fonds GB 0210 PONTRO - CMA: Cofysgrifau Capel Pontrobert

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 PONTRO

Teitl

CMA: Cofysgrifau Capel Pontrobert

Dyddiad(au)

  • 1913-1914 (Creation)

Lefel y disgrifiad

fonds

Maint a chyfrwng

1 gyfrol

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes gweinyddol

Adeiladwyd capel Pontrobert, Meifod, plwyf Llangynyw, Sir Drefaldwyn yn 1800, ond fe'i defnyddiwyd fel ysgol am gyfnod pan oedd John Hughes Pontrobert yn dysgu yno. Ordeiniwyd ef yn weinidog gyda'r Methodistiaid yn 1814 a daeth yr adeilad yn gapel eto, gyda John Hughes a'i wraig Ruth yn byw yn y tŷ. Gelwir y capel hwn yn Hen Gapel John Hughes, ac ailagorwyd y drysau yn 1995 fel 'Canolfan Undod ac adnewyddiad Cristnogol i'r genedl'.

Adeiladwyd Capel Newydd Pontrobert, a elwir hefyd yn Capel uchaf, yn 1865 ac fe'i sefydlwyd yn yr un flwyddyn. Fe gostiodd dros £500 i'w adeiladu, ac fe gliriwyd y rhan fwyaf o'r ddyled trwy gynnal casgliad cyffredinol trwy Sir Drefaldwyn.

Hanes archifol

Ffynhonnell

Adneuwyd gan Mr R. M. Edwards, Croesoswallt, Ionawr 2003.; 0200301497

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Mae'r fonds yn cynnwys un llyfr cofnodion, 1913-1914, yn nodi enwau yr holl danysgrifwyr o swllt ac uchod at gasgliad neilltuol a wnaed at godi capel newydd Pontrobert yn 1865, ac ychydig o hanes adeiladu'r capel.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Croniadau

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

System o drefniant

Trefnwyd yn un ffeil.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

  • Cymraeg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LLGC 2001-.

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Ceir adroddiadau blynyddol, 1919-1920, yn LLGC ynghyd â ffotograffau (NLW Photo Album 768; GC/C11407-11407J; Places File: Trallwm). Mae cofrestri'r capel, 1808-1836, yn yr Archifdy Gwladol, copi microffilm ohono yn LlGC (NPR Rîl 31/3909 (viii) [Mt/42]), ac adysgrif o'r gofrestr genedigaethau a bedyddiadau, 1807-1836, ymhlith papurau D. Teifigar Davies. Ceir adysgrif o gofnodion bedyddio, 1811-1837, yn NLW MS 11857B; 'Hanes Dirwest ym Mhontrobert a Meifod' gan E. J. Jones, Meifod yn LLGC, CMA 16540; a gweithredoedd hen gapel Pontrobert, 1801-1939, yn CMA P2/1-9.

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls004285161

GEAC system control number

(WlAbNL)0000285161

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Enw

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Mehefin 2003

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan Nia Mai Williams.

Nodyn yr archifydd

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r catalog hwn: Cronfa ddata Capeli Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Griffith, Edward, Hanes Methodistiaeth Trefaldwyn Isaf, Caernarfon, 1914; Rhosier, Nia, 'Y Mannau Neulltuedig', Cristion, rhif 85, 1997.

Ardal derbyn

Pobl a sefydliadau cysylltiedig

Genres cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig

Storfa ffisegol

  • Text: CMA: Cofysgrifau Capel Pontrobert.