Dangos 57999 canlyniad

Cofnod Awdurdod

Capel Gibea (Cwmgwili, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd capel Gibea, Cwmgwili, yn 1899, yn gangen i gapel yr Hendre, Llandybïe.

Cychwynnwyd yr Ysgol Sul yn yr ardal, 31 Ionawr 1897, mewn llofft stabl o eiddo Mr a Mrs Anthony, Brynrodyn. Ymhen tua blwyddyn a hanner aeth y llofft yn rhy fychan, a chafwyd darn o dir yn rhad ac am ddim gan Mr Rees Jones, Tanyfan, i adeiladu ysgoldy. Codwyd yr adeilad yn 1899 ar gyfer tua cant ac ugain o gynulleidfa.

Roedd y capel yn rhan o Ddosbarth yr Hendre, Henaduriaeth Gogledd Myrddin. Mae'r achos bellach wedi dod i ben.

Capel Gorffwysfa (Penrhyndeudraeth, Wales)

  • Corporate body

Sefydlwyd y capel yn 1880. Yr oedd dau gapel, Nasareth a'r Pant, ym Mhenrhyndeudraeth eisoes ond oherwydd twf yn y boblogaeth, yn enwedig yng ngwaelod y pentref, rhwng 1870 a 1880 gwelwyd yr angen am drydydd capel. Penderfynwyd adeiladu'r capel newydd ar dir Adwy-ddu a roddwyd gan Mrs A. L. L. Williams, Castelldeudraeth, gweddw David Williams, AS, am brydles o 999 mlynedd. Gosodwyd y garreg sylfaen gan A. Osmond Williams, Castelldeudraeth. Cafwyd lle i eistedd pum cant, ynghyd ag ystafell ddosbarth a festri.

Mae'r capel yn rhan o Ddosbarth Ffestiniog yn Henaduriaeth Meirionnydd.

Capel Gwynfa, Ffrith (Hope, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd y capel cyntaf ym 1839 uwchben y ffordd sy'n arwain at y Cymau yn y Ffrith, ym mhlwyf yr Hôb, Sir y Fflint. Salem oedd enw'r capel hwnnw ac fe'i atgyweiriwyd ym 1856. Ym 1871 agorwyd yr ail gapel [gyda'r enw Gwynfa] ar safle newydd ar fin y ffordd i Lanfynydd.

'Roedd y Capel mewn taith fugeiliol gydag amryw gapel arall dros y blynyddoedd. Bu'n cydweithio â Bwlchgwyn ym 1860 ac wedi hynny â Chaergwrle ym 1862. Bu wedi cysylltu â Horeb o 1872 hyd 1885, ac ar ôl hyn ffurfiwyd cyfeillach â'r Cymau. Mae'r Capel yn rhan o Ddosbarth Wrecsam yn Henaduriaeth Dwyrain Dinbych.

Capel Hermon, Trichrug (Ceredigion, Wales).

  • Corporate body

Tua'r flwyddyn 1806 dechreuwyd cynnal Ysgol Sul ar y safle. Yn 1880-1882 aethpwyd ati i gasglu arian tuag at adeiladu ysgoldy i gynnal Ysgol Sul a chyfarfodydd gweddi. Codwyd Tŷ Capel hefyd wrth ei ochr. Yn 1883 penderfynwyd sefydlu Eglwys yno. Y mae'r Eglwys yn Nosbarth Aeron ac yn Henaduriaeth De Aberteifi ac fe'i rhestrir yn Y Blwyddiadur ar gyfer 2005.

Capel Hill's Lane (Shrewsbury, England)

  • Corporate body

Bu Methodistiaid Calfinaidd Amwythig yn addoli o 1805 ymlaen yn hen gapel y Wesleaid, Hill's Lane, a adeiladwyd yn 1781. Yn 1826 prynwyd y capel ganddynt ac fe'i chwalwyd er mwyn adeiladu capel newydd ar yr un safle. Yn 1870 adeiladwyd capel newydd eto ar yr un safle. Roedd y capel yn rhan o Henaduriaeth Trefaldwyn Isaf, Dosbarth y trefydd Seisnig.

Bu'r Capel am gyfnod yn hollol Gymreig, ond wedyn cafwyd gwasanaeth cymysg o Gymraeg a Saesneg. O 1886 ymlaen, cafwyd gwasanaeth Cymraeg yn y bore a gwasanaeth Saesneg yn yr hwyr. Caewyd y capel yn 1931 oherwydd gorchymyn pwrcasu gorfodol ac ymunodd yr aelodau â'r Eglwys Saesneg yn St David's, Belmont, yn y flwyddyn honno.

Capel Maentwrog Isaf (Wales)

  • Corporate body

Yn 1872 cafwyd tir ym Maentwrog gan Mr Oakley, Tanybwlch, ac fe adeiladwyd capel arno a fedrai ddal cant ac wythdeg o bobl. Codwyd y capel ar godiad tir ar y ffordd o bentref Maentwrog i gyfeiriad Ffestiniog. Dechreuwyd addoli yno yn 1873, ac yn 1875 rhannwyd y teithiau fel bod Capel y Babell gyda Maentwrog Uchaf, a Llennyrch gyda Maentwrog Isaf.

Erbyn 1891 roedd capeli Maentwrog Isaf, Llennyrch a Maentwrog Uchaf gyda'i gilydd, ond caewyd eglwys Llennyrch yn 1895. Roedd capel Maentwrog Isaf yn Nosbarth Ffestiniog, Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd. Gelwid y capel ar lafar gwlad yn 'gapel newydd' er bod capeli eraill yn yr ardal wedi eu hadeiladu'n fwy diweddar. Caewyd y capel yn 1977.

Capel Maesgeirchen (Bangor, Wales)

  • Corporate body

Dechreuodd y Methodistiaid Calfinaidd gyfarfod ar ystad Maesgeirchen, Bangor, yn 1948, a sefydlwyd eglwys yno yn Ionawr 1954 fel rhan o ddosbarth Bangor Ogwen, Henaduriaeth Arfon. Erbyn Ionawr 2000 roedd yr Eglwys wedi cau.

Canlyniadau 221 i 240 o 57999