' (Tim Saunders).

Saunders, Tim.

Adysgrifau o ddyddiaduron taith i'r Andes, 1889-97.

  • NLW ex 1775.
  • ffeil

Adysgrif deipysgrif gan Marian Elias Roberts o ddyddiaduron, 1889-1897 â bylchau, William T Williams, Y Gaiman, Chubut, yn disgrifio teithiau ymchwil yng ngodre’r Andes (gweler NLW MSS 23551-8A); ynghyd ag adysgrif o ddau ddyddiadur tebyg (a ddychwelwyd at Fred Green, Chubut) am y cyfnod 8-26 Medi, 16 Hydref-21 Tachwedd 1889, a 27 Tachwedd 1889-4 Chwefror 1890. = A typescript transcript by Marian Elias Roberts of the diaries, in Welsh, 1889-97 with gaps, of William T. Williams, Gaiman, Chubut, Patagonia, describing expeditions to the Andes (now NLW MSS 23551-8A); together with a transcript of two similar diaries (returned to Fred Green, Chubut) for the period 8-26 September, 16 October-21 November 1889, and 27 November 1889-4 February 1890.

Roberts, Marian Elias.

Adroddiadau amrywiol,

  • NLW ex 2590.
  • ffeil
  • [1961]-[1977].

Nifer o benillion amrywiol mewn teipysgrif, gan gynnwys 'Tua Chaeo' gan Abiah Roderick (1898-1977), bardd gwerinol a digrifwr o Gwm Tawe, a luniodd y penillion (heb eu cyhoeddi) yn arbennig ar gyfer mam Mrs Elsa Davies, y rhoddwr.

Roderick, Abiah.

Achosion i'w clywed yn Gymraeg gan yr ynadon ym Mhwllheli,

  • NLW Misc. Records 305.
  • ffeil
  • 1975.

Copi (teipiedig gydag ychwanegiadau yn llaw J. E. Roberts) o'r 'Rhestr o'r achosion i'w clywed gan yr ynadon ym Mhwllheli Medi 24, 1975', gyda'r dyfarniadau; a chopi ffotograffig o'r sylwadau a wnaed gan y rhoddwr, cadeirydd y llys, ar ddechrau'r cyfarfod. Dyma'r tro cyntaf i holl weithgareddau llys ynadol a'r trafodaethau yn y llys i gael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg. = Typescript copy, with additions in the hand of J. E. Roberts, of the list of cases brought before the magistrates at Pwllheli, 24 September 1975, with the verdicts; together with a photocopy of the comments made at the beginning of the session by J. E. Roberts, chairman of the court. This was the first time that the proceedings in a magistrates court had been conducted through the Welsh language.

Achos Ysgol Casmael/Puncheston School,

  • NLW ex 2388.
  • ffeil
  • 1990-1995.

Gohebiaeth, 1990-1995, yn ymwneud ag achos i ddadgategoreiddio Ysgol Casmael, Sir Benfro, o fod yng nghategori A yn ieithyddol, sef rhoi blaenoriaeth i'r Gymraeg, i fod yn gategori B, sef i roi blaenoriaeth i'r Saesneg. = Correspondence, 1990-1995, relating to the case of decategorising Puncheston School, Pembrokeshire, from being a category A school, where linguistically Welsh was given prominence, to a category B school, which would give prominence to English.

Achos Brewer-Spinks,

  • NLW ex 2566.
  • ffeil
  • 1965.

Cyfrol yn cynnwys llythyrau o gefnofaeth yn ymwneud â safiad dau weithiwr ffatri ym Mlaenau Ffestiniog, wedi iddynt golli'u swyddi am siarad Cymraeg yn y gweithle yn 1965, a thorion o'r wasg yn ymwneud â'r achos. Enwyd yr achos ar ôl perchennog y ffatri sef Brewer-Spinks. = A scrapbook containing letters of support following the sacking of two factory workers in 1965 in Blaenau Ffestiniog for speaking Welsh in the workplace, and press cuttings relating to the case. It was named after the owner of the factory, Brewer-Spinks.

Canlyniadau 241 i 246 o 246