Fonds GB 0210 JMEIRMOR - Papurau John Meirion Morris = John Meirion Morris Papers

Identity area

Reference code

GB 0210 JMEIRMOR

Title

Papurau John Meirion Morris = John Meirion Morris Papers

Date(s)

  • 1960[x2020] (Creation)

Level of description

Fonds

Extent and medium

1 bocs mawr (0.029 mᶟ) = 1 large box (0.29mᶟ)

Context area

Name of creator

Biographical history

Archival history

Immediate source of acquisition or transfer

Rhoddwyd gan Gwawr Morris, gweddw John Meirion Morris, Gorffennaf 2022. = Donated by Gwawr Morris, widow of John Meirion Morris, July 2022.

Content and structure area

Scope and content

Papurau'r cerflunydd, dyluniwr ac athro John Meirion Morris (1936-2020), sy'n ymwneud â gwahanol agweddau o'i fywyd proffesiynol, o gychwyn ei yrfa fel athro newydd-gymwysedig hyd flynyddoedd olaf ei oes. Mae'r eitemau yn cynnwys deunydd yn ymwneud â'i gomisiynau cerflunwaith; ei gyhoeddiadau, megis A Celtic Vision (Y Lolfa, 2003); erthyglau a ysgrifenwyd a darlithoedd a draddodwyd ganddo; ei waith gyda'r cyfryngau, yr Eisteddfod Genedlaethol, cymdeithas Gweled ac â phrosiect Grŵp Glynllifon; a'r ohebiaeth a anfonwyd ato gan sefydliadau Cymreig a chan gyfeillion, cydnabod ac edmygwyr. Ceir nodiadau ar gynnwys rhai o'r eitemau yn llaw Gwawr Morris, gweddw John Meirion Morris. = Papers of the sculptor, draughtsman and teacher John Meirion Morris (1936-2020), which relate to various aspects of his professional life from his early career as a newly-qualified teacher to his final years. The items include material relating to John Meirion Morris' sculpture commissions; his publications, such as A Celtic Vision (Y Lolfa, 2003); articles written and lectures given by him; his collaboration with the media, the National Eisteddfod, Gweled and the Glynllifon Group project; and correspondence sent to John Meirion Morris from Welsh institutions and from friends, acquaintances and admirers. There are notes on the contents of some of the items in the hand of Gwawr Morris, widow of John Meirion Morris.

Appraisal, destruction and scheduling

Accruals

System of arrangement

Gweler dan benawdau unigol. = See under individual headings.

Conditions of access and use area

Conditions governing access

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen. = Readers consulting modern papers in the National Library of Wales are required to abide by the conditions set out in information provided when applying for their Readers' Tickets, whereby the reader shall become responsible for compliance with the Data Protection Act 1998 in relation to any processing by them of personal data obtained from modern records held at the Library.

Conditions governing reproduction

Rheolau hawlfraint arferol mewn grym = Usual copyright laws apply.

Language of material

  • English
  • Welsh

Script of material

Language and script notes

Physical characteristics and technical requirements

Finding aids

Allied materials area

Existence and location of originals

Existence and location of copies

Related units of description

Gweler hefyd Arts Council of Wales Records: Aneurin Jones and John Meirion Morris exhibition yng nghasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru. = See also Arts Council of Wales Records: Aneurin Jones and John Meirion Morris exhibition in the National Library of Wales' collections.

Gweler The Celtic Vision gan John Meirion Morris (Y Lolfa, 2003) a John Meirion Morris: artist gan Gwyn Thomas (Y Lolfa, 2011). = See The Celtic Vision by John Meirion Morris (Y Lolfa, 2003) and John Meirion Morris: artist by Gwyn Thomas (Y Lolfa, 2011).

