Identity area
Type of entity
Corporate body
Authorized form of name
Capel Seilo (Johnstown, Wales)
Parallel form(s) of name
Standardized form(s) of name according to other rules
Other form(s) of name
Identifiers for corporate bodies
Description area
Dates of existence
History
Adeiladwyd y Capel tua diwedd 1893 ar y ffordd o Riwabon i Wrecsam yn Johnstown, ym mhlwyf Rhosllannerchrugog, Sir Ddinbych, ac fe'i hagorwyd ym mis Chwefror y flwyddyn ddilynol. Ym 1898 adnewyddwyd yr adeilad oll y tu fewn a hefyd ychwanegwyd ysgoldy ac ystafell bwrpasol ar gyfer dosbarthiadau darllen ac yn y blaen.
Yn y cychwyn bu sefydlu'r achos yn gydweithrediad rhwng y Capel Mawr a'r Eglwys Saesneg, Hill Street, ac 'roedd gwasanaethau'r capel yn y ddwy iaith bob yn ail Sul yn ystod y blynyddoedd cynnar. Tua 1896 penderfynwyd sefydlu eglwys hollol Gymraeg yn y Capel, ac ymunodd aelodau o gapeli eraill megis y Capel Mawr, Hill Street a Phonciau (Bethel). Ym 1999 penderfynodd aelodau'r Capel i ddwyn yr achos i ben ac yn y flwyddyn honno unodd yr Eglwys รข'r Capel Mawr (Jerusalem). 'Roedd y Capel yn rhan o Ddosbarth y Rhos yn Henaduriaeth Dwyrain Dinbych.