Identity area
Type of entity
Corporate body
Authorized form of name
Capel Hill's Lane (Shrewsbury, England)
Parallel form(s) of name
Standardized form(s) of name according to other rules
Other form(s) of name
Identifiers for corporate bodies
Description area
Dates of existence
History
Bu Methodistiaid Calfinaidd Amwythig yn addoli o 1805 ymlaen yn hen gapel y Wesleaid, Hill's Lane, a adeiladwyd yn 1781. Yn 1826 prynwyd y capel ganddynt ac fe'i chwalwyd er mwyn adeiladu capel newydd ar yr un safle. Yn 1870 adeiladwyd capel newydd eto ar yr un safle. Roedd y capel yn rhan o Henaduriaeth Trefaldwyn Isaf, Dosbarth y trefydd Seisnig.
Bu'r Capel am gyfnod yn hollol Gymreig, ond wedyn cafwyd gwasanaeth cymysg o Gymraeg a Saesneg. O 1886 ymlaen, cafwyd gwasanaeth Cymraeg yn y bore a gwasanaeth Saesneg yn yr hwyr. Caewyd y capel yn 1931 oherwydd gorchymyn pwrcasu gorfodol ac ymunodd yr aelodau รข'r Eglwys Saesneg yn St David's, Belmont, yn y flwyddyn honno.