Identity area
Type of entity
Person
Authorized form of name
Roberts, Ioan
Parallel form(s) of name
Standardized form(s) of name according to other rules
Other form(s) of name
Identifiers for corporate bodies
Description area
Dates of existence
1941-2019
History
Ganwyd Ioan Roberts ar 22 Tachwedd 1941 ym mhentref Rhoshirwaun ym Mhen Llŷn, yn fab i Ellis Roberts (1908-1980) a'i wraig Esther (1911-1988). Aeth i Brifysgol Manceinion, lle bu am ddwy flynedd yn astudio Peirianneg Sifil, cyn gadael a chael gwaith fel peiriannydd gyda Chyngor Sir Trefaldwyn yn gyntaf, ac wedyn gyda Chyngor Tref Amwythig. Ym Maldwyn yn y 1970au cyfarfu ag Alwena James, priodi a chael dau o blant, Sion a Lois.
Yn y cyfnod hwnnw y dechreuodd ysgrifennu erthyglau am ei gynefin ym Maldwyn i'r Cymro, ac yna penderfynodd wneud cais i'r Cymro am swydd fel newyddiadurwr. Yng nghanol y 1980au, trodd at olygu a sgriptio, ac yn 1989 ymunodd â thîm rhaglen gylchgrawn S4C, Hel Straeon, un o'r cyfresi mwyaf poblogaidd a fu erioed ar y sianel.
Trodd wedyn at sgrifennu a golygu llyfrau yn bennaf. Rhoddodd ugain mlynedd o gyfraniad ac mae'r ddawn canfod ac adrodd straeon yn amlwg yn ei gyfrolau. Lluniodd y gyfrol Elfed: Cawr ar Goesau Byr (2000) er cof am Elfed Lewys, y gweinidog a'r canwr gwerin, drwy gasglu straeon pobl eraill amdano. Roedd ei gydymdeimlad ag unigolion a gawsai eu dal dan ormes gwladwriaeth yn amlwg yn ei gyfrol Achos y Bomiau Bach (2001) ar achos cynllwynio Mudiad Sosialaidd Gweriniaethol Cymru yn Llys y Goron, Caerdydd yn 1983, achos yr oedd Ioan yn bresennol ynddo fel gohebydd i Radio Cymru. Ar gyfer y gyfrol Rhyfel Ni - Profiadau Cymreig o Ddwy Ochr Rhyfel y Falklands/Malvinas (2003), ymwelodd â Phatagonia i holi teuluoedd milwyr Archentaidd o dras Gymreig, rhai wedi eu lladd yn y rhyfel honno. Canfod mwy nag a wêl y llygad yw crefft awdur llyfrau taith ac nid oes gwell enghraifft yn y Gymraeg na Pobol Drws Nesa - Taith fusneslyd drwy Iwerddon (2008) gan Ioan Roberts.
Bu Ioan Roberts farw ar 29 Rhagfyr 2019 o drawiad ar y galon wrth iddo ymlwybro yn ôl o draeth Porthdinllaen. Cynhaliwyd ei angladd yng nghapel Seiloh, Chwilog ac fe'i claddwyd ym mynwent capel Penuel Tyddyn Shôn.
Places
Legal status
Functions, occupations and activities
Mandates/sources of authority
Internal structures/genealogy
General context
Relationships area
Access points area
Subject access points
Place access points
Occupations
Control area
Authority record identifier
Institution identifier
Rules and/or conventions used
rda
Status
Level of detail
Dates of creation, revision and deletion
Language(s)
Script(s)
Sources
lcnaf