fonds GB 0210 CAPSEI - CMA: Cofysgrifau Capel Seion, Capel Seion, Ceredigion

Identity area

Reference code

GB 0210 CAPSEI

Title

CMA: Cofysgrifau Capel Seion, Capel Seion, Ceredigion

Date(s)

  • 1874-1986 (Creation)

Level of description

fonds

Extent and medium

0.009 metrau ciwbig (7 cyfrol, 1 bwndel, 1 ffolder, dwy amlen); 1 bocs bychan (Chwefror 2009); 1 bocs bychan (Mehefin 2010); 1 ffolder (Hydref 2012); 1 gyfrol (Tachwedd 2014).

Context area

Name of creator

Administrative history

Agorwyd y capel yn 1823, ar dir fferm Pwllclai. Cafwyd prydles ar y tir am 99 mlynedd. Ymhen rhyw bum mlynedd prynodd John Davies, Blaengors, saer coed ac un o arweinwyr yr achos, y tir, ynghyd â thyddyn Brynsion a darn o fferm Pwllclai. Yn ei ewyllys gadawodd y tir y saif y capel arno a thir ar gyfer mynwent i'r eglwys.

Yn 1845 helaethwyd y capel ac yn 1873 fe'i ail-adeiladwyd. Fe'i adnewyddwyd eto yn 1908.

Archival history

Immediate source of acquisition or transfer

Adneuwyd gan yr Athro J. Tudno Williams, Capel Seion, Aberystwyth, Rhagfyr 2000, Tachwedd 2002, Chwefror 2009 a Mehefin 2010. Daeth Dr Maredudd ap Huw ac un ffeil Hydref 2012. Daeth llyfr cyfrifon, 1921 a 1971, drwy law Mr Gwilym Tudur, Aberystwyth, Tachwedd 2014; Rhif derbyn adnau Tachwedd 2002 yw 0200207680.

Content and structure area

Scope and content

Mae'r fonds yn cynnwys cofysgrifau'r Ysgol Sul, 1874-1923, a chofnodion amrywiol yn ymwneud â'r capel a gweithgareddau'r aelodau, 1891-1986.

Daeth dau focs ychwanegol o bapurau amrywiol yn perthyn i'r capel i law, Chwefror 2009 a Mehefin 2010, ac un ffeil mis Hydref 2012. Nid yw'r rhain wedi eu catalogio eto.

Llyfr cyfrifon, 1921 a 1971; heb ei chatalogio.

Appraisal, destruction and scheduling

Accruals

Mae ychwanegiadau yn bosibl.

System of arrangement

Trefnwyd yn ddau grŵp: cofysgrifau'r Ysgol Sul a phapurau amrywiol.

Conditions of access and use area

Conditions governing access

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Conditions governing reproduction

Amodau hawlfraint arferol.

Language of material

  • Welsh

Script of material

Language and script notes

Cymraeg oni nodir yn wahanol.

Physical characteristics and technical requirements

Finding aids

Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LlGC 2001-.

Allied materials area

Existence and location of originals

Existence and location of copies

Related units of description

Mae cofrestr bedyddiadau y capel, 1823-1837, yn yr Archifdy Gwladol (PRO: RG4/4013 (xv)), a cheir copi microffilm yn LlGC. Ceir cofrestri bedyddiadau, 1823-1962, claddedigaethau, 1891-1962, a phriodasau, 1916-1962, yn LlGC, CMAI/18293-6; a rhestr o gladdedigaethau, 1847-1851, yn CMAI/12985. Mae cofysgrifau amrywiol eraill y capel yn CMAI/12984-12994, 15717, 18297-18327, 20882, a 20884-20891. Cynllun o'r capel yw LlGC Map 20304. Ceir rhai adroddiadau blynyddol hefyd yn LlGC.

Related descriptions

Notes area

Alternative identifier(s)

Virtua system control number

vtls004249209

GEAC system control number

(WlAbNL)0000249209

Access points

Place access points

Genre access points

Description control area

Description identifier

Institution identifier

Rules and/or conventions used

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.

Status

Level of detail

Dates of creation revision deletion

Mehefin a Tachwedd 2002.

Language(s)

  • Welsh

Script(s)

Sources

Archivist's note

Lluniwyd gan Barbara Davies.

Archivist's note

Defnyddiwyd y ffynhonnell ganlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, CMAI/20882 (deunydd ar gyfer hanes Capel Seion gan y Parch. D. J. Evans, Aberystwyth, 1935).

Accession area