CMA: Cofysgrifau Capel Salem, Pantgwyn
- GB 0210
- Fonds
Llyfr bedyddiadau a chladdedigaethau ynghyd â llun.
Capel Salem, Pantgwyn
CMA: Cofysgrifau Capel Salem, Pantgwyn
Llyfr bedyddiadau a chladdedigaethau ynghyd â llun.
Capel Salem, Pantgwyn
Deunydd archif cwmni 'Golwg' gan gynnwys dyluniadau comic Wcw a'i ffrindiau a llyfrau nodiadau Dylan Iorwerth.
Deunydd ychwanegol Golwg Cyf., yn ymwneud â chylchgrawn Golwg a Golwg365, gan gynnwys cofnodion pwyllgorau mewnol, gohebiaeth ac adroddiadau, ynghyd â nodiadau a gohebiaeth yn ymwneud â straeon arwyddocaol y bu Dylan Iorwerth yn gweithio arnynt; Hydref 2025.
Golwg (cylchgrawn)
CMA: Cofysgrifau Capel Bethany, Rhydaman
Cofnodion Capel Bethany, Rhydaman.
Capel Bethany, Rhydaman
Cofysgrifau Eglwys Carmel, ger Treffynnon
Cofnodion Eglwys Carmel ger Treffynnon, 1865-1992, yn cynnwys cofrestr bedyddiadau, 1865-1964; cofnodion ariannol, 1949-1992; a llyfr ystadegau, 1926-35, a llyfr cofnodion, 1951-65, yr Ysgol Sul.
Papurau’r Parchedig Huw Ethall (1916-2013), gweinidog Annibynnol ac awdur. Mae’r ffeiliau’n cynnwys cyfres bwysig o lythyrau at Huw Ethall, yn bennaf yn trafod ei waith cofiannol, a phapurau'n adlewyrchu ymchwil pellach ar lenyddiaeth Gymraeg. Ceir hefyd yn y casgliad ffeil o bapurau Hilda M. Ethall, gwraig Huw Ethall.
Y Parchedig Huw Ethall a'r teulu
CMA: Cofysgrifau Capel Gosen, Rhydyfelin
Cofysgrifau Capel Gosen, Rhydyfelin, ger Aberystwyth, 1933-2023, yn cynnwys cofrestr genedigaethau a bedyddiadau, 1934-2015, marwolaethau a chladdedigaethau, 1933-2020, a rhestr priodasau, 1988-97; cofnodion ariannol, 1985-2023; llyfr cofnodion pwyllgorau, 1956-2022; adroddiadau blynyddol, 1993-2019 (gyda bylchau); rhestr aelodau a chyfrifon Cymdeithas Lenyddol Gosen (Cymdeithas Ddiwylliadol Gosen a Horeb, New Cross, yn ddiweddarach), 1947-99; a threfn y gwasanaeth datgorffori ar 26 Mawrth 2022, ynghyd ag anerchiad yr Ysgrifennydd, Nesta Parry Edwards, ar ‘Hanes Capel Gosen’. Ceir hefyd lyfr Trysorydd Ysgol Sul y Bont, Llanfarian, 1997-2017, a chopi o’r llyfryn Drws agored: Ysgoldy Pentre’r Bont, Llanfarian 1879-1979 gan Evan Jones.
Capel Gosen, Rhydyfelin, ger Aberystwyth
Papurau ymchwil Meurig Owen ar hanes capeli Presbyteraidd (Cymraeg) Llundain, gan gynnwys deunyddiau yn ymwneud â chapeli unigol a'r Henaduriaeth.
Meurig Owen
CMA: Cofysgrifau Capel Willow Tree Road, Altrincham
Cofysgrifau capel Cymraeg Willow Tree Road, Altrincham, yn cynnwys cofnodion ariannol; llyfrau cofnodion cyfarfodydd Swyddogion y capel, y Chwiroydd a'r Pwyllgor Adeiladau; cofnodion yr Ysgol Sul; adroddiadau blynyddol; tocynnau aelodaeth; a hanes yr achos.
Capel Willow Tree Road, Altrincham
CMA: Cofysgrifau Dosbarth Gogledd Ceredigion
Cofnodion Pwyllgor Cenhadol Chwiorydd Dosbarth Gogledd Ceredigion. Diddymwyd y Pwyllgor 25 Tachwedd 2024 pan unwyd â'r Dosbarthiadau eraill o dan Bwyllgor Cenhadol yr Henaduriaeth.
