Showing 2971 results

Authority record

Richards, Carys

  • Person

Roedd Carys Bell (1930-2001) yn awdur, darlledydd, arlunydd a cherflunydd. Fe'i ganed ym Mhorthmadog, yn ferch i Olwen a W. M. Richards, athro daearyddiaeth yn Ysgol y Sir yn y dref honno. Astudiodd celf yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth cyn hyfforddi fel athrawes cerflunio a phaentio yng Ngholeg Homerton, Caergrawnt.

Yn dilyn cyfnod byr fel athrawes lanw yn Llundain ymunodd â staff y BBC yng Nghaerdydd ym 1952. Bu'n gweithio fel cyhoeddwraig radio a darllenwraig newyddion BBC Cymru am sawl blwyddyn ac adwaenwyd hi fel 'the girl with the golden voice'. Ar ôl priodi â Christopher Bell ym 1957, fe symudodd i Lundain ac ail-hyfforddi fel rheolwr stiwdio, gan weithio am gyfnod i Wasanaeth y Byd y BBC. Yn dilyn genedigaeth ei dwy ferch, Rhiannon a Branwen, bu'n gweithio yn annibynnol fel darlledydd radio a theledu, a chyfrannu i raglenni megis 'Merched yn bennaf' fel gohebydd Llundain. Yn ogystal, bu'n feirniad celfyddyd Y Faner am ddeng mlynedd a chyfrannodd erthyglau i'r Cymro yn rheolaidd. Cyhoeddodd saith o nofelau dan ei henw morwynol, Carys Richards, yn eu plith Patrwm rhosod, sef trosiad o nofel K. M. Peynton, A pattern of roses.

Rhannodd ei hamser rhwng ei chartref yn Chorleywood, swydd Hertford, a Phorthmadog, ardal lle seiliwyd rhai o'i nofelau.

Capel Boduan (Boduan, Wales)

  • Corporate body

Adeiladwyd y Capel ym 1827 ym Moduan, plwyf Boduan, Sir Gaernarfon. Ym 1999 unwyd Eglwys Boduan â Chapel Moreia, Morfa Nefyn.

Dechreuodd yr achos yn yr ardal yn Nhŷ Newydd yn y 1800au a chofrestrwyd y tŷ hwn fel addoldy ar gyfer ymneilltuwyr ym 1812. Ychydig ar ôl hyn adeiladwyd ysgoldy ar gyfer yr Ysgol Sul wrth Dan-y-graig, a gofrestrwyd ym 1819. 'Roedd y Capel yn rhan o Ddosbarth Nefyn yn Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd.

Capel Ffynhonnau (Llannefydd, Wales)

  • Corporate body

Codwyd y capel cyntaf ym 1795. Fe'i hail-adeiladwyd ym 1826 ac yna codwyd yr adeilad presennol ym 1861. Decheuwyd yr achos gydag Ysgol Sul a gynhaliwyd yn fferm Ffynhonnau cyn symud i un o'r adeiladau allanol. Ym 1976 ffurfwyd gofalaeth newydd trwy ymuno Ffynhonnau, Cefn Berain a Llanefydd gyda'r Fron a'r Brwcws, Dinbych. Yna, yn dilyn adrefnu pellach, daeth Ffynhonnau yn rhan o ofalaeth Llansannan. Y mae'r achos bellach wedi dod i ben.

Davies, D. T. (David Thomas), 1876-1962

  • Person

Ganwyd y dramodydd David Thomas Davies (1876-1962), yn Nant-y-moel, Llandyfodwg, Morgannwg, a chafodd ei addysg yn Ystrad, Morgannwg, a Llandysul yng Ngheredigion. Daeth i gysylltiad â'r dramodydd John Oswald Francis (1882-1956) yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a chafodd y cyfle i wylio dramâu cyfoes Saesneg tra roedd yn athro yn y Central Foundation School yn Llundain ar ôl graddio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1903. Yn 1909 priododd Jane Davies, a chawsant ferch. Gwasanaethodd Davies gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yn 1919 symudodd i Bontypridd, Morgannwg, pan gafodd ei benodi'n arolygydd ysgolion. Roedd yn ddramodydd cymdeithasol Cymraeg blaenllaw yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, yn llunio nifer o ddramâu hir a rhai byrion, sydd yn dangos dylanwad cryf gwaith Ibsen. Ymhlith ei waith pwysicaf yr oedd Ble mae fa? (1913) Ephraim Harri (1914) a Phelenni Pitar (1925), oedd yn nodedig am roi portread ffyddlon o fywyd. Roedd gwaith Davies yn ffasiynol yn ystod y 1920au, pan yr oedd mudiad y ddrama yng Nghymru yn ei hanterth yng nghymoedd de Cymru. Ymddeolodd i Borthcawl yn 1936, a symud i Abertawe yn 1954, lle bu farw yn 1962.

Bebb, Edward Hughes, d. 1902

  • Person

Ganwyd Edward Hughes Bebb (marw 1902) yng Nghricklas, Swyddffynnon, cyn symud yn ddiweddarach i Flaendyffryn, Goginan, y ddau le yng Ngheredigion. Yn 1887, teithiodd Edward o gwmpas America, gan nodi ei brofiadau mewn dyddiadur. Roedd yn briod ag Anne a chawsant o leiaf un plentyn, W. Ambrose Bebb (1894-1955), yr hanesydd, llenor a gwleidydd. Tua 1896 symudodd Edward a'i deulu i'r Camer Fawr, ger Tregaron, Ceredigion, lle bu farw Edward yn 1902. Arhosodd brawd iau Edward, William Breeze Bebb, ym Mlaendyffryn; priododd ei ŵyr, Aled Bebb, â Bethan; ymchwiliodd Bethan Bebb i hanes y teulu trwy ddefnyddio y dyddiaduron.

Results 581 to 600 of 2971