Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- dd. (Creation)
Level of description
File
Extent and medium
Context area
Name of creator
Archival history
Immediate source of acquisition or transfer
Content and structure area
Scope and content
Copiau llawysgrif, teipysgrif a phrintiedig o gerddi a gyhoeddwyd yn Yr Haf A Cherddi Eraill neu Cerddi'r Gaeaf. Rhwymwyd hwynt yn ôl eu trefn yn y cyfrolau hynny. Yn y rhestr cynnwys sy'n dilyn, nodir unrhyw wahaniaeth sydd rhwng cerddi'r gyfrol wneud a'r cerddi fel y'u cyhoeddwyd yn ogystal a gwahaniaeth teitl. Ceir rhestr deipiedig o'r cynnwys hefyd ar flaen y gyfrol. 16 Ff. I Yr Iberiad [gw. Yr Haf A Cherddi Eraill, t. 40. Pennill 1-5 yn unig; pennill 5 yn wahanol]. Ii In Memoriam, Mary Roberts, Gwyddfor, 1841-1917 [gw. 'Gwragedd, 1', Yr Haf A Cherddi Eraill, t. 46). Iii Yr Haf [gw. Yr Haf A Cherdd i Eraill, t. 51. Pytiau yn unig]. Vii Cyfieithiad o Emyn J. S. Arkwright [gw. 'Gorffwys', Yr Haf A Cherddi Eraill, t. 98. 2 gopi, un yn dwyn y teitl 'Memorial Hymn' ac yn cynnwys y gerddoriaeth gan E. T. D[avies]. Ceir sylwadau llawysgrif ar y modd y dylid lliwio'r canu]. Ix Eifionydd [gw. Cerddi'r Gaeaf, t. 2. Ceir 2 fersiwn o'r ail bennill a'r pedwerydd]. X Y Ffliwtydd [gw. Cerddi'r Gaeaf, t. 43. Mae'r pennill olaf yn wahanol.]. Xi Erledigaeth [gw. 'Hitleriaeth', Cerddi'r Gaeaf, t. 60. Rhai amrywiadau]. Xii Y Genedl Gymreig [gw. 'Ein Didduw Brydyddion', Cerddi'r Gaeaf, t. 67. Nifer o wahaniaethau, yn enwedig yn y chwechawd]. Xiii Dyffryn Nantlle Ddoe a Heddiw (Y fersiwn cyntaf) [gw. Cerddi'r Gaeaf, t. 83. Fersiwn hollol wahanol i'r un a gyhoeddwyd]. Xiv "Dwy Galon Yn Ysgaru" [gw. Cerddi'r Gaeaf t. 85. 2 fersiwn. Nifer o amrywiadau]. Xvi Y Diweddar David Hughes, Llanarmon-Yn-Iâl [gw. Cerddi'r Gaeaf, t. 91. 2 englyn ynghyd â theyrnged fer. Esgyll yr ail englyn yn wahanol i'r hyn a gyhoeddwyd].
Appraisal, destruction and scheduling
Accruals
System of arrangement
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Conditions governing reproduction
Language of material
Script of material
Language and script notes
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Preferred citation: 5.