Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- 1915-2016 (Creation)
Level of description
Fonds
Extent and medium
16.822 metrau ciwbig (1738 bocs, 27 cyfrol, 6 ffolder, 1 amlen).
Context area
Name of creator
Administrative history
Ffurfiwyd Plaid Cymru ar 5 Awst 1925 mewn cyfarfod ym Mhwllheli. Ei nod ar y cychwyn oedd hyrwyddo'r iaith Gymraeg. Erbyn y 1930au yr oedd y blaid yn mabwysiadu agenda gwleidyddol ehangach gyda pholisïau economaidd a chyda'r bwriad o sicrhau newid cyfansoddiadol, a ddisgrifiwyd i gychwyn fel 'statws dominiwn'. Ymladdodd y blaid ei hetholiad gyntaf yn 1929, pan enillodd Lewis Valentine 609 o bleidleisiau yn sir Gaernarfon. Wrth i gefnogaeth i'r Blaid gynyddu, cyflwynwyd mwy o ymgeiswyr a dechreuodd ennill seddi ar gynghorau lleol. Gwynfor Evans oedd AS cyntaf Plaid Cymru, trwy ennill isetholiad Caerfyrddin yn 1966. Yn 1970 ymladdodd y blaid pob sedd yng Nghymru yn yr Etholiad Cyffredinol, gan ennill dros 175,000 o bleidleisiau. Yn 1974, enillodd y blaid dwy sedd, Caernarfon a Meirionnydd. Yn dilyn Etholiad Cyffredinol 2001 yr oedd ganddi bedair sedd. Dioddefodd ymgyrch datganoli y blaid ergyd dirfawr yn dilyn ei threchu yn Refferendwm 1979. Er hynny, agorodd Refferendwm 1997 y ffordd i Gynulliad Cymru. Enillodd Plaid Cymru 17 o'r 60 sedd yn etholiadau'r Cynulliad yn 1999, i'w gwneud yr ail grŵp fwyaf yn y Cynulliad. Hefyd yn 1999, enillodd Plaid Cymru dwy o'r pum sedd yn yr Etholiadau Ewropeaidd. Trefnir y blaid yn lleol yn ganghennau a phwyllgorau a elwir yn rhanbarthau, sydd yn cyfateb i etholaethau San Steffan neu ffiniau llywodraeth leol, a ffurfir o gynrychiolwyr o'r canghennau. Mae'r strwythur cenedlaethol yn cynnwys y Gynhadledd Flynyddol, y Cyngor Cenedlaethol, a ffurfir o gynrychiolwyr y canghennau a'r rhanbarthau, a Phwyllgor Gwaith Cenedlaethol, sydd yn rheoli cyllid a gweinyddiaeth y blaid. Cyflogir chwe aelod o staff, yn cynnwys ei phrif weithredwr, yn swyddfa genedlaethol Plaid Cymru yng Nghaerdydd,. Mae wyth swyddfa gyflogedig arall ar hyd a lled Cymru ynghyd â swyddfeydd etholaethol. Llywydd cyntaf Plaid Cymru oedd Lewis Valentine, a olynwyd gan Saunders Lewis, 1926-1939, J.E. Daniel, 1939-1945,Gwynfor Evans,1945-1981, Dafydd Wigley, 1981-1984 a 1991-2000, Dafydd Elis Thomas, 1984-1991, Ieuan Wyn Jones, 2000-2003 a Dafydd Iwan ers 2003. J. E. Jones (1905-1970) oedd yr ysgrifennydd cyffredinol a threfnydd, 1930-1962, ac ymunodd Elwyn Roberts ag ef ar ôl Yr Ail Ryfel Byd. Teitl swyddogol y blaid (ers 1999) yw is Plaid Cymru - The Party of Wales.
Archival history
Immediate source of acquisition or transfer
Adneuwyd gan Blaid Cymru, Caerdydd, Aberystwyth a Llundain, 1967-1998, a thrwy law J. E. Jones, Caerdydd, 1953-1960, Elwyn Roberts, 1966-1988, Dafydd Williams, 1974-1997, Nans Jones, Caerdydd, 1983, Gwyneth Roberts, Abergynolwyn, 1988, Gwynfor Evans, 1988, Cynog Dafis, 1997, Karl Davies, 1997, Siôn Jobbins, Aberystwyth, 1998, a Ioan Bellin, 1998. Adneuwyd grwpiau eraill gan Olwen Jones, Caernarfon, trwy law Elwyn Roberts, 1982. Adneuwyd grwpiau eraill trwy law Gwenno Haf, 2008, dienw, 2014 (papurau Nans Jones, rhodd), Ioan Bellin, 2016 (rhodd), Gareth Clubb, 2017, a Meleri Mair, 2018 (rhodd).
