Showing 1284 results

Archival description
File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Agendâu, Cyfarwyddyd I’r Cadeirydd, a chofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheoli, Ebrill 1998 a Medi 1998; adroddiad blynyddol y Ganolfan 1997-1998 (1998); adroddiad ar ariannu’r Ganolfan, Mawrth 1998, a manylion incwm a gwariant y Ganolfan 1991-1997 (1998); adroddiad drafft o gyfarfod y Pwyllgor a sefydlwyd gan y Cyngor i adolygu sefyllfa’r Ganolfan (1998); a chopi o gylchlythyr y Ganolfan, rhif 1 (1998). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1998), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Ruth ab Ieuan; Lynn Williams; Geraint H. Jenkins; Jeffrey Pritchard; Gwyn Thomas; Frances Good; a Tony Linforth.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Agendâu, Cyfarwyddyd i’r Cadeirydd, a chofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Ionawr 2000 a Mai 2000; cofnodion cyfarfod, Hydref 1999; adroddiad ariannol, 1999-2000 (2000), ac adroddiad blynyddol, 1999-2000 (2000); agenda a Chyfarwyddyd i’r Cadeirydd, Hydref 2000; dyraniadau cyllid (2000); cofnodion cyfarfod yr Is-bwyllgor Ymarferiad Asesu Ymchwil, Medi 2001; a manylion prosiect ‘The Welsh Romantic Tradition’ (2000). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1999-2000), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Myrddin ap Dafydd; Geraint H. Jenkins; Ruth ab Ieuan; Aeres Davies; Yvonne Hawkins; Ian George; Sara Lee Branch; Branwen Jarvis; Derec Llwyd Morgan; Roy Evans; John King; R. H. Williams; Gillian Birch; a John Andrews.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Hydref 2002; agenda, cofnodion cyfarfod a Chyfarwyddyd i’r Cadeirydd, Chwefror 2003; a dogfen Rheoli Sefydlog Llys y Brifysgol, Prifysgol Cymru (2001). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2003), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Patrick Sims-Williams; Ruth ab Ieuan; Geraint H. Jenkins; Ann Parry Owen; Richard Wyn Jones; Gwenan Creunant; Branwen Jarvis; Andrew Green; Beryl Wyn Jenkins; a Penny Dransart.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod ac agendâu Corff Llywodraethol y Ganolfan, 1978-1979; Adroddiad y Llyfrgellydd 1978-1979 (1979); adroddiad ariannol (1979); Adroddiad Blynyddol y Ganolfan 1978-1979 (1979); memoranda; copi o gyfansoddiad drafft y ganolfan (1977); a llythyrau cysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1978-1979) oddi wrth J. E. Caerwyn Williams; Ieuan Gwynedd Jones; Glanville Price; Graham L. Rees; R. R. Davies; Dafydd Jenkins; Harold Carter; a W. W. Dieneman.

Cofnodion cyfarfod ac agendâu

Cofnodion y Cyfarfodydd Penaethiaid Prosiectau, Ionawr , Chwefror, Ebrill, Gorffennaf, Medi, Hydref, a Rhagfyr 2006; ac agendâu’r Cyfarfodydd Penaethiaid Prosiectau, Chwefror, Ebrill, Mehefin, Gorffennaf, Medi, Hydref, a Rhagfyr 2006. Yn ogystal, ceir copi o Adolygiad o’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ar’ Bwrdd Gwybodau Celtaidd Cyngor y Brifysgol (Mehefin 2006); a llythyrau cysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2006), oddi wrth Andrew Hawke a Vera Bowen.

'Archaeoleg'

Gohebiaeth a phapurau, 1990, yn ymwneud ag unfed Fforwm ar ddeg y Ganolfan, ‘Archaeoleg’, yn cynnwys rhaglen; slipiau ateb; rhestr o fynychwyr; a llythyrau cysylltiedig yn trafod y Fforwm oddi wrth Morfydd E. Owen; R. Geraint Gruffydd; Nancy Edwards; Wendy Davies; Yann-Ber Piriou; David Thorne; John Sharkey; a J. Arnell.

'Y Bardd Celtaidd'

Papurau a gohebiaeth, 1991, yn ymwneud â thrydydd Fforwm ar deg y Ganolfan ‘Y Bardd Celtaidd’ fel un o weithgareddau gŵyl ‘Celtica 1991’, yn cynnwys rhaglen; slipiau ateb; rhestr o fynychwyr; copi o’r llyfryn ‘Celtica 1991’; a llythyrau, yn trafod trefnu'r Fforwm, oddi wrth R. Geraint Gruffydd; Llinos Roberts-Young; Saunders Davies; Elin M. Jones; D. M. Lewis; Susan Jenkins; Hywel ap Robert; T. Arwyn Watkins; A. O. H. Jarman; Morfydd E. Owen; a Nerys Ann Jones.

'Canu Llywarch Hen'; Darlith Flynyddol y Ganolfan; llyfryn y Gyngres Geltaidd

Papurau a llythyrau, yn ymwneud â’r cyhoeddiad o ddarlith flynyddol y Ganolfan, 1983; llyfryn y Gyngres Geltaidd, 1983; a’r llyfr ‘Canu Llywarch Hen’, 1983; yn cynnwys memoranda (1980 a 1983); amcangyfrifon argraffu (1981 a 1983); copi o lyfryn y Gyngres Geltaidd, (1983); a llythyrau cysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1981 a 1983), oddi wrth Eluned Morris; R. Geraint Gruffydd; Olwen Daniel; a H. Reid.

Argraffiad arbennig ‘Detholion o Waith Lewys Glyn Cothi’ a teyrnged i E.D. Jones

Rhestr o gyfraniadau ariannol i argraffiad arbennig arfaethedig o lyfr E.D. Jones ‘Detholion o Waith Lewys Glyn Cothi’, [1984]; copïau o dorion o’r wasg, a chopi o gylchlythyr ‘Yr Angor’, 1987, yn cofio E.D. Jones, cyn-lyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol Cymru; a gohebiaeth gysylltiedig yn trafod yr argraffiad arbennig, 1983-1984, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Olwen Daniel; B.G. Owens; J. E. Caerwyn Williams; Richard Owen; David Jenkins; Mary Llewelfryn Davies; Andrew Hawke; Siân Teifi a Martin Davies; Ceridwen Lloyd-Morgan; Rheinallt Llwyd; Mary Burdett-Jones; Telfryn Pritchard; Mati Rees; Walford Davies; D. Phillips; ac R. Geraint Gruffydd.

Gohebiaeth, nodiadau, a drafftiau

Gohebiaeth, 1988, yn trafod ymchwilio ac ysgrifennu’r gwaith arfaethedig Martin Cleary ‘Welsh Recusants and Catholics 1559-1791: A Directory’, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Martin Cleary ac R. Geraint Gruffydd. Mae’r llythyrau yn cynnwys torion a nodiadau; drafft, wedi’i theitlo ‘Working List of Welsh Secular Priests, 1574-’; drafft, wedi’i theitlo ‘Welsh Jesuits and Jesuits in Wales 1561-1829’; a drafft wedi’i theitlo ‘A Welsh Recusant Directory’.

Results 61 to 80 of 1284