Ardal dynodi
Math o endid
Person
Ffurf awdurdodedig enw
Watkin, W. R. (William Rhys), 1875-1947
Ffurf(iau) cyfochrog enw
Ffurf(iau) safonol o enw yn ôl rheolau eraill
Ffurf(iau) arall o enw
Dynodwyr ar gyfer cyrff corfforaethol
Ardal disgrifiad
Dyddiadau bodolaeth
Hanes
Bu'r Parch. William Rhys Watkin (1875-1947), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, yn weinidog Capel Moreia, Llanelli, sir Gaerfyrddin, am 37 mlynedd. Addysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, a graddiodd mewn Cymraeg yn 1894 yn un o ddisgyblion cynharaf John Morris Jones, yn astudio'r bardd 'Bedo Brwynllys'. Dechreuodd ar ei yrfa fel gweinidog capel Tabernacl, Maesteg, Morgannwg, cyn symud i Gapel Moreia. Yr oedd yn aelod gweithgar o Gymdeithas Genhadol y Bedyddwyr, a'i llywydd yn 1945. Yr oedd hefyd yn hanesydd yr eglwys, yn cyhoeddi nifer o lyfrau a phamffledi ar bynciau crefyddol, a bu'n olygydd Seren Gomer rhwng 1920 a 1928. Casglodd rhai cofnodion ar Eglwys y Bedyddwyr Cymraeg, Eldon Street, Moorfields, Llundain, a oedd yn weithredol o 1846, ar y Parch. Richard Davies ('Yr Hen Belican'), a Thomas Jones (g. 1830) o Aberdaugleddau, sir Benfro, morwr.