Identity area
Type of entity
Person
Authorized form of name
Thomas, Ned, 1936-
Parallel form(s) of name
Standardized form(s) of name according to other rules
Other form(s) of name
- Thomas, Edward Morley, 1936-
Identifiers for corporate bodies
Description area
Dates of existence
History
Mae Edward Morley (Ned) Thomas yn awdur, darlithydd, newyddiadurwr, cyhoeddwr ac ymchwilydd i ieithoedd lleiafrifol. Ganwyd yn Little Lever, Sir Gaerhirfryn, ar 11 Mehefin 1936, i rieni o Gymru, a cafodd ei fagu yn Lloegr, Cymru, yr Almaen a'r Swisdir. Astudiodd llenyddiaeth Saesneg yn Rhydychen ac aeth ymlaen i ddarlithio ar Saesneg ym Mhrifysgol Salamanca, 1960-1964, ac ym Mhrifysgol Moscow, 1966-1967. Yn y 1960au hwyr yn Llundain gweithiodd i'r Times, ac am gyfnod ef oedd golygydd Angliya, cylchgrawn Rwsieg wedi ei ariannu gan lywodraeth Prydain.
Symudodd gyda'i deulu i Lwynypiod, sir Aberteifi, yn 1969, gan sefydlu'r cylchgrawn Planet: The Welsh Internationalist yno gyda'i wraig Sara. Yn yr un cyfnod cafodd swydd darlithydd yn yr Adran Saesneg ym Mrifysgol Cymru Aberystwyth. Roedd yn un o sylfaenwyr Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant yn Aberystwyth yn 1988. Symudodd i Gaerdydd yn 1990 i fod yn Gyfarwyddwr ar Wasg Prifysgol Cymru. Dychwelodd i Aberystwyth i fyw ar ôl ymddeol o'r swydd honno yn 1998.
Ei brif gyhoeddiadau yw Orwell (Caeredin, 1965), The Welsh Extremist (Llundain, 1971), Derek Walcott: Poet of the Islands (Caerdydd, 1980), Waldo (Caernarfon, 1985) a Bydoedd: Cofiant Cyfnod (Talybont, 2010).
Places
Legal status
Functions, occupations and activities
Mandates/sources of authority
Internal structures/genealogy
General context
Relationships area
Access points area
Subject access points
Place access points
Occupations
Control area
Authority record identifier
Institution identifier
Rules and/or conventions used
aacr2
Status
Level of detail
Dates of creation, revision and deletion
Language(s)
Script(s)
Sources
lcnaf