Dosbarth Gogledd Ceredigion
CMA: Cofysgrifau Capel Bethel, Cynwyl Elfed
Cofysgrifau Capel Bethel, Cynwyl Elfed.
Capel Bethel, Cynwyl Elfed
Dyddiaduron Plaid Cymru Elfed Roberts
Pedwar-ar-ddeg o ddyddiaduron, 1973-98, ynghyd ag un gyfrol yn cynnwys crynodebau gwaith, 1974-83, yn ymwneud â swydd y rhoddwr fel trefnydd Plaid Cymru Meirionnydd Nant Conwy ac Arfon dan yr aelodau seneddol Dafydd Elis Thomas, Elfyn Llwyd a Dafydd Wigley.
Roberts, Elfed
Papurau Dr Geraint Bowen (1915-2011), archdderwydd, bardd, ysgolhaig ac ymgyrchydd, o Dal-y-llyn, Meirionnydd, a Chaeathro, Gwynedd, yn cynnwys papurau a ffotograffau'n ymwneud â Gorsedd y Beirdd; papurau ymchwil a deunydd yn ymwneud â'i gyhoeddiadau; cerddi o'i waith; ffeil o bapurau'n ymwneud â MADRYN (Mudiad Amddiffyn Dynoliaeth Rhag Ysbwriel Niwcliar); a llythyrau oddi wrth unigolion megis Rachel Bromwich, Leonard Clark, Gwynfor Evans, Idris Ll. Foster, I.D. Hooson, D. Gwenallt Jones, Dr Gwenan Jones, Nesta Wyn Jones, Saunders Lewis, T.H. Parry-Williams, Kate Roberts, D.J. Williams, G.J. Williams ac Ifor Williams.
Dr Geraint Bowen
Casgliad archifau a llawysgrifau yn cynnwys 16 eitem: llyfr nodiadau Dic Jones, 'Gwanwyn.' Eisteddfod 1976. 'Awdl y gynnau mawr'; drama 'Gwr Llonydd' John Gwilym Jones yn ei lawysgrifen ei hun; sgôr cerddoriaeth: Gwales - Pwyll ap Siôn, 3 llyfryn; sgôr cerddoriaeth: Y groesffordd - Pwyll ap Siôn, (gyda llofnodion Pwyll ap Siôn, Bryn Terfel, ac Iwan Llwyd); casgliad o gardiau post gan Matthew Davies at Ken Owen (Y Barwn Matacsa); nofel 'Eneidiau' yn llawysgrifen Aled Jones Williams; pregeth 'Halen' gan Emlyn Richards yn ei lawysgrifen; cerdd 'Dwyt ti ddim yn hen' gan Karen Owen yn ei llawysgrifen; Teipysgrif drama 'Gwr Mrs Jones', wedi'i lofnodi gan Islwyn Ffowc Ellis; llythyr Saunders Lewis at Mrs Herbert 'Miss Vina Herbert', 1973; stori fer 'Cwsmeriaid' gan Kate Roberts yn llaw ei hun, ynghyd a llythyr at yr Athro J.E. Caerwyn Williams; pytiau o ddeialog gan Gwenlyn Parry, 1990; cerdd gan Gwyn Thomas i gofio am John Gwilym Jones, 1990; llyfryn 'Wil Sam' gan Annes Glynn; ysgrifbin Saunders Lewis; cetyn Dic Jones.
Ken Owen
Casgliad Ffansîns Mari Williams
Casgliad o Fanzines Mari Williams yn dyddio tua 1977 i 1989 yn cynnwys Cwff yn ôl (ffanzine CYI ardal Caerdydd), Sylw – rhif 2, Llygredd Moesol, Ar Daf (Cylchgrawn Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd) 1983, Sothach Chwefror 1989, Mawrth 1989, Ebrill 1989, Mai 1989, Cen ar y Pen – Chwefror 1988, Sgrech – Ebrill 1983, Llanast, Dracht, Yn Syth o’r Rhewgell – rhif 1 (Ebrill 1985), rhif 2 (Mehefin 1985), Dyfodol Dyddiol, Cysylltiad, Yr Adlonwr, Wy Pasg wedi Llwydo (cylchgrawn cell CYI Ysgol Morgan Llwyd), Asbri – Gwanwyn 1977, Amser Siocled rhif 1, 2, 3, 4 a 5 (1982-83), Rhywle yn Moscow, Groucho neu Marx, Y Profion Dirgel, CHMYLL / YChMLL, Rhech, a mwy. Hefyd rhaglen yr opera roc ‘Y Mab Darogan’ a berfformiwyd ar draws Cymru gan Gwmni Theatr Ieuenctid Maldwyn 1982 (yn cynnwys llofnodion yr actorion/criw a thocynnau i’r perfformiadau), a 4 bathodyn.
