fonds GB 0210 BETTAN - CMA: Cofysgrifau Eglwys Bethel, Tanygrisiau

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 BETTAN

Teitl

CMA: Cofysgrifau Eglwys Bethel, Tanygrisiau

Dyddiad(au)

  • 1837-2008 / (Creation)

Lefel y disgrifiad

fonds

Maint a chyfrwng

3 bocs & 1 bocs bychan; 0.095 metrau ciwbig.

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes gweinyddol

Agorwyd Capel Bethel, Tanygrisiau yn 1838. Nifer yr aelodau ar y pryd oedd 36. Erbyn 1840 roedd y nifer wedi codi i 100 ac roedd y capel cyntaf bellach yn rhy fach. Dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu ail gapel yn 1840 ac fe'i agorwyd yn 1841. Yn 1864 adeiladwyd trydydd capel mwy o faint, a'r flwyddyn ddilynol adeiladwyd Tŷ'r Capel. Cafwyd ychwaneg o newidiadau i'r capel, sef gosod galeri yn 1870, tŷ newydd i'r Gweinidog yn 1896 ac adeiladu festri yn 1906, a agorwyd yn 1907.

Hanes archifol

Ffynhonnell

Y Parch. J. E. Wynne Davies, Aberystwyth, a Mr Geraint Lloyd Jones, Penrhyndeudraeth; Adnau; Mawrth 2004 & Mehefin 2010; 0200403112.

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Cofysgrifau Eglwys Bethel, Tanygrisiau, Sir Feirionnydd, 1837-1960, yn cynnwys cofrestri eglwysig a chofrestr y Gymdeithas Ddirwestol, llyfrau casgliadau ariannol tuag at y Weinidogaeth, a llyfrau'r trysorydd, ynghyd â phapurau'n ymwneud ag adeilad ac eiddo y capel, ystadegau, papurau'n ymwneud ag elusen Robert Roberts, a ffotograffau. Derbyniwyd cofysgrifau ychwanegol, Mehefin 2010, gan gynnwys llyfr casgliadau, 2004-2008, llyfr cyfrifon, 1944-1958 a phapurau rhydd.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a adneuwyd i'r Llyfrgell..

Croniadau

System o drefniant

Trefnwyd yr archif yn LlGC yn chwe chyfres: elusen Robert Roberts; cyfrifon; adeilad ac eiddo; cofrestri; papurau gweinyddol; a ffotograffau ac anerchiad.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

  • Cymraeg
  • Saesneg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg oni nodir yn wahanol.

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Ceir papurau yn ymwneud ag Eglwys Bethel, Tanygrisiau yn Archifdy Prifysgol Cymru Bangor, yng Nghasgliad Cyffredinol Llawysgrifau Bangor 1525-1530, 2542-2543, sef cofnodion capel, 1843-1860, yn cynnwys, llyfrau cyfrifon, casgliadau misol, ac ystadegau; cofrestr yn cynnwys bedyddiadau, 1843-1849; a llyfrau cyfrifon eraill yn cynnwys gwybodaeth megis nifer yr aelodau a nifer y dirwestwyr; ynghyd â dau lyfr nodiadau yn llaw William Mona Williams - yn hunangofiant a hanes Methodistiaeth yn Nhanygrisiau, 1863-1871; yn LlGC: CMA 15045-68; CMA 21404-7; CMA 27524-5; ceir deunydd perthynol hefyd yn NLW MSS 18297A (cyfrifon, 1838-1873), 18298A (eisteddleoedd, 1843-1845), 18299B (cyfraniadau, 1861-1870), 18300C (cyfrifon, 1868-85), 18301-3B (cofnodion cyfarfodydd cymdeithasau, 1880-1884), 21911E a 2710C; ynghyd ag adroddiadau blynyddol y capel.

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls004323778

GEAC system control number

(WlAbNL)0000323778

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LLGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Medi 2005.

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan Nia Wyn Dafydd.

Nodyn yr archifydd

Defnyddiwyd y ffynhonnell ganlynol wrth lunio'r rhestr: Canrif o hanes: sef hanes yr achos Methodistaidd yn Nhanygrisiau, 1809-1909 gan David O. Hughes (Blaenau Festiniog, [1909?]);

Ardal derbyn

Genres cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig

Storfa ffisegol

  • Text: CMA: Cofysgrifau Capel Bethel, Tanygrisiau.