Dangos 142 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Pennar Davies,
Rhagolwg argraffu Gweld:

Yr Efrydd o Lyn Cynon,

Drafftiau teipysgrif o'r cerddi a gyhoeddwyd yn Yr Efrydd o Lyn Cynon (Llandybïe, 1961), ynghyd â rhai nas cyhoeddwyd a chopi proflen o'r gyfrol.

'Where the wind blows',

Cyfieithiad o'i nofel Anadl o'r uchelder (Abertawe, [1958]) nas cyhoeddwyd. Ei deitl gwreiddiol oedd 'Being and breath' ac awgrymwyd y teitl newydd gan gwmni cyhoeddi Victor Gollancz mewn llythyr yn 1963.

Uno Colegau Aberhonddu a Chaerfyrddin,

Papurau, 1948-[1982], yn ymwneud ag uno Coleg Coffa Aberhonddu a Choleg Presbyteraidd, Caerfyrddin, a ffurfio coleg unedig yn Abertawe. Ceir torion hefyd o'r Tyst a The Christian World yn trafod y penderfyniad hwn, a thaflen dathlu daucanmlwyddiant Coleg Coffa Aberhonddu yn Eglwys Gynulleidfaol Ebenezer, Abertawe, 1957.

Tystysgrifau,

Tystysgrifau arholiadau Undeb Ysgolion Bedyddwyr Cymru, [1919]-1920; tystysgrifau BA (1932) ac Ymarfer Dysgu (1934), Coleg y Brifysgol Caerdydd, a BLitt (1936), Coleg Balliol, Rhydychen.

Tystlythyrau,

Tyslythyrau, 1934-1946, oddi wrth y Prifysgolion a fynychodd, ynghyd â llythyrau oddi wrth yr Athro Gwyn Jones yn ymwneud â swydd yn Adran Saesneg Prifysgol Aberystwyth, 1945-1946.

Traethodau,

Nifer o draethodau a ysgrifennodd fel myfyriwr yn y Brifysgol, 1936-1938, gan gynnwys 'Henry Vaughan and the Welsh mind'; 'Puritan and Cavalier sentiment in the broadside ballads';'The theory of satire in the age of Dryden'; 'Donne as apoet of love'; 'Specimens of the English translations of the Bible up to the authorized version'; 'Fiction in the Bible: Judith, Tobit and Esther' ; a 'Burton’s prose style'. Nododd ei fod yn fyfyriwr yn y ‘Graduate School’ ar y mwyafrif ohonynt.

Traethawd PhD,

Traethawd: 'The comedies of George Chapman in relation to his life and times', 1943 . Nid yw'r gwaith (dwy gyfrol) wedi'i rwymo ac mae'r tudalennau'n rhydd rhwng cloriau.

Traethawd BLitt,

Traethawd 'John Bale and his dramatic works' - 'Life and work' (cyfrol 1) a 'Works' (cyfrol 2). [Cyhoeddwyd ei lyfryddiaeth A Bibliography of John Bale yn Transactions of the Oxford Bibliographical Society yn 1940].

Traethawd BD,

Llythyr, 1950, oddi wrth Gofrestrfa Prifysgol Rhydychen, yn caniatau iddo newid teitl ei draethawd o 'Christian doctrine and Christian controversy in the Elizabethan Drama' i 'Christian Ethical Thought in the Faerie Oueene of Edmund Spenser', ynghyd â'i nodiadau ymchwil.

'Towards a theology of language',

Copi o Paul H. Ballard a D. Huw Jones (glygyddion), This land and people = Y wlad a'r bobl hyn : a symposium on Christian and Welsh national identity, yn cynnwys ei erthygl ac adolygiadau o'r gyfrol.

Taflenni,

Taflen ei wasanaeth ordeinio, 21 Gorffennaf 1943, i ofalaeth yr Eglwys, ynghyd â thaflenni a gyhoeddwyd yn wythnosol ganddo yn nodi trefn y gwasanaethau a llythyr bugeiliol oddi wrtho.

'Summer Travel',

Adroddiad, 1937, mewn teipysgrif ar ei daith dri mis 13, 000 milltir [yng nghwmni cyfaill iddo Ted Taylor] yn America.

Sgyrsiau amrywiol,

Sgyrsiau, [1950] -1986, gan gynnwys nodiadau sgwrs ar Gwilym Hiraethog, [c.1975], 'Some eighteenth century Welsh Hymnwriters', Cymdeithas Hanes URC, 1982 ac 'Argyhoeddiadau Waldo Williams', Darlith Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun a'r Fro 1986.

Canlyniadau 1 i 20 o 142