Identity area
Type of entity
Person
Authorized form of name
Parry, Gwenlyn
Parallel form(s) of name
Standardized form(s) of name according to other rules
Other form(s) of name
Identifiers for corporate bodies
Description area
Dates of existence
1932-1991
History
Ganwyd y dramodydd Gwenlyn Parry yn 1932 ac fe'i magwyd yn Neiniolen, Gwynedd. Mynychodd Ysgol Gwaun Gynfi ac Ysgol Ramadeg Brynrefail cyn ymuno â'r RAF i gyflawni ei wasanaeth milwrol gorfodol. Bu'n gwasanaethu fel nyrs yn yr adran feddygol am ddwy flynedd cyn ymadael i hyfforddi fel athro yng Ngholeg Normal, Bangor. Derbyniodd hyfforddiant fel pregethwr cynorthwyol yno yn ogystal.
Yn dilyn ei gyfnod yn y coleg, symudodd o Gymru i Lundain i weithio fel athro mathemateg a gwyddoniaeth. Tra yn Llundain magwyd ei ddiddordeb yn y theatr, a phan ddychwelodd i Gymru, wedi pedair blynedd yno, i ddysgu yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda, dechreuodd ysgrifennu o ddifrif. Daeth yn gyd-fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Maelor, 1961, yn y gystadleuaeth drama fer am ei ddrama gyntaf, Y Ddraenen Fach. Aeth ymlaen i ennill sawl gwobr wedi hyn.
Ymunodd ag adran sgriptiau'r BBC yng Nghaerdydd yn 1966. Bu'n gyfrifol am ysgrifennu a chynhyrchu nifer o raglenni poblogaidd megis Pobol y Cwm, Fo a Fe a'r ffilm Grand Slam (1978). Yn fwy diweddar, cyd-ysgrifennodd, gydag Endaf Emlyn, addasiad o nofel Caradog Prichard, Un Nos Ola Leuad, ar gyfer y teledu. Enwebwyd ef am wobr BAFTA Cymru yn sgil llwyddiant y cynhyrchiad hwn yn 1992 ac eto yn 1993.
Caiff Gwenlyn Parry ei gydnabod yn un o brif ddramodwyr Cymru. Ymysg ei weithiau mwyaf nodedig mae'r dramâu llwyfan Saer Doliau (1966), Y Tŵr (1978) a Panto (1986). Bu'n briod ddwywaith, yn gyntaf i Joy ac yna i Ann Beynon, ac yr oedd ganddo bedwar o blant. Bu farw ar 5 Tachwedd 1991.
Places
Legal status
Functions, occupations and activities
Mandates/sources of authority
Internal structures/genealogy
General context
Relationships area
Access points area
Subject access points
Place access points
Occupations
Control area
Authority record identifier
Institution identifier
Rules and/or conventions used
rda
Status
Level of detail
Dates of creation, revision and deletion
Language(s)
Script(s)
Sources
lcnaf