Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- 1958 (Creation)
Level of description
File
Extent and medium
98 ff. (tudalenwyd y llawysgrif wreiddiol 5-182 mewn mwy nag un llaw ac o gyfnod diweddarach na'r testun); pedair tudalen gyntaf yn eisiau; nid oes tudalen 68, fe'i rhifwyd yn 69, a cheir dwy dudalen yn dwyn y rhif 72; y ddwy dudalen olaf (mynegai i'r gyfrol), mewn llaw llawer diweddarach, heb eu tudalennu ; 280 x 225 mm. (y llawysgrif wreiddiol yn 190 x 135 mm.)
Rhwymwyd y copi mewn hanner lledr, moroco coch, yn LLGC, 1958.
Context area
Name of creator
Biographical history
Archival history
Y llawysgrif yn wreiddiol yn perthyn i gasgliad llawysgrifau William Bodwrda (rhif 6 o bosib). Ceir nifer o lofnodion gwahanol berchnogion yn y gyfrol, gan gynnwys: 'John Owan 1689' (p. 77); 'David Lewis his Book so said Mr Evan Owen 1752' (t. 94), 'David Lewis his Book 1757' (t. 128) a 'David Lewis yw iawn Berchenog y Llyfr hwn 1758' (t. 158); 'Ellis Davies Bala' (t. 59). Daeth y gyfrol yn eiddo i Bob Owen, Croesor, yn ystod yr ugeinfed ganrif, cyn iddo ei gwerthu; yn ôl nodyn ar ddechrau'r llawysgrif, daeth yn eiddo i'r Athro F. N. Robinson a'i cyflwynodd i Lyfrgell Coleg Harvard ar 14 Ionawr 1939.
Immediate source of acquisition or transfer
Llyfrgell Prifysgol Harvard (Llyfrgell Houghton); Cambridge, MA 02138, Unol Daleithiau America; Pryniad; Mehefin 1958
Content and structure area
Scope and content
Copi ffotostat o 'Harvard MS Welsh 8,' sef cyfrol yn perthyn i gasgliad llawysgrifau William Bodwrda yn cynnwys barddoniaeth Gymraeg gan feirdd o'r 14 gan. hyd at 17 gan., a gopïwyd [1640x1660]. = A photostat facsimile of 'Harvard MS Welsh 8' which is a volume from the collection of manuscripts of William Bodwrda containing Welsh poetry from 14 cent to 17 cent, copied [1640x1660]
Ceir awdlau, cywyddau a darnau o hen ganu brud yn y llawysgrif, nifer ohonynt yn canu i deuluoedd sir Gaernarfon; cerddi a briodolir i Daliesin a Llywarch Hen; a nifer o eitemau sy'n unig gopïau, sef gwaith Huw Pennant (tt. 13-17), Ifan Tew Brydydd (tt. 53-5), Howel ab Reinallt (tt. 65-7), Siôn Phylip (tt. 90-4), Syr Huw Roberts Llên (tt. 94-7), a Siôn Tudur (tt. 127-31). Mae'n debyg nad llaw William Bodwrda mo'r un o'r ddwy brif law yn y gyfrol, ond credir fod y llawysgrif yn gynsail i un neu fwy o lawysgrifau ffolio William Bodwrda, megis BL Add. 14966 a Mostyn 145 (NLW MS 3048D). = The manuscript comprises 'awdlau', 'cywyddau' and old vaticinatory poetry, many relating to Caernarfonshire families; poems attributed to Taliesin and Llywarch Hen; and a number of items which are unique copies, namely the works of Huw Pennant (pp. 13-17), Ifan Tew Brydydd (pp. 53-5), Howel ab Reinallt (pp. 65-7), Siôn Phylip (pp. 90-4), Sir Huw Roberts Llên (pp. 94-7) and Siôn Tudur (pp. 127-31). It seems that neither of the two main hands in the volume belong to William Bodwrda, although it is likely that the manuscript served as the basis for one or more of William Bodwrda's folio manuscripts, particularly BL Add. 14966 and Mostyn 145 (NLW MS 3048D).
Appraisal, destruction and scheduling
Accruals
System of arrangement
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Conditions governing reproduction
Ni ellir defnyddio copi LLGC i atgynhyrchu'r llawysgrif, neu rannau ohoni; Llyfrgell Prifysgol Harvard.
Language of material
Script of material
Language and script notes
Cymraeg.
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Ceir disgrifiad bras iawn o'r llawysgrif wreiddiol ar gatalog ar-lein Llyfrgell Prifysgol Harvard. http://lib.harvard.edu/ (gwelwyd Mehefin 2006).
Allied materials area
Existence and location of originals
Llyfrgell Prifysgol Harvard (Llyfrgell Houghton);
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.
Note
Preferred citation: NLW MS 16129D.
Alternative identifier(s)
Virtua system control number
Access points
Subject access points
Place access points
Name access points
- Huw Pennant, Syr, fl. 1465-1514 (Subject)
- Hywel ap Rheinallt, fl. 1461-1507 (Subject)
- Roberts, Huw, fl. ca. 1555-1619 (Subject)
- Tudur, Siôn (Subject)
- Phylip, Siôn, approximately 1543-1620 (Subject)
- Ieuan Dew Brydydd (Subject)
Genre access points
Description control area
Description identifier
Institution identifier
Rules and/or conventions used
Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LLGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Status
Level of detail
Dates of creation revision deletion
Mehefin 2006.
Language(s)
- Welsh
Script(s)
Sources
Archivist's note
Lluniwyd y cofnod hwn gan Alwyn J. Roberts yn seiliedig ar ddisgrifiad Dafydd Ifans;