fonds GB 0210 BABELL - CMA: Cofysgrifau Eglwys Babell, Pont Siôn Norton

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 BABELL

Teitl

CMA: Cofysgrifau Eglwys Babell, Pont Siôn Norton

Dyddiad(au)

  • 1906-1948 (Creation)

Lefel y disgrifiad

fonds

Maint a chyfrwng

0.009 metrau ciwbig (1 bocs)

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes gweinyddol

Sefydlwyd eglwys Babell, Pont Siôn Norton, ym mis Mawrth 1906.

Cynhelid cyfarfodydd gweddi ac Ysgol Sul ym Mhont Siôn Norton mor gynnar â'r flwyddyn 1886, a hynny dan nawdd eglwys Penuel, Pontypridd. Ond pan gychwynnwyd yr achos yng Nghilfynyddd yn 1887, peidiodd yr Ysgol Sul ym Mhont Siôn Norton am gyfnod. Adeiladwyd capel Bethel, Cilfynydd, yn 1888, ac yn 1904 cododd yr eglwys honno ysgoldy gwerth £500 ym Mhont Siôn Norton.

Yn ystod Diwygiad 1904-1905 arferai rhai o drigolion Cilfynydd fynd i Bont Siôn Norton i gynnal cyfarfodydd gweddi. Ymunodd nifer fawr â'r Ysgol Sul yno, ac anfonodd eglwys Bethel gais i'r Cyfarfod Misol am ganiatâd i sefydlu eglwys yno. Caniatawyd y cais ac awdurdodwyd y Parch. William Lloyd, Bryntirion, a Mri. Robert Jenkins, Cilfynydd, a John Morgan, Gyfeillion, i wneud y gwaith. Cyflwynodd eglwys Bethel yr ysgoldy a adeiladwyd yn 1904 i'r achos, a sefydlwyd eglwys Babell, 8 Mawrth 1906.

Hanes archifol

Ffynhonnell

Adneuwyd gan y Parch. J. E. Wynne Davies, Aberystwyth, Mawrth 2004.; 0200403095

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Cofysgrifau eglwys Babell, Pont Siôn Norton, 1906-1948, yn cynnwys cyfrifon a chasgliad y Weinidogaeth.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Croniadau

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

System o drefniant

Trefnwyd yn dair ffeil: casgliad y Weinidogaeth; cyfrifon y Weinidogaeth; a chyfrifon amrywiol.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffuflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

  • Cymraeg
  • Saesneg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg, Saesneg

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LlGC, 2001-.

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Crewyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls004323758

GEAC system control number

(WlAbNL)0000323758

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Medi 2005

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan Barbara Davies.

Nodyn yr archifydd

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Braslun o hanes Bethel, Cilfynydd, 1887-1937 (1938); a'r archif ei hun.

Ardal derbyn

Genres cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig

Storfa ffisegol

  • Text: CMA: Cofysgrifau Eglwys Babell, Pont Siôn Norton.