Mari A. Williams
Archif Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru (Free Church Council of Wales Archive)
Deunydd yn ymwneud â gweithgarwch Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru; Mehefin 2024.
Papurau ychwanegol, 1994-2000, sef ffeil Mr John Rhys, yr Ysgrifennydd rhwng 1996 ac 1999, yn cynnwys gohebiaeth, cofnodion ac adroddiadau yn ymwneud â thrafodaethau cyd-enwadol, dan nawdd Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru, ynglŷn â ffurfio Eglwys Rydd Unedig i Gymru; Ionawr 2026.
Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru (Free Church Council of Wales)
CMA: Cofysgrifau Eglwys Glanaber, Llanuwchllyn
Cofysgrifau Eglwys Glanaber, Llanuwchllyn, 1886-2025, yn cynnwys llyfr genedigaethau, bedyddiadau a marwolaethau, 1947-2024, cofrestr eglwysig, 1965-80, cofnodion ariannol, llyfrau cofnodion, tocynnau aelodaeth, cofnodion yr Ysgol Sul, a chofnodion y Gymdeithas Ddirwestol. Ceir hefyd gyfrifon Cyfarfod Misol Henaduriaeth Dwyrain Meirionnydd, 1892-1944.
Eglwys Glanaber, Llanuwchllyn
Papurau Cymdeithas y Bedol, Aberystwyth
Papurau Cymdeithas y Bedol, Aberystwyth,1944-1993, yn cynnwys gohebiaeth, 1949-1993; cylchlythyrau, 1944-1966; a phapurau ariannol,1951-1989. = Papers of Cymdeithas y Bedol, Aberystwyth, 1944-1993, including correspondence, 1949-1993; circulars, 1944-1966; and financial papers, 1951-1989.
Cymdeithas y Bedol.
Sgriptiau dramâu Gwynne D. Evans, 1946-[1979], gan gynnwys rhai a ddanfonwyd i gystadleuthau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac a ddarlledwyd ar y radio ac ar y teledu; sgriptiau 'Pobol y Cwm'; ynghyd â phapurau’n ymwneud â’i waith fel cynhychydd Under Milk Wood a Dan y Wenallt.
Evans, Gwynne D. (Gwynne David), 1908-
Papurau Gwilym Tudur (Wyt ti'n cofio?)
Papurau Gwilym Tudur, [1950]-[2013], a grynhowyd ganddo wrth ymchwilio ar gyfer ei gyfrol Wyt ti'n cofio?: chwarter canrif o frwydr yr iaith a gyhoeddwyd gan Wasg y Lolfa, Tal-y-bont, yn 1989, gan gynnwys atgofion a phrofiadau llygad-dystion a fu’n ganolog i frwydr yr iaith. = Papers of Gwilym Tudur, [1950]-[2013], accumulated by him whilst researching for his book Wyt ti'n cofio?, published by Y Lolfa, Tal-y-bont, in 1989, including eyewitness recollections of Welsh language campaigners.
Am y cyhoeddiad gweler, er enghraifft: https://openlibrary.org/books/OL21710491M/Wyt_ti%27_n_cofio = For the publication see, for example: https://openlibrary.org/books/OL21710491M/Wyt_ti%27_n_cofio
Tudur, Gwilym
Archif Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Rhanbarth Morgannwg Gwent
Papurau, 1984-2007, Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, Ranbarth Morgannwg Gwent, yn cynnwys gohebiaeth, datganiadau i’r wasg, nodiadau, a thorion o’r wasg, yn ymwneud â gweithredu polisi iaith Gymraeg fewn siopau, busnesau, a chwmniau preifat yn ardal Morgannwg Gwent. Mae rhan fwyaf o’r papurau yn deillio o Gell Caerdydd y Gymdeithas.
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Rhanbarth Morgannwg Gwent