fonds GB 0210 SEILOJ - CMA: Cofysgrifau Capel Seilo, Johnstown

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 SEILOJ

Teitl

CMA: Cofysgrifau Capel Seilo, Johnstown

Dyddiad(au)

  • [?1935]-1999 (Creation)

Lefel y disgrifiad

fonds

Maint a chyfrwng

0.009 metrau ciwbig (1 ffolder)

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes gweinyddol

Adeiladwyd y Capel tua diwedd 1893 ar y ffordd o Riwabon i Wrecsam yn Johnstown, ym mhlwyf Rhosllannerchrugog, Sir Ddinbych, ac fe'i hagorwyd ym mis Chwefror y flwyddyn ddilynol. Ym 1898 adnewyddwyd yr adeilad oll y tu fewn a hefyd ychwanegwyd ysgoldy ac ystafell bwrpasol ar gyfer dosbarthiadau darllen ac yn y blaen.

Yn y cychwyn bu sefydlu'r achos yn gydweithrediad rhwng y Capel Mawr a'r Eglwys Saesneg, Hill Street, ac 'roedd gwasanaethau'r capel yn y ddwy iaith bob yn ail Sul yn ystod y blynyddoedd cynnar. Tua 1896 penderfynwyd sefydlu eglwys hollol Gymraeg yn y Capel, ac ymunodd aelodau o gapeli eraill megis y Capel Mawr, Hill Street a Phonciau (Bethel). Ym 1999 penderfynodd aelodau'r Capel i ddwyn yr achos i ben ac yn y flwyddyn honno unodd yr Eglwys â'r Capel Mawr (Jerusalem). 'Roedd y Capel yn rhan o Ddosbarth y Rhos yn Henaduriaeth Dwyrain Dinbych.

Hanes archifol

Ffynhonnell

Adneuwyd gan Mr Gareth Vaughan Williams, Coed-y-Glyn, Wrecsam, Tachwedd 2000.

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Mae'r fonds yn cynnwys ffolder o gofysgrifau cyffredinol yn ymwneud ag agweddau o weinyddu'r Eglwys a'i gweithgareddau cymdeithasol.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Croniadau

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

System o drefniant

Cadwyd y drefn wreiddiol.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

  • Cymraeg
  • Saesneg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg, Saesneg

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LlGC 2001-.

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Ceir cofnodion eraill yn LlGC, sef ffurflenni am doll ar Werth Tir ar gyfer capeli yn Sir Ddinbych, 1915, CMA I/8952; lluniau o'r Capel yn Albwm Ffoto LlGC 768; ac adroddiadau blynyddol, 1952-1958 a 1963. Ceir hanes yr achos a lluniau o'r Capel yn Archifdy Sir Ddinbych, Rhuthun.

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls004241904

GEAC system control number

(WlAbNL)0000241904

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Enw

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Mai 2002.

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan Martin Robson Riley.

Nodyn yr archifydd

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Owen, Griffith, Hanes Methodistiaeth Sir Fflint (Dolgellau, 1914); Cofysgrifau Capel Seilo, Johnstown.

Ardal derbyn