Content and structure area
Scope and content
Cofnodion Plaid Cymru, 1915-1999, yn cynnwys cofnodion, agenda and gohebiaeth y pwyllgor gwaith a phwyllgorau eraill, 1925-1997; gohebiaeth gyffredinol, 1925-1998, gyda nifer o aelodau a swyddogion blaenllaw y blaid; cofnodion, gohebiaeth a phapurau eraill y gwahanol bwyllgorau rhanbarthol, 1925-1997, a changhennau,1930-1992; cofnodion a dogfennaeth y Cyngor Cenedlaethol, 1967-1997; cofnodion ariannol, yn cynnwys rhai papur newydd misol y blaid Y Ddraig Goch a Welsh Nation a Chronfa Gŵyl Ddewi, 1927-1996; rhaglenni a threfniadau ar gyfer cynadleddau ac Ysgolion Haf, 1933-1998; cofnodion aelodaeth, 1930-1996; papurau y Grŵp Ymchwil, [c.1960]-1995; papurau, yn cynnwys areithiau ac effemera, yn ymwneud ag etholiadau, 1929-1999; papurau yn ymwneud ag Adran y Menywod, 1924-1996, a'r Mudiad Ieuenctid, 1964-1998; papurau yn ymwneud â refferendwm datganoli 1979,1969-1983, a refferendwm 1997, a Chynulliad Cymru,1992-1998; papurau yn ymwneud â Y Ddraig Goch, Welsh Nation a chyhoeddiadau eraill, 1932-1996; deunydd printiedig gan Blaid Cymru ac eraill yn cynnwys llyfrau, cyfnodolion a phamffledi,1913-1996; torion o'r wasg, 1924-1996; cylchlythyron, 1938-1992; papurau yn ymwneud â'r Blaid Seneddol,1980-1996; papurau unigolion ac rhai ar wahanol bynciau amrywiol, 1926-1998 = Records of Plaid Cymru, 1915-1999, including minutes, agendas and correspondence of the executive and other committees, 1925-1997; general correspondence, 1925-1998, with many prominent party members and officials; minutes, correspondence and other papers of the various regional committees, 1925-1997, and branches, 1930-1992; minutes and records of the National Council, 1967-1997; financial records, including those of the party's monthly newspaper Y Ddraig Goch and Welsh Nation and Cronfa Gwyl Dewi, 1927-1996; arrangements for and programmes of conferences and Summer Schools, 1933-1998; membership records, 1930-1996; papers of the Grŵp Ymchwil (research group), [c.1960]-1995; papers, including speeches and ephemera, relating to elections, 1929-1999; papers relating to the Adran Menywod (Women's Section), 1934-1996, and the Mudiad Ieuenctid (Youth Movement), 1964-1998; papers relating to the 1979 devolution referendum, 1969-1983, and the 1997 referendum and Welsh Assembly, 1992-1998; papers relating to Y Ddraig Goch, Welsh Nation and other publications, 1932-1996; printed matter by Plaid Cymru and others including books, periodicals and pamphlets, 1913-1996; press cuttings, 1924-1996; circulars, 1938-1992; papers relating to the Parliamentary Party, 1980-1996; papers of individuals and to various miscellaneous topics, 1926-1998.
Appraisal, destruction and scheduling
Action: Dychwelwyd y blociau argraffu i swyddfa Plaid Cymru, Aberystwyth. Cadwyd yr holl gofnodion eraill a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Accruals
Mae ychwanegiadau yn bosibl bob hyn a hyn.
System of arrangement
Trefnwyd fel a ganlyn: y pwyllgor gwaith; gohebiaeth gyffredinol; siroedd/rhanbarthau; canghennau; y Cyngor Cenedlaethol; cyllid; cynadleddau ac ysgolion haf; aelodaeth; ymchwil; etholiadau; adran y menywod; refferendwm 1979; pynciau cyffredinol; cyhoeddiadau; deunydd printiedig; torion o'r wasg; mudiad ieuenctid; cylchlythyron; refferendwm 1997; y blaid seneddol; papurau unigolion; papurau amrywiol.
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Mae cynnwys yr archif dan embargo am ddeng mlynedd. Rhaid cael caniatâd yr ysgrifennydd cyffredinol yn swyddfa Plaid Cymru, Caerdydd, cyn cael gweld deunydd sydd o fewn y cyfnod hwn. Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Warchod Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.
Conditions governing reproduction
Amodau hawlfraint arferol.
Language of material
- Welsh
- English
Script of material
Language and script notes
Cymraeg, Saesneg.
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Ceir copïau caled o'r catalogau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r catalogau ar gael ar lein.
Allied materials area
Existence and location of originals
Trosglwyddir dau ddisg 'fflopi', sef (i) llawlyfr etholiadol (Saesneg), 1996, (ii) y gyfraith etholiadol (Cymraeg), allan o J 318 (adnau C1998/24), i MabLab LlGC. Trosglwyddir dau ddisg 'fflopi' arall, sef disgrifiad swydd a job description (Grŵp Gwenno Haf, 2008) i MabLab LlGC.
Trosglwyddir CD yn ymwneud ag etholiad Cynulliad 1999 i gasgliad Sgrin a Sain LlGC, sy'n cynnwys (i) Cân Plaid Cymru, gan Geraint Løvgreen, (ii) darn rhyddm, a (iii) darn hir (9 munud) yn cyfuno'r ddau (Grŵp Gwenno Haf, 2008). Trosglwyddir hefyd 11 casét tâp fideo 8mm i gasgliad Sgrin a Sain LlGC, sef Ysgol Undydd/Euroschool Caerfyrddin, 16 Ebrill 1988, tapiau 1-4; Rali Senedd i Gymru Aberystwyth, Mehefin 1992; a Euroseminar, tapiau 1, 1A, 2-5 (Grŵp Meleri Mair, Ionawr 2018).
Trosglwyddir ffotograffau Nans Jones, g.g. Ysgol Haf Brynmawr, 1932 (Grŵp Mai 2014) i gasgliad ffotograffau LlGC.
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Alternative identifier(s)
Virtua system control number
Project identifier
Access points
Place access points
Name access points
- Plaid Cymru. Women's Section. (Subject)
Genre access points
Description control area
Description identifier
Institution identifier
Rules and/or conventions used
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G)Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Status
Level of detail
Dates of creation revision deletion
Mawrth 2004.
Language(s)
- Welsh
Script(s)
Sources
Archivist's note
Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LLGC, Rhestr i Archif Plaid Cymru, 3 cyfrol, Evans, Gwynfor, 'Hanes Twf Plaid Cymru 1925-1995', Cof Cenedl X (1995), tt. 153-184; gwefan Plaid Cymru the Party of Wales (www.plaidcymru.org.uk), edrychwyd 2003;