Related descriptions

Notes area

Note

Ganed y cerflunydd, dyluniwr ac athro John Meirion Morris yn Llanuwchllyn a'i addysgu yng Ngholeg Celf Lerpwl (1955-9). Wedi cyfnod fel athro celf yn Ysgol Uwchradd Llanidloes, bu'n ddarlithydd celf yn y Mid-Warwickshire School of Art, Leamington Spa o 1964 hyd 1966 ac yna ym Mhrifysgol Kumasi, Ghana o 1966 hyd 1968, cyn ei benodi'n ddarlithydd yn Adran Addysg Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth o 1968 hyd 1978. Ym 1985, ennillodd radd M.Phil o Goleg Prifysgol Cymru Bangor am ei ymchwil i gelfyddyd diwylliant Celtaidd cyfnod La Tène. Wedi pum mlynedd fel Pennaeth Celf yn y Coleg Normal, Bangor, dychwelodd i'w fro genedigol, lle'r ymroddodd yn llawn amser i'w yrfa fel cerflunydd. Mae gwaith John Meirion Morris yn syrthio i ddwy gategori fras, sef ei ddelweddau o bobl nodedig, megis ei benddelw o Ray Gravell ar gyfer stiwdio'r BBC yng Nghaerdydd, a'i waith mwy symbolaidd/archdeipaidd, megis ei gofeb i Dryweryn. Cymharwyd ei benddelwau â gweithiau Auguste Rodin (1840-1917) a Jacob Epstein (1880-1959), a'i greadigaethau mwy symbolaidd â'r rheini o'r eiddo Anish Kapoor (g. 1954) ac Antony Gormley (g. 1950). 'Roedd John Meirion Morris yn briod â Gwawr a chawsant dri o blant. Lluniwyd y gwaith a elwir 'Pietà' fel coffadwriaeth i'w fab Dylan, a fu farw o diwmor ar yr ymenydd yn 2002.

= The sculptor, draughtsman and teacher John Meirion Morris was born in Llanuwchllyn and educated at Liverpool College of Art (1955-9). Following a period as art master at Llanidloes Secondary School, he lectured in art at the Mid-Warwickshire School of Art, Leamington Spa from 1964 until 1966, then at Kumasi University, Ghana from 1966 until 1968, prior to being appointed lecturer in the Education Department of the University College of Wales Aberystwyth from 1968 until 1978. In 1985, he gained an M. Phil. degree from the University College of Wales Bangor for his research into Celtic art of the La Tène period. After five years as Head of Art at the Normal College, Bangor, he returned to his native village, where he dedicated himself to a full-time career as a sculptor. John Meirion Morris' work falls into two broad categories, namely, his representations of famous people, such as his bust of Ray Gravell, commissioned for the BBC studios in Cardiff, and his more symbolic/archetypal work, such as his commemorative 'Tryweryn' piece. His busts have been compared to the works of Auguste Rodin (1840-1917) and Jacob Epstein (1880-1959) and his more symbolic pieces to those of Anish Kapoor (b. 1954) and Antony Gormley (b. 1950). John Meirion Morris was married to Gwawr, with whom he had three children. The work entitled 'Pietà' was created as a memorial piece to his son Dylan, who died of a brain tumour in 2002.

Alternative identifier(s)

Alma system control number

993576609902419

Access points

Place access points

Name access points

Genre access points

Description control area

Description identifier

Institution identifier

WlAbNL

Rules and/or conventions used

Mae'r disgrifiad yn dilyn canllawiau LlGC yn seiliedig ar ISAD(G) 2ail arg.; AACR2; RDA NACO; a LCSH. = Description follows NLW guidelines based on ISAD(G) 2nd ed.; AACR2; RDA NACO; and LCSH.

Status

Level of detail

Dates of creation revision deletion

Language(s)

Script(s)

Sources

Archivist's note

Lluniwyd y disgrifiad gan Bethan Ifan, Tachwedd 2022. Defnyddwyd y ffynhonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad: deunydd o ffynonellau uniongyrchol; ffwythiannau chwilio arlein. = Description compiled by Bethan Ifan, November 2022. The following sources were used in the compilation of this description: primary source material; online search engines.

Accession area