Dangos 1033 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Goleuni'r byd,

Brasluniau, lawysgrifau a llungopïau o sgorau o 'Goleuni'r byd' gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Mairlyn Lewis. Trefniadau ar gyfer S.S.A.A. neu S.S.T.B..

Ganwyd Crist i'r byd,

Llyfr brasluniau, lawysgrifau a llungopïau o sgorau wahanol drefniadau o 'Ganwyd Christ i'r byd' gan Gilmor Griffiths, geiriau gan James Arnold Jones.

Fe anwyd mab ym Methlem,

Sgôr mewn llawysgrif o'r carol 'Fe anwyd mab ym Methlem', gan Gilmor Griffiths, geiriau Cymraeg gan Mairlyn Lewis, geiriau Saesneg gan Morien [Phillips]. Copi sol-ffa, sgôr mewn dau gywair gwahanol.

Engyl Gwynfa,

Trefniant Gilmor Griffiths o'r garol 'Engyl Gwynfa', gan Richard Mills, Rhos, geiriau gan William Stephen Jones, Ponciau.

Daeth y dydd,

Llungopi o sgôr 'Daeth y dydd', trefniant Gilmor Griffiths o garol Ffrengig, y geiriau Cymraeg gan James Arnold Jones.

Anwylyn Mair,

Sgôr mewn llawysgrif, brasluniau a llungopïau o wahanol drefniadau 'Anwylyn Mair', geiriau a cherddoriaeth gan Gilmor Griffiths. Lleisiau S.A. gyda chyfeiliant naill ai ar gyfer ffliwt (i & ii) ffidil, clarinét a guitar, neu ffliwt a ffidil, neu'r delyn.

Pant Hafod yr Ŵyn,

Trefniant gan Gilmor Griffiths o'r alaw draddodiadol 'Pant Corlan yr Ŵyn'. Defnyddiwyd yn gerddoriaeth cefndir yn y ffilm 'Pant Hafod yr Ŵyn', a chynhyrchwyd gan Tudur Aled Davies, Llanelwy, cyn-athro yn Ysgol Glan Clwyd. Saith darn lawysgrif a dau yn llungopïau.

Babouscka,

Sgript gan Vera Griffiths, telyneg a cherddoriaeth gan Gilmor Griffiths. Addasiad o’r chwedl Rwsieg, ar gyfer sioe gerdd Ysgol Hiraddug, Dyserth. Sgriptiau, sgôr llawn mewn llyfr lloffion, brasluniau a nodiadau. Cerddoriaeth yn cynnwys: ‘Babouscka’; ‘Knowledge is a wonderful thing’; ‘Hwyrgân yr Hydref’; ‘The Kings’; ‘Parents are so square’.

Llawenydd lanwo'n cân,

Trefniant o'r alaw 'Llawenydd lanwo'n cân', geiriau gan Mair Howell, ar gyfer Gwledda Canoloesol, yng Nghastell Rhuthun. Llungopi o sgôr gyda geiriau.

Linden Lea,

Trefniant o'r alaw draddodiadol 'Linden Lea' ar gyfer Gwledda Canoloesol, yng Nghastell Rhuthun. Llawysgrif o sgôr a sol-ffa gyda geiriau teipysgrif.

June is bustin out all over,

Trefniant o'r alaw 'June is bustin out all over' ar gyfer y Rhyl Operatic Society. Llawysgrif o drefniant Gilmor Griffiths o gyfansoddiad Rogers and Hammerstein (Carousel). Sgôr yn yr hen nodiant a chopi sol-ffa. Hefyd llungopi o sgôr 'Out of my dreams' o 'Oklahoma'.

Green sleeves,

Llungopi o drefniant Gilmor Griffiths o'r alaw draddodiadol 'Green sleeves' perfformiwyd gan Gantorion y Wledd Ganoloesol, Castell Ruthun, yng Nghastell Rhuthun. Sgôr gyda geiriau.

Good-night,

Trefniant o'r alaw 'Good-night', geiriau gan J. Arnold Jones, ar gyfer Gwledda Canoloesol, yng Nghastell Rhuthun. Llungopi o sgôr gyda geiriau.

Canlyniadau 681 i 700 o 1033