File 2/4/3/1 - Cardiau post at Mary Williams

Identity area

Reference code

2/4/3/1

Title

Cardiau post at Mary Williams

Date(s)

  • [1907x1920] (Creation)

Level of description

File

Extent and medium

1 amlen

Context area

Name of creator

Archival history

Immediate source of acquisition or transfer

Content and structure area

Scope and content

Cardiau post wedi'u cyfeirio at Mary Williams (yn ddiweddarach Francis), fel a ganlyn:

Cerdyn, di-ddyddiad, wedi'i lofnodi gan George W[illiam] Roome, a oedd yn gyd-fyfyriwr i John Edwal Williams, tad Mary, yn y Coleg Normal, Bangor (gweler Alan Llwyd: Waldo: Cofiant Waldo Williams: 1904-1971 (Y Lolfa, 2014), tud. 28).

Cerdyn, marc post 19 Rhagfyr 1915, oddi wrth ei hewythr, William Price Jones, brawd ei mam, Angharad Williams (née Jones) (mae'r cyfeiriad 'Oak or Elm Cottage' ar ei gerdyn yn enghraifft o hiwmor William Price Jones (gweler Alan Llwyd: Waldo: Cofiant Waldo Williams: 1904-1971 (Y Lolfa, 2014), tud. 39) (gweler hefyd Cardiau post at Angharad Williams oddi wrth William Price Jones dan bennawd Angharad Williams (née Jones)).

Cardiau, un di-ddyddiad, un marc post 3 Rhagfyr 1915, oddi wrth 'Uncle Ned' ac oddi wrth 'Uncle Ned, Aunty Minnie & Ioan', sef Edward (Ned) Thomas Edmunds, ei wraig Wilhelmina (Minnie) (née Jones), chwaer Angharad Williams (née Jones), a'u mab Ioan Edmunds (gweler Edward (Ned) Thomas Edmunds dan bennawd Angharad Williams (née Jones)).

Dau gerdyn, marc post Avalon, California, 9 Gorffennaf 1927 a Cleveland, Ohio, 1[?0] Mawrth (dyddiad wedi'i ddiddymu), oddi wrth Lewis Williams (llofnod 'LW' ar y cardiau), brawd ei thad, John Edwal Williams (gweler hefyd Lewis Williams dan bennawd John Edwal Williams a Cerdyn post at Dilys Williams oddi wrth Lewis Williams dan bennawd Dilys Williams - Gohebiaeth at Dilys Williams).

Cerdyn, di-ddyddiad, â'r un gair 'Mary' arno.

Cerdyn, marc post 16 Awst 1915, oddi wrth 'Gwyneth'.

Appraisal, destruction and scheduling

Accruals

System of arrangement

Conditions of access and use area

Conditions governing access

Conditions governing reproduction

Language of material

  • English

Script of material

Language and script notes

Physical characteristics and technical requirements

Finding aids

Allied materials area

Existence and location of originals

Existence and location of copies

Related units of description

Am George William Roome, gweler hefyd John Edwal Williams - Cerdyn post at John Edwal Williams oddi wrth C. Enid Irma Roome a John Edwal Williams - Tystlythyrau John Edwal Williams.

Am William Price Jones, gweler dan bennawdau Angharad Williams (née Jones) - William Price Jones, Angharad Williams (née Jones) - Cardiau post at Angharad Williams oddi wrth William Price Jones, John Edwal Williams - Cerdyn post at John Edwal Williams oddi wrth William Price Jones, a Dilys Williams - Gohebiaeth at Dilys Williams - Llythyr at Dilys Williams oddi wrth William Price Jones.

Am Edward (Ned) Thomas Edmunds, Wilhelmina (Minnie) Edmunds a Ioan Edmunds, gweler hefyd Edward (Ned) Thomas Edmunds dan bennawd Angharad Williams (née Jones), Cerdyn post at Dilys Williams oddi wrth Edward (Ned) Thomas Edmunds, Wilhelmina (Minnie) Edmunds a Ioan Edmunds dan bennawd Dilys Williams - Gohebiaeth at Dilys Williams, Cerdyn post at John Edwal Williams oddi wrth [Wilhelmina (Minnie) Edmunds] dan bennawd John Edwal Williams a Llythyr at Waldo Williams oddi wrth Ioan Edmunds dan bennawd Gohebiaeth at Waldo Williams.

Related descriptions

Notes area

Note

Ganed yr athro Saesneg a'r Esperantydd George William Roome yn Sheffield ym 1864. Daeth yn Lywydd Cynghrair Esperanto Swydd Efrog ac, ym 1930, yn Lywydd Cymdeithas Athrawon Esperanto y Byd.

Priododd Margaret Wilhelmina (Minnie) Jones, chwaer Angharad Williams (née Jones), Edward (Ned) Thomas Edmunds ac ymfudo i'r Wladfa, Patagonia ym 1912. Daeth ei gŵr yn brifathro cyntaf ysgol y Gaiman.

Ganed Lewis Williams ym 1865, yn frawd iau i John Edwal Williams, tad Mary. Ymfudodd i Cleveland, Ohio yn ŵr ifanc. Collodd ei gyllidion personol o ganlyniad i gwymp Wall Street ym 1929 a bu farw rhyw ddwy neu dair blynedd wedi hynny. 'Roedd yn ddi-briod.

Alternative identifier(s)

Access points

Subject access points

Place access points

Genre access points

Description control area

Description identifier

Institution identifier

Rules and/or conventions used

Status

Level of detail

Dates of creation revision deletion

Language(s)

Script(s)

Sources

Accession area

Related subjects

Related genres

Related places

Physical storage

  • Text: Papurau Waldo Williams 2/4/3/1 (Bocs 6)