fonds GB 0210 GWYNFA - CMA: Cofysgrifau Capel Gwynfa, Y Ffrith

Identity area

Reference code

GB 0210 GWYNFA

Title

CMA: Cofysgrifau Capel Gwynfa, Y Ffrith

Date(s)

  • 1926-1991 (Creation)

Level of description

fonds

Extent and medium

0.009 metrau ciwbig (1 bocs)

Context area

Name of creator

Administrative history

Adeiladwyd y capel cyntaf ym 1839 uwchben y ffordd sy'n arwain at y Cymau yn y Ffrith, ym mhlwyf yr Hôb, Sir y Fflint. Salem oedd enw'r capel hwnnw ac fe'i atgyweiriwyd ym 1856. Ym 1871 agorwyd yr ail gapel [gyda'r enw Gwynfa] ar safle newydd ar fin y ffordd i Lanfynydd.

'Roedd y Capel mewn taith fugeiliol gydag amryw gapel arall dros y blynyddoedd. Bu'n cydweithio â Bwlchgwyn ym 1860 ac wedi hynny â Chaergwrle ym 1862. Bu wedi cysylltu â Horeb o 1872 hyd 1885, ac ar ôl hyn ffurfiwyd cyfeillach â'r Cymau. Mae'r Capel yn rhan o Ddosbarth Wrecsam yn Henaduriaeth Dwyrain Dinbych.

Archival history

Immediate source of acquisition or transfer

Adneuwyd gan Mr Gareth Vaughan Williams, Coed-y-Glyn, Wrecsam, Tachwedd 2000.

Content and structure area

Scope and content

Mae'r fonds yn cynnwys Llyfr Casgliad y Weinidogaeth, 1926-1949, a Llyfr Cyfrifon, 1956-1991.

Appraisal, destruction and scheduling

Accruals

Mae ychwanegiadau yn bosibl.

System of arrangement

Trefnwyd ar sail cynnwys yn LlGC yn ddwy ffeil: Llyfr Casgliad y Weinidogaeth a Llyfr Cyfrifon.

Conditions of access and use area

Conditions governing access

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Conditions governing reproduction

Amodau hawlfraint arferol.

Language of material

  • Welsh

Script of material

Language and script notes

Cymraeg

Physical characteristics and technical requirements

Finding aids

Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LlGC 2001-.

Allied materials area

Existence and location of originals

Existence and location of copies

Related units of description

Ceir cofnodion eraill yn LlGC, sef ffurflenni am doll ar Werth Tir ar gyfer capeli yn Sir Ddinbych, 1915, CMA I/8952; cofnodion ariannol eraill, 1888-1984, CMA III/EZ1/220/1-6; a chopi o raglen gwasanaeth Dathlu Canmlwyddiant yr Achos 1871-1971, CMA III/EZ1/220/7. Ceir hefyd ddogfen am gymhorthdal ar gyfer capeli Broughton Newydd a'r Ffrith, 1909, yn LlGC, Acrefair Manuscripts and Records 2945. Ceir hanes yr achos a lluniau o'r Capel yn Archifdy Sir Ddinbych, Rhuthun.

Related descriptions

Notes area

Note

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Alternative identifier(s)

Virtua system control number

vtls004241375

GEAC system control number

(WlAbNL)0000241375

Access points

Place access points

Genre access points

Description control area

Description identifier

Institution identifier

Rules and/or conventions used

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.

Status

Level of detail

Dates of creation revision deletion

Mai 2002.

Language(s)

  • Welsh

Script(s)

Sources

Archivist's note

Lluniwyd gan Martin Robson Riley.

Archivist's note

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Owen, Griffith, Hanes Methodistiaeth Sir Fflint (Dolgellau, 1914).

Accession area